Gwneud gwaith gwella 

Mewn llawer o achosion mae’n bosibl y bydd arnoch angen ein caniatâd ni -  y rheswm am hyn yw bod gennym ddyletswydd gofal fel Landlord i ddiogelu preswylwyr eraill yn y bloc o fflatiau. Ni fyddwn yn gwrthod caniatâd oni bai bod gennym reswm da dros wneud hynny, ond mewn rhai achosion bydd amodau ynghlwm â hynny. Yr amodau hyn fydd sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud gan gontractwr cymwys, a’i gwblhau i safon resymol.

Hyd yn oed os ydych yn cael ein caniatâd ni, efallai y byddwch dal angen caniatâd cynllunio a/neu gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu cyn y gall y gwaith ddechrau.

Os ydych yn dewis gwerthu’r eiddo yn y dyfodol, bydd Cyfreithwyr fel arfer yn gofyn cwestiynau am unrhyw addasiadau, felly er eich budd ein hun mae'n beth doeth rhoi gwybod i  ni er mwyn i ni fod yn ymwybodol o ba addasiadau yr ydych wedi eu gwneud.

Pa fath o addasiadau/gwelliannau sydd yn gofyn am ganiatâd landlord?

  • Unrhyw ychwanegiad neu addasiad i strwythur y fflat a/neu’r bloc; neu

  • ardal gardd unigol, os yn berthnasol

  • gosod ffenestri newydd a drysau allanol

  • cael gwared ar unrhyw waliau  mewnol

  • Gwaith plymio, trydanol neu nwy sylweddol

Byddwn yn ystyried amrywiaeth o ychwanegiadau, addasiadau  neu welliannau ond ni fyddwn yn rhoi caniatâd i droi atig yn ystafell ychwanegol. Nid yw’r ardaloedd hyn wedi eu cynnwys ym mherchnogaeth fflatiau unigol ond yn hytrach yn dal i fod ym mherchnogaeth y Landlord.

Os ydych yn gwneud y math hwn o waith heb gael ein caniatâd ni ymlaen llaw, byddwch yn torri amodau eich prydles. Mae gennym hawl i ofyn i chi adfer yr eiddo i’w gyflwr gwreiddiol, neu byddwn ni'n trefnu bod hyn yn cael ei wneud a byddwn yn ad-hawlio costau gwneud hynny gennych chi.

Nid oes angen caniatâd landlord i wneud y mathau canlynol o addasiadau/gwelliannau...

  • addurno mewnol
  • mân waith plymio neu drydanol
  • drysau mewnol newydd
  • uwchraddio ystafelloedd ymolchi neu geginau

Hawl Mynediad landlord

Os bydd gennym ni ar unrhyw adeg reswm i fod yn bryderus am waith yr ydych wedi ei wneud, gyda neu heb ganiatâd, mae gennym hawl (cyn belled â’n bod yn rhoi rhybudd digonol i chi) i ddod i mewn i’ch eiddo i weld y gwaith.