Beth yw’r Rhwymedigaeth Cwmni Ynni?

Mae’r Rhwymedigaeth Cwmni Ynni (ECO) yn gynllun effeithlonrwydd ynni gan Lywodraeth y DU i helpu i ostwng allyriadau carbon a nifer yr aelwydydd sydd mewn tlodi tanwydd.

Dan y cynllun, mae gofyn i rai cwmnïau ynni ddarparu cyllid i aelwydydd cymwys ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni.

Os ydych chi’n cael budd-daliadau cymwys neu’n bodloni’r meini prawf cymhwyso mae’n bosibl y byddwch chi neu eich tenant yn gymwys i gael cyllid tuag at welliannau effeithlonrwydd ynni yn eich cartref.

Mae rhagor o wybodaeth i’w gweld ar wefan Ofgem (dolen gyswllt allanol).

Allaf i elwa o’r Rhwymedigaeth Cwmni Ynni?

Er mwyn elwa o’r Rhwymedigaeth Cwmni Ynni, bydd angen i’ch eiddo fod angen gwaith uwchraddio effeithlonrwydd ynni. Byddai asesiad ôl-osod yn penderfynu pa fesurau penodol fyddai o fudd i’ch cartref. Mae’n rhaid i chi fod yn berchen ar eich cartref eich hunain neu gael caniatâd gan eich landlord, gan gynnwys os mai darparwr tai cymdeithasol neu gwmni rheoli sy’n berchen ar yr eiddo.

Gallwch gysylltu ag unrhyw un o’r cyflenwyr ynni dan rwymedigaeth (dolen gyswllt allanol) i ganfod sut gallant eich helpu chi i elwa o’r cynllun Rhwymedigaeth Cwmni Ynni, hyd yn oed os nad nhw yw eich darparwr ynni.

Gweithredir y cynllun ECO-Flex gan gwmnïau preifat (gosodwyr), a chaiff y cyllid ar gyfer y gwelliannau ei ddyfarnu gan y cwmnïau ynni. 

Mae’n bwysig nodi nad yw cymhwysedd ar gyfer y Rhwymedigaeth Cwmni Ynni yn golygu y bydd cyflenwr neu osodwr ynni’n penderfynu gosod mesurau effeithlonrwydd ynni yn eich cartref. 
 

Pa welliannau allwn i fod yn gymwys ar eu cyfer?

Bydd eich gosodwr/gosodwyr yn cynnal arolwg a nodi pecyn o welliannau sy’n addas ar gyfer eich eiddo.

Os byddwch chi’n gymwys, gallech gael unrhyw un o’r gwelliannau a restrir isod. Nid yw hon yn rhestr gyflawn a gallai gwelliannau eraill fod ar gael yn dibynnu ar y gosodwr.

  • Inswleiddiad atig
  • Inswleiddiad to ar oleddf
  • Inswleiddiad to fflat
  • Inswleiddiad gofod mewn to
  • Inswleiddiad wal geudod
  • Inswleiddiad wal allanol
  • Inswleiddiad wal mewnol
  • Inswleiddiad llawr (lloriau caled neu loriau crog)
  • Pympiau gwres yr awyr
  • Pympiau gwres o’r ddaear
  • Boeleri nwy
  • Boeleri trydan
  • Boeleri biomas
  • Rheolyddion gwres
  • Gwresogyddion stôr trydan
  • Paneli solar ffotofoltäig
  • Drysau allanol perfformiad uchel
  • Gwydr ffenestri
  • Atal drafft

Ydw i’n gymwys?

Mae aelwydydd incwm isel sydd mewn tlodi tanwydd yn gymwys ar gyfer y Rhwymedigaeth Cwmni Ynni. Os ydych chi’n cael budd-daliadau ac yn byw mewn eiddo â sgôr effeithlonrwydd ynni isel, gallwch wneud cais uniongyrchol trwy gwmni ynni.

Dim ond ar gyfer perchen-feddianwyr preifat a deiliaid contract rhentu’n breifat y mae’r cyllid hwn ar gael.

Sut mae dod o hyd i osodwr?

Mae rhestr gyflawn o gontractwyr cymeradwy wedi’i chyhoeddi ar dudalen Wrecsam gwefan Cymru Gynnes (dolen gyswllt allanol).

Beth arall fydd angen i mi ei wirio?

Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio a oes angen caniatâd cynllunio neu gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu arnoch. Mae’n bosibl y bydd angen caniatâd cynllunio a chymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer mathau penodol o inswleiddiad fel insiwleiddio wal allanol ac fel perchennog/landlord, eich cyfrifoldeb chi fydd gwneud cais amdano.

Sut fydda i’n gwybod os wyf i’n gymwys?

Bydd y gosodwr sy’n gweithio ar ran y cyflenwr ynni yn penderfynu pa lefel o gymorth a math o welliannau y gallech eu cael.

Nid yw datganiad cymhwyster wedi’i lofnodi yn gwarantu y caiff unrhyw welliannau eu gosod, oherwydd bod y penderfyniad terfynol yn ystyried addasrwydd y gwelliannau ar gyfer eich eiddo ac a fydd y gwelliant yn cynyddu lefelau effeithlonrwydd ynni eich cartref neu beidio.

Beth os na fyddaf i’n hapus gyda’r gosodiad?

Dylai cwynion dechreuol am osodiad gael eu gwneud i ddechrau i’r cwmni a osododd y mesur, ond os bydd problemau’n parhau, dylech gysylltu â Gwasanaethau Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth (dolen gyswllt allanol) i gael cyngor diduedd am ddim.

Pwy sy’n ariannu’r Rhwymedigaeth Cwmni Ynni?

Mae’r Llywodraeth wedi ei gwneud yn ofynnol bod y cwmnïau ynni mawr yn darparu’r cyllid i dalu am y gwelliannau effeithlonrwydd ynni i’ch cartrefi.

Caiff y cyllid ei drosglwyddo'n uniongyrchol i osodwr preifat, sy’n gorfod bod yn gwmni achrededig PAS2030/TrustMark er mwyn gallu gosod mesurau effeithlonrwydd ynni yn eich cartref.

Pwy sy’n gweinyddu’r Rhwymedigaeth Cwmni Ynni?

Ofgem sy’n gweinyddu’r cynllun ar ran Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) Llywodraeth y DU.

Mae dyletswyddau Ofgem yn cynnwys dyrannu targedau i gyflenwyr dan rwymedigaeth, monitro cynnydd cyflenwyr a phenderfynu a ydynt wedi cyflawni eu rhwymedigaethau, adrodd yn ôl wrth yr Ysgrifennydd Gwladol, archwilio, sicrhau cydymffurfiaeth ac atal a chanfod twyll.

BEIS sy’n gosod y polisi cyffredinol ar gyfer y cynllun Rhwymedigaeth Cwmni Ynni.