Beth mae bod yn lesddeiliad yn ei olygu?

Pan fyddwch yn prynu eich fflat o dan brydles hir, byddwch yn prynu'r hawl i fyw yn eich eiddo am nifer penodedig o flynyddoedd. Fel eich landlord, byddwn ni (y Cyngor) yn cadw'r buddiant rhydd-ddaliadol a bydd arnom ddyletswydd gyfreithiol i orfodi eich rhwymedigaethau o dan y brydles. Mae'n rhaid i ni hefyd gynnal a chadw a thrwsio’r adeilad y mae eich cartref chi ynddo ynghyd â'r holl ardaloedd, tiroedd a gwasanaethau sy’n cael eu rhannu.

Mae eich prydles yn dweud bod yn rhaid i chi gyfrannu tuag at gostau rheoli a chynnal a chadw eich bloc, eich ystâd a'r tiroedd - yr enw ar y costau hyn yw taliadau gwasanaeth.

Fel lesddeiliad rydych yn gyfrifol am ofalu am eich cartref drwy ei gadw mewn cyflwr da y tu mewn. Chi hefyd ddylai ofalu am unrhyw ddarn o ardd sydd wedi’i gynnwys o dan eich prydles. Bydd eich cynllun ffin yn dangos faint o ardd sydd wedi ei chynnwys yn eich prydles, oes oes gardd o gwbl.

Mae’n rhaid i chi hefyd gadw at reolau a thelerau rheoli eich prydles. Byddwch angen caniatâd cyn y gallwch wneud unrhyw addasiadau, ychwanegiadau neu welliannau i’ch eiddo, neu os ydych yn dymuno is-osod yr eiddo.

Amodau eich les

Mae’r les yn nodi'n fanwl yr amodau sy'n berthnasol i chi, a'ch cyfrifoldebau chi fel lesddeiliad a’n cyfrifoldebau ni (y Cyngor) fel Rhydd-ddeiliad. Mae rhai o’r amodau pwysicaf wedi eu nodi isod...

Ein cyfrifoldebau ni

Mae arnom ddyletswydd i...

  • drwsio, cynnal a chadw ac ailaddurno’r strwythur a’r tu allan i’r fflat, yn cynnwys y draeniau, y pibellau allanol a’r toeau
  • trwsio, cynnal a chadw ac ailaddurno ardaloedd cyffredin (os oes rhai) a chynnal a chadw ardaloedd cyffredin allanol a ffiniau
  • cadw’r adeilad wedi’i yswirio rhag tân, mellt, ffrwydradau a risgiau eraill tebyg y mae'n ddoeth yswirio yn eu herbyn
  • rheoli eich bloc neu eich ystâd mewn modd priodol a rhesymol
  • gosod tâl gwasanaeth blynyddol am waith a wneir ar eich fflatiau
  • ymgynghori â chi cyn gwneud unrhyw waith mawr neu welliannau i’r adeilad
  • mae gennym hefyd hawl i ddod i mewn i’ch eiddo i gynnal a chadw cyfleusterau cymunedol, ac i drwsio diffygion strwythurol, ar ôl rhoi rhybudd rhesymol i chi. Mewn argyfwng nid oes yn rhaid rhoi rhybudd.

Eich cyfrifoldebau chi

Fel lesddeiliad mae arnoch ddyletswydd i....

  • dalu’r rhent tir, taliadau gwasanaeth a chostau gwaith/gwelliannau mawr yn ôl y galw
  • peidio â gwneud unrhyw newidiadau nac ychwanegiadau i’r strwythur, yn cynnwys draeniau, pibellau allanol a ffenestri heb ein caniatâd ysgrifenedig ni
  • rhoi gwybod i ni am unrhyw drosglwyddiad prydles neu forgais
  • cadw'r tu mewn i'r fflat, yn cynnwys y drysau a'r ffenestri, mewn cyflwr da
  • cadw at y telerau a’r rheoliadau yn eich prydles
  • anfon atom gopi o unrhyw Hysbysiad sy’n effeithio ar yr eiddo 
  • ein hysbysu ni o unrhyw newidiadau i berchnogaeth y fflat, y morgais neu os yw’r eiddo i gael ei is-osod
  • peidio â chyflawni unrhyw weithredoedd anghyfreithlon na gwneud unrhyw beth a allai fod yn niwsans neu achosi niwed i breswylwyr yr adeilad neu i unrhyw ran o’r adeilad.
  • peidio â chwarae cerddoriaeth uchel y gellir ei glywed y tu allan i'ch fflat rhwng 11pm a 7am 
  • mae gennych hefyd hawl i gael gwybodaeth am daliadau gwasanaeth a chostau eraill cysylltiedig â’ch bloc o fflatiau a bod ymgynghori’n digwydd gyda chi ynghylch unrhyw waith mawr fydd yn effeithio arno.

