Bin gwastraff cartref du/glas
Beth sy’n mynd i mewn i’r bin gwastraff cartref du/glas?
Gallwch roi unrhyw wastraff cartref nad oes posib’ ei ailgylchu neu ei gompostio yn eich bin gwastraff cartref du/glas, fel...
- Pecynnau creision
- Papurau fferins/siocled
- Gorchuddion plastig
- Plastig glynu
- Papur swigod
- Polystyren
- Clytiau
Dim diolch!
Unrhyw eitemau y gallech eu hailgylchu gan ddefnyddio eich cynwysyddion eraill.
Mae bin gwastraff tŷ 240 litr yn gymwys i’w gasglu unwaith bob pythefnos.
Ni fydd gwastraff ochr y ffordd yn cael ei gasglu.
Blychau a sach
Beth sy’n mynd i fy mlychau a sach?
Blwch gwyrdd
- Poteli plastig
- Potiau plastig
- Hambyrddau plastig
- Tybiau plastig
- Caniau
- Tuniau
- Aerosolau
- Ffoil glân
“Pa blastig dwi’n gallu ei ailgylchu yn Wrecsam?” Dysgwch fwy yma…
Blwch du
- Poteli gwydr
- Jariau gwydr
Sach glas
- Deunydd pacio cardfwrdd
- Cardfwrdd rhychog
- Sothach trwy’r post
- Papurau newydd
- Cylchgronau
- Y tudalennau melyn
- Catalogau
- Papur mân
- Amlenni
- Rhôl cardfwrdd papur tŷ bach
- Blychau cardfwrdd wyau
Dylid rhwygo blychau cardfwrdd mawr a’i roi yn eich sach glas i’w gasglu.
Dim diolch!
- Gwydr wedi torri
- Cartonau bwyd a diod
- Clytiau budr
- Cling ffilm
- Pacedi creision
Cesglir blychau a sachau ailgylchu bob wythnos.
Blychau ag olwynion
Beth gaiff fynd i’r blychau ag olwynion?
Blychau uchaf
- Deunydd pacio cardfwrdd
- Cardfwrdd rhychog
- Sothach trwy’r post
- Papurau newydd
- Cylchgronau
- Y tudalennau melyn
- Catalogau
- Papur mân
- Amlenni
- Tiwbiau cardfwrdd papur tŷ bach
- Blychau wyau cardfwrdd
- Dylid rhwygo blychau cardfwrdd mawr a’u rhoi yn y blwch uchaf i’w casglu.
Blwch canol
- Poteli plastig
- Potiau plastig
- Hambyrddau plastig
- Tybiau plastig
- Caniau
- Tuniau
- Aerosolau
- Ffoil glân
Blwch gwaelod
- Poteli gwydr
- Jariau gwydr
Dim diolch!
- Gwydr wedi torri
- Cartonau bwyd a diod
- Clytiau budr
- Cling ffilm
- Pecynnau creision
Cesglir blychau ar olwynion bob wythnos.
Cadi ochr y ffordd
Mae casgliadau gwastraff bwyd wythnosol bellach yn weithredol trwy Wrecsam.
Beth gaiff fynd i’r cadi ochr y ffordd?
- Ffrwythau a llysiau – amrwd ac wedi coginio
- Cig a physgod – amrwd ac wedi coginio
- Esgyrn a phlisgyn
- Reis, pasta, grawnfwyd a nwdls
- Bara, cacennau, pastai a bisgedi
- Bagiau te a gwaddodion coffi
- Caws, wyau ac iogwrt
- Ffa, cnau a hadau
- Gwastraff bwyd oddi ar eich plât
Dim diolch!
- Bagiau plastig
- Deunydd pacio bwyd
Leiners y gellir eu compostio
Fe allwch chi ofyn am fwy o leiners am ddim drwy glymu leiner gwag i handlen eich cadi ymyl palmant ar y diwrnod casglu.
Cewch brynu bagiau compostadwy yn rhan fwyaf y prif archfarchnadoedd. Defnyddiwch fagiau compostadwy gyda’r logo bioplastig Ewropeaidd.
Cesglir cadis ymyl palmant bob wythnos.
Peidiwch fyth â defnyddio bagiau plastig gan nad ydyn nhw’n dadelfennu.
Biniau ailgylchu cymunedol
Beth sy’n mynd i’r bin cymunedol?
Papur a chardfwrdd
- Deunydd pacio cardfwrdd
- Cardfwrdd rhychog
- Sothach trwy’r post
- Papurau newydd
- Cylchgronau
- Y tudalennau melyn
- Catalogau
- Papur mân
- Amlenni
- Tiwbiau cardfwrdd papur tŷ bach
- Blychau wyau cardfwrdd
Plastig cymysg
- Poteli plastig
- Potiau plastig
- Hambyrddau plastig
- Tybiau plastig
Gwydr
- Poteli gwydr
- Jariau gwydr
Tuniau a chaniau
- Caniau yfed
- Tuniau bwyd
- Aerosolau
- Ffoil glân
Dim diolch!
- Gwydr wedi torri
- Cartonau bwyd a diod
- Clytiau budr
- Cling ffilm
- Pacedi creision
- Bagiau plastig
Gofynnwn i chi beidio â rhoi bagiau cario plastig yn y biniau ailgylchu cyffredin. Bydd hyn yn eu halogi ac efallai na fydd eich bin ailgylchu'n cael ei wagio.
Bin gwastraff gardd
Dechreuodd ein gwasanaeth gwastraff gardd y codir tâl amdano ar 31 Awst 2020. Mae hyn yn golygu mai dim ond biniau gwastraff gardd yr aelwydydd sydd wedi cofrestru â’r gwasanaeth y byddwn ni’n eu gwagio.
Darllenwch fwy o wybodaeth am y gwasanaeth casglu gwastraff gardd.
Beth allaf roi yn y bin gwastraff gardd?
- Toriadau glaswellt
- Toriadau gwrychoedd a llwyni
- Brigau a changhennau bach
- Chwyn
- Planhigion
- Blodau marw
- Dail a rhisgl
Dim diolch!
- Pridd
- Pren
- Brics
- Cerrig
- Lludw
- Clymog Japan
- Bagiau plastig
- Gwelyau anifeiliaid anwes
- Baw anifeiliaid ac anifeiliaid anwes
- Cardbord
- Papurau newydd
- Gwastraff Bwyd
- Gwastraff cyffredinol
Cofiwch y medrwch fynd a’ch gwastraff gardd i’ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref agosaf yn rhad ac am ddim. Neu, os oes gennych le, gallwch ei gompostio yn y gartref.
Eitemau swmpus o’r cartref
Mae rhai eitemau yn rhy fawr neu’n rhy drwm ar gyfer eich casgliad sbwriel arferol (fel dodrefn, nwyddau gwyn ac offer gardd). Os oes gennych unrhyw eitemau swmpus gallwch archebu gwasanaeth gwaredu eitemau swmpus o’r cartref.
Fel arall gallwch fynd a’r eitemau i’ch canolfan ailgylchu gwastraff cartref lleol a gallwch hefyd gyfrannu dodrefn i lefydd yn Wrecsam.
Chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa bin
Wrth gofrestru i dderbyn nodiadau atgoffa byddwch yn derbyn neges e-bost wythnosol y diwrnod cyn eich diwrnod casglu - felly ni fydd raid i chi gofio pa fin sy’n mynd pa bryd.