Yn ddelfrydol, defnyddio’r holl fwyd cyn iddo fynd yn wastraff sydd orau, ond weithiau, nid oes modd osgoi gwastraff bwyd (plisgyn wyau neu groen banana er enghraifft). 

Os oes gennych chi unrhyw wastraff bwyd  yna mae ei ailgylchu yn dal yn well i’r amgylchedd na’i roi ym min gwastraff y cartref. 

Yn Wrecsam, caiff gwastraff bwyd ei gasglu’n wythnosol, tra mai bob pythefnos y caiff gwastraff y cartref ei gasglu.  Felly mae defnyddio eich cadi gwastraff bwyd hefyd yn golygu bod eich bin gwastraff y cartref yn llai tebygol o ddrewi hefyd. 

Beth sy’n digwydd i’ch gwastraff bwyd sy’n cael ei ailgylchu?

Ar ôl i wastraff bwyd Wrecsam gael ei gasglu, mae’n cael ei gludo, ynghyd â gwastraff gardd, i uned compostio mewn cynhwysydd ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam.

Deunydd gwella pridd am ddim i breswylwyr

Defnyddir eich gwastraff bwyd a gardd yn Wrecsam i greu deunydd gwella pridd, sydd ar gael i’n preswylwyr i’w gasglu yn unrhyw un o’n tair canolfan ailgylchu trwy gydol y flwyddyn.

Beth sy’n mynd i mewn i’ch cadi bwyd?

Gall y mwyafrif o fwydydd fynd i mewn i’ch cadi bwyd cyn belled â’ch bod wedi cael gwared ar unrhyw ddeunydd pecynnu, ond osgowch unrhyw hylif (megis olew, llaeth neu sudd).  

Gallwch wirio ein ‘tudalen Beth sy’n mynd i’r bin/cynwysyddion ailgylchu’ i gael rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud gyda mathau gwahanol o wastraff/ailgylchu. 

Sut i gael bagiau cadi newydd

Fe allwch chi gael bagiau cadi am ddim naill ai drwy:

  • glymu bag bin bwyd gwag i handlen eich bin bwyd ar ddiwrnod eich casgliad nesaf -  bydd y criw ailgylchu yn gadael rholyn newydd i chi. 
  • eu casglu nhw o un o’r lleoliadau casglu yn Wrecsam (mae yna dros 40 ohonynt)

Os hoffech chi, fe allech chi brynu bagiau cymeradwyo y mae posib eu compostio o’r rhan fwyaf o archfarchnadoedd mawr (dim ond y bagiau sydd â logo Bioblastig Ewropeaidd y dylech eu defnyddio). 

Gwneud cais am gadi bwyd

Os yw eich cadi bwyd wedi torri, gallwch wneud cais am un newydd yn rhad ac am ddim gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein:

Dechrau nawr

Cadw eich cadi yn lân

Mae’n siŵr bod yr argymhellion yma’n rhai amlwg, ond er mwyn cadw eich cadi yn lân, dylech:

  • Osgoi rhoi hylif i atal ‘sudd bin’
  • Ceisiwch beidio â gorlenwi’r bag a gwagiwch gynnwys cadi eich cegin mewn i’ch cadi ymyl palmant y tu allan yn rheolaidd
  • Caewch gaead eich cadi cegin a chaewch gaead y bin tu allan y gellir ei gloi, er mwyn atal pryfed neu blâu rhag mynd i mewn
  • Glanhewch gadi eich cegin bob hyn a hyn trwy ei olchi yn y sinc (sicrhewch ei fod yn sych cyn rhoi bag arall i mewn)

I’w lanhau yn fwy trylwyr, gallwch ddiheintio eich cadi gyda dŵr poeth sy’n weddill o’ch tegell a rhywfaint o hylif golchi llestri.

Dolenni defnyddiol