Mae gofal plant wedi’i ariannu ar gyfer plant 2 oed cymwys ar gael drwy’r cynllun Dechrau’n Deg Wrecsam, o’r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn ddwy oed tan y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed.

Sicrhewch fod y Dechrau'n Deg i'ch plentyn

Yn Wrecsam, rydym wedi ymrwymo i roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i'n plant ieuengaf. 

Mae plant mewn darpariaeth gofal plant Dechrau'n Deg yn dysgu trwy chwarae. Mae darparwyr gofal plant Dechrau'n Deg yn cynnig mynediad i amgylchedd galluogi o safon uchel. Mae’r plant yn cael eu cefnogi gan ymarferwyr sylwgar tra chymwys sy’n blaenoriaethu lles y plentyn.

Mae manteision gofal plant Dechrau'n Deg ar gyfer eich plentyn yn cynnwys...

  • dysgu sgiliau newydd 
  • magu hyder 
  • archwilio a dilyn eu chwilfrydedd a'u diddordebau 
  • datblygu annibyniaeth
  • datblygu creadigrwydd a dychymyg 
  • dysgu siarad Cymraeg 
  • gwneud ffrindiau
  • cael llawer o hwyl dan do ac yn yr awyr agored.

Sut mae’r gofal plant yn cael ei ddarparu

Darperir y gofal plant am hyd at 5 sesiwn yr wythnos, am 2 awr a hanner y dydd dros 39 wythnos o’r flwyddyn – ar ôl tymor ysgol (o’r tymor ar ôl pen-blwydd y plentyn yn ddwy oed tan y tymor ar ôl pen-blwydd y plentyn yn dair oed). 

Mae dewis o ddarpariaeth gofal plant Cymraeg neu Saesneg ar gael.

Dim ond trwy un darparwr/lleoliad ar y tro y byddwch yn gallu cael mynediad at y gofal plant. Dim ond darparwyr gofal plant sydd wedi’u cymeradwyo i ddarparu’r cynnig gofal plant Dechrau’n Deg ar gyfer plant 2 oed y gallwch chi ddefnyddio. 

Llai o sesiynau

Os nad oes angen i chi ddefnyddio'r hawl lawn o 5 sesiwn yr wythnos gallwch wneud cais am lai o sesiynau. Dylech gofnodi'r dewis hwn a'r rheswm ar y ffurflen gais pan fyddwch yn ei llenwi.

Argymhellir eich bod yn defnyddio o leiaf 3 sesiwn yr wythnos.

Cymhwysedd

Bydd angen i chi fyw yn un o'r ardaloedd cod post Wrecsam a nodir isod a rhaid i'ch plentyn droi'n 2 rhwng dyddiadau penodol cyn i'r tymor y gwnewch gais amdano ddechrau.

Cymhwysedd ardal

Mae cymhwysedd ar gyfer gofal plant Dechrau’n Deg yn seiliedig ar god post ac wedi’i rannu’n ‘Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is’ (LSOAs). Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ar ôl y rhestrau canlynol i wirio a yw eich cyfeiriad o fewn un o'r ardaloedd hyn. Fe fyddwch chi hefyd yn gymwys am y cynnig gofal plant os ydych chi’n derbyn gwasanaethau, megis Dechrau’n Deg fel Estyn Allan.

Ardaloedd daearyddol diffiniedig yw Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is sy'n llai nag ardal tref bost neu ardal. Er enghraifft, mae un ardal fel Coedpoeth yn cynnwys 3 Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is ar wahân.

Bydd plant sy’n byw mewn unrhyw god post yn yr Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is a ganlyn yn gymwys:

  • Acton 2 
  • Brymbo 2 
  • Bryn Cefn 
  • Cartrefle 1 
  • Cartrefle 2
  • Coedpoeth 1
  • Coedpoeth 3 
  • Grosvenor 2
  • Gwenfro 
  • Gogledd Gwersyllt 2 
  • Hermitage 1
  • Hermitage 2 
  • Johnstown 2
  • New Broughton 2 
  • Pant 
  • Penycae 
  • Pen-y-cae a De Rhiwabon 2 
  • Plas Madoc
  • Queensway 1
  • Queensway 2
  • Rhiwabon 1 
  • Wynnstay

Bydd plant sy’n byw mewn codau post dethol yn yr Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is a ganlyn hefyd yn gymwys:

  • Brymbo 1
  • Cefn 1
  • Cefn 2
  • Cefn 3
  • Gorllewin Gwersyllt 1
  • Llai 1
  • Llai 2
  • Llai 3
  • New Broughton 1
  • Smithfield 2
  • Smithfield 3
  • Whitegate 1
  • Whitegate 2

Bydd y rhestr hon yn cael ei diweddaru wrth i Dechrau’n Deg fynd trwy ehangiad cenedlaethol o’i wasanaethau gofal plant, gyda mynediad at ofal plant o safon yn cael ei gynnig i fwy o deuluoedd. 

Gwiriwch eich cod post

Bydd y proses cais ar-lein ond yn galluogi i’ch cais fynd yn ei flaen os ydych yn byw mewn ardal gyda chod post cymwys .

I wirio a yw eich cod post yn gymwys, cysylltwch â’ch Ymwelydd Iechyd, neu ein Tîm Gofal Plant Dechrau’n Deg Wrecsam drwy e-bostio FlyingStartChildcare@wrexham.gov.uk neu ffonio 01978 297270.

Cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam.

