Ein cyfrifoldebau ni

Rydym yn gyfrifol am wneud gwaith trwsio a chynnal a chadw i’r strwythur, y tu allan i’r strwythur a rhannau cyffredin eich bloc o fflatiau. Mae hyn yn cynnwys...

  • lifftiau
  • waliau allanol
  • addurno allanol
  • addurno mannau cyffredin mewnol
  • trawstiau
  • gwaith coed a distiau
  • toeau
  • sylfeini
  • cyrn simneiau
  • carthffosydd a draeniau
  • pibellau dŵr glaw a charthion
  • pibellau i fyny i’r fflat
  • nwy, dŵr a thrydan
  • drysau a ffenestri cyhoeddus
  • tiroedd cyffredin a mannau parcio
  • gardd gyffredin, llwybrau, waliau, ffensys, iardiau a mannau palmantog

Nid ydym yn gyfrifol am gynnal a thrwsio drysau a ffenestri fflatiau wedi’u prydlesu.

Fodd bynnag fe wnawn beintio ac addurno’r tu allan i’r adeilad mor aml ag sy'n rhesymol angenrheidiol (yn cynnwys y tu allan i ddrysau allanol a ffenestri.)

Eich cyfrifoldebau chi

Fel lesddeiliad mae eich cyfrifoldebau yn cynnwys (ond nid yn gyfyngedig i) y canlynol...

  • lloriau
  • gosodiadau, megis unedau cegin a'r sinciau
  • waliau mewnol nad sy'n waliau cynnal
  • plastr neu ddeunydd arwyneb arall ar waliau a nenfydau mewnol
  • drysau mewnol a fframiau drysau
  • toiledau, bath a'r gawod
  • rheiddiaduron, sisternau a thanciau
  • boeleri a phibellau a ddefnyddir dim ond y tu fewn i'r fflat
  • gosodiadau nwy, dŵr a thrydan sy'n gyfyngedig i'r darnau gosod,y gosodiadau a'r addurno mewnol

Sut i roi gwybod am waith trwsio sy’n angenrheidiol

Os mai ein cyfrifoldeb ni yw mater cynnal a chadw neu drwsio, dylech gysylltu â ni. Bydd faint o frys sydd am unrhyw waith trwsio yn cael ei asesu a byddwch yn cael yr un flaenoriaeth a’n tenantiaid.

Y tu allan i oriau swyddfa

Dim ond argyfyngau fydd yn cael sylw y tu allan i oriau gwaith arferol. Mae hyn yn cynnwys gwaith y mae’n rhaid ei wneud i osgoi perygl neu ddifrod i'r adeilad, neu i sicrhau iechyd a diogelwch preswylwyr. Y tu allan i oriau gwaith arferol (yn cynnwys penwythnosau) dylech ffonio 01978 298993.

