Pa mor aml y cesglir gwastraff gardd a beth ga i roi yn fy min gwastraff gardd?
Rydym yn casglu gwastraff gardd bob pythefnos rhwng 1 Mawrth a 30 Tachwedd, ar yr un diwrnod yr ydym yn casglu eich gwastraff ailgylchu a gwastraff bwyd.
Caiff gwastraff gardd ei gasglu bob mis yn ystod Rhagfyr, Ionawr a Chwefror, ond dychwelir i gasgliadau bob pythefnos unwaith eto ym mis Mawrth.
Gallwn dderbyn toriadau glaswellt, tociadau gwrychoedd a llwyni, brigau a changhennau bach, chwyn, planhigion, blodau marw, dail a rhisgl.
Fedrwn ni ddim cymryd unrhyw bridd, coed, brics, cerrig, lludw, clymog Japan, bagiau plastig, gwelyau anifeiliaid anwes, baw anifeiliaid ac anifeiliaid anwes, gwastraff bwyd eu unrhyw wastraff cyffredinol.
Ynghylch y gwasanaeth
Ei dalu/cofrestrwch ar-lein
Gallwch hefyd ddefnyddio'r ffurflen ar-lein i archebu a thalu am fin gwastraff gardd newydd.
Faint mae’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd yn ei gostio a sut medra i gofrestru?
Cost y gwasanaeth
Y gost yw £25 y bin ar gyfer 2022/23 ac mae’r gwasanaeth yn para o Medi 5, 2022 tan Medi 1, 2023. Gallwch gofrestru ar gyfer y gwasanaeth unrhyw dro yn ystod y flwyddyn
Ni fedrwn dderbyn rhandaliadau, rhaid gwneud pob taliad yn llawn.
Sut i gofrestru
Y ffordd hawsaf a chyflymaf o wneud hyn yw ar-lein.
Fel arall, gallwch alw Strydoedd o Fri ar 01978 298989 er mwyn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth.
Gall gymryd hyd at 10 diwrnod gwaith i ni gofrestru'r ceisiadau a phostio'ch llythyr cadarnhau, Telerau ac Amodau a'ch label gludiog i chi. Bydd eich sticer casglu yn cael ei anfon yn y post i'r cyfeiriad a ddarperir ar y ffurflen hon, bydd manylion pellach y gwasanaeth yn cael eu cynnwys yn y llythyr eglurhaol a'r pecyn gwybodaeth.
Sut ydych chi'n gwybod pwy sydd wedi talu am gasglu gwastraff gardd a phwy sydd ddim?
Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth byddwch yn derbyn label(i) gludiog i lynu ar eich gaead(iau) bin gwastraff gardd. Bydd y label yn nodi'r cyfeiriad y mae'r bin yn perthyn iddo a bydd yn helpu'r criw casglu i nodi'n gyflym bod y gwasanaeth wedi cael ei dalu amdano.
A allaf rannu bin gwastraff gardd gyda fy nghymydog?
Gallwch, gallwch gytuno â hyn â'ch cymydog. Ar ddiwrnod casglu, rhaid i'r bin gwastraff gardd fod y tu allan i eiddo deiliad y tŷ sydd wedi tanysgrifio i'r gwasanaeth.
Beth alla i ei wneud gyda fy ngwastraff gardd os nad ydw i eisiau talu am y gwasanaeth casglu?
Gallwch fynd â'ch gwastraff gardd i un o’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref (yn rhad ac am ddim). Neu, fe allech ei gompostio’r gwastraff gardd gartref.
Nid wyf am dalu am y gwasanaeth - a wnewch chi gael gwared ar fy min gwastraff gardd?
Os dewiswch beidio â thalu am y gwasanaeth hwn, ni fydd eich bin(iau) gwastraff gardd yn cael ei wagio ar ôl Medi 4, 2022.
Gellir cael gwared ar unrhyw finiau gwastraff gardd diangen os gofynnwch. Gallwch wneud cais am gael gwared ar fin gwastraff yr ardd trwy ddefnyddio ein ffurflen 'bin neu focsys newydd'.
Cais am gael gwared ar fin gwastraff yr ardd
Ar ôl gofyn am gael gwared o’r bin, gall gymryd nifer o wythnosau i'r bin gael ei gasglu. Yn y cyfamser, gwnewch yn siŵr bod eich bin yn parhau i fod yn wag, yn hygyrch, ond heb ei adael allan gan achosi rhwystr.
Efallai y byddai'n werth cadw gafael ar eich hen fin gwastraff gardd am y tro oherwydd, os ceir gwared ar eich bin gwastraff gardd a'ch bod chi'n newid eich meddwl yn y dyfodol, codir tâl am un newydd.