Byw ar eich ystâd

O dan delerau eich prydles mai rhai cyfyngiadau arnoch chi fel preswylydd yn eich fflat, sef

  • peidio defnyddio’r fflat i unrhyw bwrpas heblaw fel annedd breifat lle bydd dim ond un teulu yn byw, nac i unrhyw bwrpas sy'n achosi niwsans i breswylwyr y fflatiau eraill yn yr adeilad neu i anheddau eraill yn y gymdogaeth, nac i unrhyw bwrpas anghyfreithlon neu anfoesol, na defnyddio'r garej (os oes un) i unrhyw bwrpas o gwbl heblaw fel garej breifat ar gyfer preswylwyr y fflat.
  • peidio â gwneud, na chaniatáu i unrhyw beth gael ei wneud a allai annilysu unrhyw bolisi yswiriant ar gyfer unrhyw fflat neu garej yn yr adeilad neu a allai achosi cynnydd yn y premiymau yswiriant. 
  • peidio taflu unrhyw faw, sbwriel na charpion i’r sinciau, y baddonau, y toiledau, y sisternau na’r pibellau carthion yn y fflat nac yn rhannau cyffredin yr adeilad, a chael gwared ar faw, sbwriel a charpion yn y biniau cywir sydd wedi eu darparu yn neu yng nghyffiniau’r adeilad.
  • peidio ag addurno’r tu allan i’r fflat
  • dim offerynnau cerdd, teledu, radio, uchelseinydd nac offerynnau gwneud sŵn o unrhyw fath i gael eu chwarae na’u defnyddio rhwng 11pm a 7am. Ni ddylai unrhyw ganu ddigwydd yn y fflat a allai achosi niwsans i breswylwyr y fflatiau eraill yn yr adeilad neu sydd i'w glywed y tu allan i'r fflat rhwng 11pm a 7am.
  • ni chaniateir gosod unrhyw luniau, arwyddion na hysbyslenni o unrhyw fath y gellir eu gweld o’r tu allan yn unrhyw ffenestri nac ar y garej (os oes un).
  • ni ddylid hongian dillad nac unrhyw beth arall y tu allan i’r fflat Ni chaniateir gosod bocsys na photiau blodau nac unrhyw eitemau o'r fath y tu allan i'r fflat oni bai eu bod wedi eu darparu gennym ni ac ni ddylid ysgwyd matiau nac eitemau eraill y tu allan i ffenestri'r fflat  nac yn rhan gyffredin yr adeilad.
  • ni chaniateir cadw yn y fflat unrhyw aderyn, ci nac unrhyw anifail arall a allai achosi niwsans i breswylwyr unrhyw un o'r fflatiau eraill yn yr adeilad.

Gosod eich fflat

Nid oes gennym unrhyw wrthwynebiad i chi osod eich fflat a gweithredu fel landlord, ond mae’n rhaid i chi roi gwybod i’n Huned Lesddeiliaid yn yr Adran Tai a’r Economi o’ch bwriad i wneud hynny. Gallwch ffonio’r Adran Tai a’r Economi ar 01978 298993 i wneud hyn.

Eich cyfrifoldeb chi yw...

  • dweud wrthym am unrhyw newidiadau i’ch cyfeiriad cyswllt a chyfeiriad unrhyw Asiantau Rheoli.
  • gofalu fod eich tenantiaid yn cadw at y telerau yn y brydles, gan mai chi fydd yn gyfrifol am eu gweithredoedd nhw
  • rhoi copi i ni o’ch cytundeb gosod ffurfiol a ddylai fod ar ffurf 'cytundeb tenantiaeth fyrddaliadol sicr’.

