Gallwch gael gwared ar wastraff sy’n ormod ac eitemau’r cartref sy’n rhy fawr neu drwm i’w rhoi yn eich bin arferol yn eich canolfan ailgylchu gwastraff y cartref leol.

Mae’r holl ganolfannau ailgylchu gwastraff y cartref ar agor bob dydd ac eithrio diwrnod y Nadolig. FCC Environment sy’n rheoli’r safleoedd hyn.

Dewch â phrawf gyda chi eich bod yn byw yn y fwrdeistref sirol (fel bil cyfleustodau gyda’ch cyfeiriad arno). Mae’r safleoedd hyn ar gyfer preswylwyr Wrecsam yn unig. Os nad oes gennych brawf eich bod yn byw yma, ni chewch adael eich sbwriel.

Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam (Lôn y Bryn)

Lôn y Bryn, Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam LL13 9UT

Oriau agor:

  • 8am - 8pm drwy’r flwyddyn 

Ni chaniateir cerbydau mawr o fath masnachol sy’n fwy na 7.5 tunnell (gan gynnwys faniau ceffylau) ar y safle.

Brymbo

Y Lodge, Brymbo, Wrecsam LL11 5NR

Oriau agor:

  • Mawrth 9am - 6pm
  • Ebrill tan Awst 9am - 8pm
  • Medi 9am - 6pm
  • Hydref tan Chwefror 9am - 4pm

Ni chaniateir cerbydau mawr o fath masnachol sy’n fwy na 7.5 tunnell (gan gynnwys faniau ceffylau) ar y safle.

Plas Madoc

Banc Wynnstay, Plas Madoc, Wrecsam LL14 3ES

Oriau agor:

  • Mawrth 9am - 6pm 
  • Ebrill tan Awst 9am - 8pm 
  • Medi 9am - 6pm
  • Hydref tan Chwefror 9am - 4pm

Ni chaniateir cerbydau mawr o fath masnachol sy’n fwy na 7.5 tunnell (gan gynnwys faniau ceffylau) ar y safle.

Mae eitemau ychwanegol y gellir eu hailgylchu’n cynnwys...

  • Batris
  • Cardfwrdd
  • Batris car
  • Cetris Argraffu 
  • Carped
  • Gwastraff bwyd
  • Trydanol
  • Dodrefn
  • Gwastraff gardd
  • Gwydr
  • Plastig caled/anhyblyg
  • Deunydd adeiladu a cherrig
  • Offer trydanol mawr
  • Matresi
  • Tecstilau a dillad cymysg
  • Paent
  • Papur
  • Poteli plastig
  • Plaster-fwrdd (Brymbo a Lôn y Bryn)
  • Tuniau/caniau
  • Teledai a sgriniau
  • Teiars
  • Metel sgrap
  • Pridd
  • Olew injan budr
  • Cartonau â haen o gwyr
  • Pren

Asbestos (Lôn y Bryn)

Ni fydd safle Lôn y Bryn yn derbyn gwastraff asbestos oni bai ei fod wedi cael ei roi mewn bagiau dwbl, neu wedi ei lapio gan ddefnyddio bagiau polythen cyfan (er enghraifft sachau rwbel), i gydymffurfio â chanllawiau iechyd a diogelwch.

Gwastraff masnachol neu ddiwydiannol

Ni fydd gwastraff masnachol neu ddiwydiannol yn cael ei dderbyn yn unrhyw un o’n canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref ac nid oes unrhyw eithriadau. Dyma unrhyw wastraff neu ddeunydd ailgylchadwy a gynhyrchir o ganlyniad i unrhyw fath o weithgaredd masnachol. Gallai hyn fod yn fusnes mewn cartref, siop, stondin farchnad, swyddfa neu uned fusnes/ddiwydiannol, gan gynnwys gwastraff a gynhyrchir o ddatblygiadau eiddo neu weithgarwch gosod preswyl.

Mae gan y cynorthwywyr safle'r hawl i wrthod mynediad a bydd angen i chi wedyn fynd â'r gwastraff hwn i gyfleuster gwastraff cofrestredig arall. Bydd angen Trwydded Cludwyr Gwastraff ar unrhyw berson sy’n cario gwastraff nad yw’n wastraff y gellir ei brynu gan Cyfoeth Naturiol Cymru (dolen gyswllt allanol).

Parchwch ein gweinyddwyr safle gan na fydd unrhyw ymddygiad ymosodol a ddangosir tuag atynt yn cael ei oddef.
 

Nid oes unrhyw un o'n canolfannau'n derbyn silindrau nwy - ewch â'r rhain yn ôl i'r cyflenwr.

Chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa bin

Wrth gofrestru i dderbyn nodiadau atgoffa, byddwch yn derbyn neges e-bost wythnosol y diwrnod cyn eich diwrnod casglu, felly ni fydd raid i chi gofio pa fin sy’n mynd pa bryd.

Cofrestrwch