Cymhwysedd oedran

Rhaid i blentyn fod yn ddwy oed cyn y tymor y mae i fod i ddechrau darpariaeth gofal plant Dechrau'n Deg. 

Dyddiadau terfyn pen-blwydd ar gyfer cymhwysedd gofal plant Dechrau'n Deg
Dyddiadau y mae'n rhaid i'ch plentyn droi 2 oed rhyngddynt i fod yn gymwysDyddiadau Tymor yr Ysgol
1 Ebrill  – 31 Awst Tymor yr hydref (1 Medi – 31 Rhagfyr)
1 Medi – 31 Rhagfyr Tymor y gwanwyn (1 Ionawr - 31 Mawrth)
1 Ionawr  – 31  Mawrth Tymor yr haf (1 Ebrill – 31 Awst)

Sut i wneud cais

Byddwch chi (rhiant neu ofalwr y plentyn) angen llenwi Ffurflen Gais Gofal Plant Dechrau'n Deg ar gyfer Plentyn 2 oed. Dim ond pan fydd eich plentyn yn 15 mis oed y gallwch wneud cais.  

Mae’n rhaid i chi fod yn byw mewn ardal gyda chod post cymwys er mwyn gallu llenwi’r cais ar-lein. I’r rheini sydd yn derbyn gwasanaethau Dechrau’n Deg fel Estyn Allan, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gais gofal plant ar bapur gyda’ch Ymwelydd Iechyd Dechrau’n Deg. 

Ymgeisiwch rŵan

Ar gyfer rhieni/gofalwyr sydd methu cael gafael ar y broses ymgeisio ar-lein, gallwch ofyn am ffurflen y gallwch ei llenwi a’i chyflwyno yn y post neu trwy gyfrwng e-bost.  Os byddwch chi angen ffurflen, gofynnwch i’ch Ymwelydd Iechyd neu cysylltwch â Thîm Dechrau’n Deg drwy anfon e-bost at FlyingStartChildcare@wrexham.gov.uk neu drwy ffonio 01978 297270.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau

Rhaid i chi gyflwyno eich ffurflen gais erbyn y dyddiadau cau isod fel y gellir dyrannu lleoedd ar gyfer dechrau pob tymor:

Lle ar gyfer 2023

Dyddiad cau ar gyfer tymor yr hydref yn dechrau Medi 2023: 9 Mawrth, 2023

Lle ar gyfer 2024

Dyddiad cau ar gyfer tymor y gwanwyn yn dechrau Ionawr 2024: 10, Awst 2023
Dyddiad cau ar gyfer tymor yr haf yn dechrau Ebrill 2024: 9 Rhagfyr, 2023
Dyddiad cau ar gyfer tymor yr hydref yn dechrau Medi 2024: 8 Mawrth, 2024

Lle ar gyfer 2025

Dyddiad cau ar gyfer tymor y gwanwyn yn dechrau Ionawr 2025: 9 Awst, 2024
Dyddiad cau ar gyfer tymor yr haf yn dechrau Ebrill 2025: 10 Rhagfyr, 2024
Dyddiad cau ar gyfer tymor yr hydref yn dechrau Medi 2025: 10 Mawrth, 2025

Ceisiadau hwyr 

Os cyflwynir ffurflen gais ar ôl y dyddiad cau perthnasol bydd yn dal i gael ei ystyried ar gyfer lle gofal plant. Os bydd lleoedd ar gael, bydd lle yn cael ei ddyrannu. Os nad oes lleoedd ar gael, gall ein swyddog mynediad drafod dewisiadau pellach gyda chi. 

Os byddwch yn gwrthod cynnig dyrannu arall, neu os nad oes lleoedd eraill ar gael, bydd eich plentyn yn cael ei roi ar restr aros. Yna byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y bydd lle ar gael.

Beth sy'n digwydd unwaith y bydd lle wedi'i ddyrannu i'ch plentyn

Bydd Swyddog Derbyniadau Dechrau’n Deg yn anfon e-bost atoch chi’n cadarnhau’r ddarpariaeth gofal plant a neilltuwyd.   

Os ydych chi wedi cyflwyno cais ar gyfer mwy nag un plentyn, byddwch yn derbyn e-bost ar wahân ar gyfer pob cais. 

Bydd y darparwr gofal plant yn cysylltu â chi er mwyn cadarnhau’r dyddiad cofrestru i’ch plentyn fynychu. Fel arfer, cynhelir y diwrnod cofrestru ar ddechrau pob tymor ysgol.

Sylwer mai dim ond Swyddog Derbyniadau Dechrau’n Deg sydd â’r rôl o ddyrannu lleoedd gofal plant a rhoi gwybod i’r lleoliadau gofal plant a rhieni/gofalwyr am y lleoliadau.

Mwy o geisiadau am le na’r lleoedd sydd ar gael 

Os bydd mwy o rieni/gofalwyr yn gofyn am le na’r hyn sydd ar gael mewn lleoliad, defnyddir meini prawf ar gyfer mwy o geisiadau na’r lleoedd sydd ar gael.  

Os bydd hyn yn digwydd efallai y cewch gynnig lle gyda'ch ail ddewis neu drydydd dewis yn lle hynny. Os nad yw plentyn yn cael lle yn eu dewis o leoliad Dechrau'n Deg, nid oes hawl ffurfiol i apelio yn erbyn y penderfyniad. 

Os byddwch yn gwrthod cynnig mewn darpariaeth gofal plant arall byddwch yn cael eich rhoi ar restr aros tan fydd lle o’ch dewis ar gael.