Beth sy’n digwydd os ydw i'n talu rhywun ar hyn o bryd i dorri fy nglaswellt neu i drin fy ngardd?
Os rhoddir deunyddiau gwastraff yr ardd yn eich bin gwastraff gardd, yna byddai angen i chi danysgrifio i'r gwasanaeth hwn o hyd. Fel arall, gallwch ofyn i'ch garddwr neu'r unigolyn sy'n gwneud y gwaith i chi, fynd â gwastraff yr ardd i ffwrdd a chael gwared arno’n gyfrifol (gallant godi tâl arnoch i wneud hynny).
Os ydych chi'n talu'ch garddwr, bydd y gwastraff yn cael ei ystyried yn wastraff masnach pan fyddant yn ei symud o'ch eiddo. Ni ellir mynd â gwastraff masnach i unrhyw un o'n canolfannau ailgylchu gwastraff cartref. Cofiwch, os ydych chi'n ddeiliad tŷ mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi wirio bod unrhyw un sy'n tynnu gwastraff o'ch eiddo wedi'i awdurdodi i wneud hynny o dan “Dyletswydd Gofal”. Gallai deiliaid tai nad ydynt yn cymryd mesurau rhesymol i wirio bod gweithredwyr yn gludwyr gwastraff cyfreithlon fod yn atebol i ddirwy.
Cefndir
Pam fod tâl yn cael ei gyflwyno am gasgliadau gwastraff gardd?
O ystyried y cyfnod cyni presennol a'r heriau ariannol parhaus yr ydym yn eu hwynebu fel cyngor, rydym wedi penderfynu cyflwyno tâl am y gwasanaeth hwn (yn debyg i'r hyn a gyflwynwyd eisoes gan nifer o gynghorau ledled Cymru a Lloegr).
Trwy godi tâl am gasgliadau gwastraff gardd mae hyn hefyd yn dilyn argymhellion Glasbrint Llywodraeth Cymru ar gyfer casgliadau gwastraff yng Nghymru.
Beth yw'r gyfraith ynghylch codi tâl am gasglu gwastraff gardd?
Mae Rheoliadau Gwastraff Rheoledig (Cymru a Lloegr) 2012 yn nodi'r pwerau y mae'n rhaid i awdurdodau lleol godi tâl am gasglu a chael gwared ar wastraff penodol. Mae paragraff 4 o Atodlen 1 o'r rheoliadau hyn yn nodi y caiff cyngor godi am gasglu (ond nid cael gwared ar) gwastraff gardd o’r cartref.
Er bod dyletswydd arnom i gael gwared ar wastraff cartref yn rhad ac am ddim, nid oes dyletswydd statudol arnom i ddarparu casgliadau gwastraff gardd am ddim.
Onid wyf eisoes yn talu am y gwasanaeth hwn trwy fy Nhreth y Cyngor?
Na - ni thelir am gasgliadau gwastraff gardd trwy Dreth y Cyngor, ond trwy'r cyllid a gawn gan Lywodraeth Cymru (cyllid sydd wedi'i leihau yn ystod y blynyddoedd diwethaf).
Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth
A fydd fy niwrnod casglu neu amser casglu yn newid ar gyfer unrhyw finiau gwastraff gardd yr wyf yn talu amdanynt?
I ddechrau, bydd eich diwrnod casglu yn aros yr un fath a dylech gyflwyno'ch bin gwastraff gardd i'w gasglu fel yr ydych chi’n gwneud nawr. Rhaid rhoi eich bin allan i'w gasglu erbyn 7.30 am.
Ble ydw i'n glynu'r sticer adnabod i ddangos fy mod i wedi talu?
Atodwch y sticer(i) adnabod i gaead eich bin(iau) gwastraff gardd. Mae hyn yn caniatáu i'r criw casglu wneud gwiriad cyflym a sicrhau nad yw'r offer codi yn niweidio'r sticeri.
Ni fydd y criwiau casglu yn casglu unrhyw finiau gwastraff gardd heb sticer wedi'i arddangos.
Beth os caiff fy min gwastraff gardd ei ddwyn, neu os yw fy sticer wedi'i ddifrodi / ar goll?
Bin ar goll
Gwiriwch â'ch cymdogion yn gyntaf i sicrhau nad ydyn nhw wedi mynd â'r bin gwastraff gardd trwy gamgymeriad.
Gallwch roi gwybod am fin sydd wedi mynd ar goll neu wedi’i ddwyn trwy ddefnyddio ein ffurflen 'bin neu focsys newydd'.
