Fel rhan o’n hymdrechion i gefnogi preswylwyr drwy’r argyfwng costau byw, fe sefydlom ‘mannau cynnes’ cymunedol yn Wrecsam. Mae’r rhain eisoes yn fannau cynnes lle gall pobl ddod i gadw’n gynnes. 

Mae ein llyfrgelloedd yn fannau diogel a chroesawgar lle gall unrhyw un sydd eisiau, ddod i mewn a bod yn gyfforddus.

Llyfrgelloedd sy’n cymryd rhan

  • Llyfrgell Brynteg 
  • Llyfrgell Cefn Mawr 
  • Llyfrgell y Waun 
  • Llyfrgell Coedpoeth
  • Llyfrgell Gwersyllt
  • Llyfrgell Llai 
  • Llyfrgell Owrtyn 
  • Llyfrgell Rhos  
  • Llyfrgell Rhiwabon 
  • Llyfrgell Wrecsam 

Gallwch ddod o hyd i’r amseroedd agor a’r cyfeiriadau ar y dudalen ‘eich llyfrgell leol’

Cyngor a Chefnogaeth

Cyngor am incwm a chyllid

Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd talu eich biliau, efallai fod gennych hawl i help a chyngor ariannol.

Os ydych chi’n denant i’r Cyngor, gallwch hefyd gael cymorth, cyngor ac arweiniad drwy’r Swyddogion Cynhwysiant Ariannol sydd yn swyddfa eich ystâd dai leol.

Cyngor ar arbed ynni yn y cartref

Dyma ambell beth hawdd y gallwch eu gwneud i arbed ynni yn y cartref:

  • Newid bylbiau golau traddodiadol am fylbiau LED sy’n defnyddio llai o ynni
  • Atal drafft rhag dod i mewn i’r tŷ, defnyddio tiwbiau sbwng ar ffenestri a brws drafft ar eich twll llythyrau
  • Llenwi eich peiriant golchi bob tro rydych yn ei ddefnyddio, fel eich bod yn golchi lai o weithiau
  • Berwi hynny o ddŵr rydych ei angen yn unig
  • Diffodd unrhyw declynnau yn y wal
  • Addasu thermostatau ar eich gwresogyddion (os oes gennych chi rai)
  • Rhoi deunydd ynysu am eich silindr dŵr poeth
  • Gwirio pwysedd eich boeler (dolen gyswllt allanol)

Mae’r sefydliadau canlynol yn cynnig cyngor am ffyrdd o leihau eich defnydd o ynni ac arbed arian.

Cyngor ar arbed ynni i fusnesau

Gallech leihau costau ynni eich busnes drwy:

  • Gynnal eich archwiliad eich hun o ynni
  • Newid cyflenwr ynni, neu newid i dariff newydd
  • Diffodd unrhyw declynnau yn y wal
  • Annog pobl rydych chi’n gweithio gyda nhw i arbed ynni

Os yw’r arian gennych chi, gallai’r camau hyn eich helpu i arbed arian yn y tymor hir:

  • Newid bylbiau traddodiadol am rai LED
  • Cael cyfarpar effeithlon o ran ynni i’r swyddfa
  • Cael thermostat mae modd ei osod ar raglen
  • Sicrhau bod digon o ddeunydd ynysu yn eich gweithle
  • Cael meddalwedd rheoli ynni, sy’n rhoi gwybod i chi os ydych yn defnyddio gormod o ynni

Mae’r sefydliadau canlynol yn cynnig cyngor am ffyrdd o leihau defnydd o ynni ac arbed arian.

Cyngor/awgrymiadau eraill

Mae’r sefydliadau canlynol yn cynnig cyngor am arbed arian drwy leihau eich effaith ar yr amgylchedd.