Mae yna ychydig o lefydd yn Wrecsam lle fedrwch chi roddi eitemau swmpus glân o ansawdd da - fel dodrefn tŷ, offer trydanol a dodrefn gardd. 

Pan fyddwch chi’n rhoddi eitemau i sefydliadau ailddefnyddio lleol mi fyddan nhw’n cael eu gwerthu i ariannu achosion da. Drwy roddi eitemau rydych chi hefyd yn lleihau gwastraff diangen a’r effaith cysylltiedig ar yr amgylchedd. 

Sefydliadau sy’n casglu eitemau swmpus

Mae’r sefydliadau canlynol yn gallu casglu eitemau swmpus ac yn eu hailwerthu, fel bod modd eu hailddefnyddio gan berchnogion newydd.

Sefydliad Prydeinig y Galon

Hosbis Tŷ’r Eos

Cysylltwch â’r sefydliadau yn uniongyrchol i holi ynghylch eu gofynion penodol ac i drafod a oes modd iddyn nhw ddod i nôl eich eitemau.

Rhoddi eitemau i ganolfannau ailgylchu gwastraff y cartref

Ydw i’n gallu mynd â dodrefn ac offer trydanol i ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref?

Ydych. Gallwch fynd ag eitemau swmpus o’ch cartref i un o’n tair canolfan ailgylchu gwastraff y cartref.

Gallwch roi unrhyw eitem o ansawdd da mewn cynhwysydd ailddefnyddio yn unrhyw un o’r safleoedd hyn.

Oes yna siop ailddefnyddio yn unrhyw un o’r canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref?

Oes. Mae gan Hosbis Tŷ’r Eos siop ailddefnyddio ar safle Lôn Bryn ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam. Maen nhw’n derbyn eitemau fel: 

  • Offer trydanol, gan gynnwys hwfers a chymysgyddion
  • Dodrefn fel cadeiriau a dreserau 
  • Teganau plant a nwyddau fel pramiau a chadeiriau uchel 
  • Cyfarpar chwaraeon fel clybiau a bagiau golff, pwysau a hyd yn oed esgidiau sglefrio 
  • CDs, DVDs a llyfrau
  • Beics ac offer gardd

Gallwch hefyd brynu eitemau yn siop ailddefnyddio Hosbis Tŷ’r Eos.

Ydw i’n gallu trefnu casgliad eitemau swmpus? 

Ydych. Gallwch ofyn am gasgliad eitemau swmpus ar gyfer rhai mathau o eitemau sy’n rhy fawr neu’n rhy drwm ar gyfer y casgliadau bin arferol.