Rhoi gwybod am fin sydd ar goll neu wedi’i ddwyn
Cyfrifoldeb deiliad y tŷ yw sicrhau bod ei fin(iau) gwastraff gardd yn cael eu storio'n ddiogel. Os bydd bin ar goll, codir tâl am gael un arall yn ei le.
Rydym yn eich annog i farcio'ch bin gwastraff gardd gyda rhif neu gyfeiriad eich tŷ er mwyn sicrhau bod modd adnabod eich bin yn glir.
Sticeri
Ar gyfer sticeri sydd wedi eu difrodi neu ar goll, anfonwch e-bost at contact-us@wrexham.gov.uk gan nodi eich enw a’ch cyfeiriad.
Beth fydd yn digwydd os byddaf yn symud tŷ?
Os byddwch yn symud tŷ yn ystod cyfnod eich tanysgrifiad gallwch drosglwyddo'r tanysgrifiad hwn i'ch cyfeiriad newydd os yw hwn yn Wrecsam. Bydd angen i chi gysylltu â ni i ddweud wrthym eich bod wedi symud tŷ, fel y gallwn ddiweddaru ein cofnodion.
Gellir gwneud hyn ar-lein trwy ddefnyddio ein ffurflen ‘ymholiad neu sylwadau cyffredinol’ (dewiswch Strydoedd o Fri am y gwasanaeth).
Ni ellir darparu ad-daliadau os byddwch chi'n symud allan o Wrecsam neu os na chynigir y gwasanaeth i'ch eiddo newydd. Ni fydd ad-daliadau ar gael chwaith os byddwch yn symud i eiddo newydd ac angen llai o finiau nag yr ydych wedi tanysgrifio ar eu cyfer yn eich cyfeiriad blaenorol.
A oes angen i mi adnewyddu fy nhaliad bob blwyddyn?
Oes - bydd angen i chi adnewyddu eich taliad bob blwyddyn a byddwch yn gallu gwneud hyn bob blwyddyn yn y cyfnod cyn Medi 1.
Eto, y ffordd hawsaf a chyflymaf o dalu am y tanysgrifiad yw yma ar-lein.
Gwybodaeth brisio / talu pellach
A allaf dalu am gasgliadau am ran o'r flwyddyn yn unig?
Na - os ydych chi'n ymuno rhan o'r ffordd trwy'r flwyddyn neu ddim ond angen casgliad ychydig o weithiau'r flwyddyn, bydd yn dal rhaid i chi dalu'r tâl blynyddol fesul bin.
A oes unrhyw gonsesiynau?
Ar hyn o bryd nid oes consesiynau.
A allaf brynu mwy nag un bin gwastraff gardd?
Medrwch, gellir prynu mwy nag un bin gwastraff gardd i bob cartref.
Gallwch ddefnyddio'r ffurflen ar-lein I archebu a thalu am fin gwastraff gardd newydd (a hefyd i gofrestru ar gyfer, a thalu am y gwasanaeth casglu).
Ar hyn o bryd mae cost bin gwastraff gardd ychwanegol yn £20 y bin, ond bydd angen i chi gofrestru unrhyw finiau gwastraff gardd ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth casglu (am gost flynyddol y gwasanaeth).
Ad-daliadau
A allaf gael ad-daliad os byddaf yn penderfynu canslo fy nhanysgrifiad?
Mae gennych hawl i ganslo'ch tanysgrifiad a chael ad-daliad llawn cyn pen 14 diwrnod o ddiwrnod y pryniant. Ni fydd unrhyw ad-daliadau ar ôl i’r ‘cyfnod oeri’ 14 diwrnod ddod i ben.
A allaf gael ad-daliad am fy min gwastraff gardd?
Na, mae’r gost am fin gwastraff gardd am ei ddanfon yn unig.
Ydw i'n cael ad-daliad os nad yw fy min gwastraff gardd yn cael ei wagio?
Na, mae methu casgliadau yn brin. Os nad yw'ch bin wedi'i wagio, gallai fod oherwydd ei fod yn cynnwys yr eitemau anghywir neu ei fod yn rhy drwm. Os nad oedd eich bin allan erbyn 7.30am ar y diwrnod casglu efallai y byddwch hefyd wedi colli'r amser casglu.
Rydym yn cadw'r hawl i ganslo casgliadau oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth (er enghraifft tywydd garw). Os mai ein bai ni yw methu casgliad, yna byddwn bob amser yn gwneud ymdrech i gasglu'ch bin cyn gynted â phosibl.