Er mai chi fydd yn gyfrifol yn y pen draw am yr holl dreuliau, rhent tir, tâl gwasanaeth ac ad-daliad y premiwm yswiriant, bydd y pethau hyn fel arfer wedi eu cynnwys yn elfen rhentu eich cytundeb gosod.  Mae’n bwysig ein bod yn gwybod at bwy ac i le y dylem anfon yr anfonebau hyn. Eich tenant fydd yn gyfrifol am dalu Treth y Cyngor a’u biliau gwasanaeth eu hunain.

Gallai gosod eich fflat effeithio ar y premiwm yswiriant adeiladau ac ar y risgiau sy’n cael eu hyswirio.

Yn ôl y gyfraith chi sy’n gyfrifol am sicrhau y cedwir tanau nwy a boeleri mewn cyflwr da a bod eu diogelwch yn cael ei wirio o leiaf bob 12 mis. Mae’n rhaid i chi gadw cofnod o’r gwiriadau hyn, a rhaid iddynt gael eu cynnal gan gontractwr CORGI cofrestredig. 

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn gofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol os ydych eisiau gosod eich fflat, cyn i chi gwblhau unrhyw gytundeb a dylech hefyd wirio telerau’r morgais ar yr eiddo.

Gwerthu eich fflat

Does dim rhaid i chi gael ein caniatâd ni i werthu eich fflat, fodd bynnag mae'n rhaid i chi ddweud wrthym os bydd perchnogaeth eich fflat yn newid  - heb y wybodaeth hon bydd yr holl anfonebau perthnasol i’r eiddo'n cael eu hanfon atoch chi hyd yn oed ar ôl i chi werthu'r fflat.

Os gwnaethoch gais am Hawl i Brynu ar neu ar ôl 18 Ionawr 2005 ac yna'n gwerthu’ch cartref o fewn pum mlynedd o'i brynu, bydd rhaid i chi dalu cyfran o'r pris gwerthu fel disgownt. Bydd rhaid i chi dalu’r canlynol yn ôl os ydych eisiau gwerthu eich fflat o fewn...

  • Y flwyddyn gyntaf ar ôl ei brynu - canran o'r pris gwerthu newydd sy'n adlewyrchu'r un gyfran â'r disgownt Hawl i Brynu ar werth gwreiddiol y farchnad.
  • Dwy flynedd ar ôl ei brynu – 4/5 o’r disgownt yn ystod blwyddyn gyntaf y pryniant
  • Tair blynedd ar ôl ei brynu – 3/5 o’r disgownt yn ystod blwyddyn gyntaf y pryniant
  • Pedair blynedd ar ôl ei brynu – 2/5 o’r disgownt yn ystod blwyddyn gyntaf y pryniant
  • Pum mlynedd ar ôl ei brynu – 1/5 o’r disgownt yn ystod blwyddyn gyntaf y pryniant

Os ydych yn gwerthu o fewn pum mlynedd o brynu’r fflat bydd swm y disgownt i’w ad-dalu yn ganran o werth ailwerthu’r eiddo, gan ddiystyru'r cynnydd yn y swm y gellir ei briodoli i unrhyw welliannau a wnaethoch chi i'ch cartref ar ôl i chi ei brynu.

Ar ôl pum mlynedd, gallwch werthu heb ad-dalu unrhyw ddisgownt.

Hawl i gael y cynnig cyntaf 

Os gwnaethoch gais i brynu eich fflat o dan y cynllun Hawl i Brynu a bod y cais wedi ei dderbyn ar neu ar ôl 18 Ionawr 2005 a’ch bod wedyn eisiau gwerthu neu gael gwared ar eich eiddo o fewn 10 mlynedd, bydd angen i chi gynnig ei werthu i ni yn y lle cynaf, neu yn ail i landlord cymdeithasol cofrestredig arall yn eich ardal am bris y farchnad.

Mae’n rhaid i’r ddau barti gytuno ar bris y farchnad neu os nad ydynt yn gallu cytuno, bydd y Prisiwr Dosbarth y pennu’r pris.

Os nad yw eich cynnig wedi ei dderbyn ymhen wyth wythnos, byddwn yn cyhoeddi Hysbysiad i roi gwybod i chi eich bod yn rhydd i werthu'r eiddo ar y farchnad agored.