Crynodeb o Gyfrifoldebau Atgyweirio

Crynodeb o gyfrifoldebau atgyweirio
Math o atgyweirio Cyfrifoldeb
Drws ffrynt y fflat
Drws Prydleswr
Handlenni drws Prydleswr
Cloeon drws Prydleswr
Allweddi a gollwyd Prydleswr
Diogelwch ychwanegol Prydleswr
Drysau mewnol y fflat Prydleswr
Ffenestri'r fflat
Gosodiadau a chliciedau ar ffenstri Prydleswr
Paenau ffenestri Prydleswr
Diogelwch ychwanegol Prydleswr
Gwresogi
Boeler comunol Cyngor
Rheiddiaduron a phibellau sydd wedi eu cysylltu i system wresogi gomunol Cyngor
System wresogi unigol Prydleswr
Gwresogyddion ystafell Prydleswr
Ysgubo simneiau Prydleswr
Lleoedd tân Prydleswr
Trydanol
Namau tu fewn i'r fflat Prydleswr
Goleuo cymunol Cyngor
Gwresogydd troch Prydleswr
Ffiwsiau Prydleswr
Ffaniau echdynnu Prydleswr
Gwaith Plymio
Pibell wedi byrstio tu fewn i'r fflat Prydleswr
Tap a wasieri tap Prydleswr
Tapiau cau, pêl-falf, bath basn, sinc Prydleswr
Tanciau dŵr poeth neu oer y tu fewn i'r fflat Prydleswr
Prif danc storio (mewn llofft comunol) Cyngor
Balconïau
Dadflocio gylïau (draeniau) Cyngor
Pla o golomennod Prydleswr
Gwaith adeileddol Cyngor
Draeniau
Rhwystr i bibellau draenio a rennir Cyngor
Rhwystr o fewn y fflat Prydleswr
Nwy (Ffoniwch Nwy'r Grid Cenedlaethol)
Gollyngiadau nwy o fewn y fflat Prydleswr
Poptai Prydleswr
Tannau nwy Prydleswr
Nwy (gwasanaethu) Prydleswr
Toeau
Toeau Cyngor
Gwteri Cyngor
Waliau a nenfydau
Waliau mewnol Prydleswr
Adeiledd y wal gydrannol Cyngor
Plastr mewnol Prydleswr
Nenfydau Prydleswr
Waliau ardaloedd comunol Cyngor
Lloriau y tu fewn i'r fflat
Estyll Prydleswr
Distiau Cyngor
Byrddau sgertin Prydleswr
Teils llawr Prydleswr
Lloriau lefelu concrid Prydleswr
Addurno
Addurno mewnol Prydleswr
Addurno ardaloedd comunol Cyngor
Cyfleusterau Comunol
Ardaloedd parcio ceir Cyngor
Gardd gomunol a man glaswelltog Cyngor
Golchdy a chyfleusterau comunol Cyngor
Erial teledu comunol Cyngor
Systemau rheoli mynediad a lifftiau Cyngor
Llwybr a gatiau comunol Cyngor
Plâu
Plâu pryfaid/cnofilod i eiddo unigol Prydleswr
Plâu pryfaid/cnofilod i floc Difa Plâu

  

Gwaith trwsio a gwelliannau mawr

Mewn rhai achosion (ar ôl cynnal arolygon, ymgynghori â’r preswylwyr neu pan fo gwaith trwsio arferol yn cael ei wneud) rydym yn gweld bod angen gwneud gwaith trwsio sylweddol neu fod angen prosiectau gwella. Gallai’r gwaith hwn gynnwys...

  • toeau newydd
  • gosod systemau agor drysau mynediad
  • lifftiau newydd 
  • balconïau newydd 

O dan Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002, mae arnom ddyletswydd i ymgynghori â chi cyn gwneud unrhyw waith trwsio neu welliannau mawr.

Ymgynghori

Fel eich Landlord, rydym yn credu mewn ymgynghori’n llawn ac agored cyn unrhyw waith mawr a gwelliannau. Byddwn yn mynychu cyfarfodydd grwpiau tenantiaid a phreswylwyr a lesddeiliaid ble bo angen, er mwyn sicrhau eich bod yn ymwybodol o faterion a allent effeithio arnoch chi.

Mae’r ddeddfwriaeth yn gofyn i ni ymgynghori os yw cyfraniad lesddeiliad yn mynd i fod yn fwy na £250, neu unrhyw ffigwr a osodir mewn statud yn y dyfodol. Byddwch y cael llythyr yn dweud wrthych am y gwaith arfaethedig a byddwch yn cael gwahoddiad i wneud sylwadau ysgrifenedig o fewn 30 diwrnod, os ydych yn dewis gwneud hynny. Dan unrhyw amgylchiadau bydd gennych gyfle i enwebu contractwr.

Os ydych yn enwebu contractwr a’u bod yn diwallu ein meini prawf ni, fe allwn ofyn iddynt ddarparu dyfynbris ochr yn ochr â'r contractwyr ar ein rhestr o gontractwyr cymeradwy.

Pan dderbynnir y dogfennau tendr byddwch yn cael llythyr manwl yn nodi’r gwaith yr ydym yn bwriadu ei wneud, pwy fydd y contractwyr a beth fydd y gost.  Unwaith eto bydd gennych 30 diwrnod i wneud sylwadau ysgrifenedig.

Byddwn yn ystyried eich sylwadau ac ni fyddwn yn dechrau gwneud unrhyw waith cyn dyddiad darfod y cyfnod ymgynghori, a fydd wedi ei nodi ar yr holl ohebiaeth berthnasol.

Unwaith y mae’r gwaith wedi’i gwblhau a’i archwilio a'r contractwr wedi ei dalu, byddwn yn anfon anfoneb am eich cyfraniad chi atoch.