Rhaid i chi roi gwybod am unrhyw namau neu ddifrod ar unwaith i atal difrod mwy difrifol rhag digwydd. Gallwch wneud hyn yn unrhyw un o’r dulliau canlynol...

  • Ar lein neu ein ffurflen rhoi gwybod ar-lein
  • Ewch i’ch swyddfa dai leol (mae gan ein timau iPads a gallant eich cynorthwyo i gyflwyno ffurflen ar-lein os hoffech gymorth gyda hyn) 
  • Ysgrifennwch at y Pennaeth Gwasanaeth – Tai, Gwasanaethau Tai, Ffordd Rhuthun, Wrecsam, LL13 7TU
  • Drwy roi gwybod i’r warden – os ydych yn byw mewn llety gwarchod

Pan rydych yn rhoi gwybod fod angen gwaith trwsio, rhowch y wybodaeth a ganlyn i ni...

  • eich enw a'ch cyfeiriad
  • eich rhif ffôn
  • yr ystafell ac/neu safle’r hyn sydd angen ei drwsio
  • disgrifiad o’r nam/diffyg
  • dyddiadau ac amseroedd y cawn fynediad arnynt

System apwyntiadau

Mae’r gwasanaeth trwsio yn cynnig system benodi ar gyfer trwsio arferol nad ydynt yn achosion brys y rhoddir mynediad iddynt. Gallai hyn fod i gyflawni’r gwaith trwsio neu er mwyn i arolygydd ymweld, lle bo angen.

Fel arfer, gallwn gynnig apwyntiadau at gyfer y bore, pnawn, drwy’r dydd neu i osgoi’r cyfnod gollwng a chodi plant o'r ysgol. Efallai y byddwn yn cynnig apwyntiadau drwy'r dydd ar gyfer rhywfaint o waith mawr, yn sgil natur y gwaith.

Gwaith atgyweirio brys 

Beth sy’n cael ei ystyried yn waith atgyweirio brys?

Yn gyffredinol mae gwaith atgyweirio brys ar gyfer sefyllfaoedd pan fo perygl i iechyd, perygl i’ch diogelwch neu berygl o ddifrod difrifol i'r eiddo. 

Mae’r prif enghreifftiau’n cynnwys:

  • Colli cyflenwad trydan yn llwyr
  • Pibellau wedi byrstio
  • Llifogydd neu dân
  • Toiled wedi blocio (os mai hwn yw’r unig doiled yn yr eiddo)
  • Draeniau’n gorlifo / wedi blocio
  • System gwres canolog wedi methu’n llwyr (Hydref - Ebrill)
  • Wedi’ch cloi allan o’r eiddo (efallai y codir tâl arnoch)

Rhoi gwybod am waith atgyweirio brys

Mae modd ffonio ein llinell ffôn ar gyfer gwaith atgyweirio brys ar 01978 298993. Caiff pob galwad eu recordio. Yn ystod Tu Hwnt i Oriau yn unig (ar ôl 5.30pm) gallwch anfon neges e-bost hefyd at wrexhamemergency@deltawellbeing.org.uk.

Mae modd rhoi gwybod am waith atgyweirio brys drwy ddefnyddio ein ffurflen adrodd ar-lein.

Ar ôl i chi roi gwybod am waith atgyweirio brys, byddwn yn gofyn i chi aros yn eich eiddo er mwyn i ni allu cael mynediad.

Atgyweirio Gwres

Cyn i chi ffonio’r gwasanaeth trwsio brys i drwsio’r gwres, gwnewch yn siŵr fod y nwy a’r trydan ymlaen. Gallech orfod talu os bydd contractwr yn cael ei alw ac nad oes nwy yn y mesurydd, na chyflenwad trydan.

Atgyweirio dros dro

Efallai y bydd rhai achosion brys lle byddwn ond yn gallu gwneud gwaith atgyweirio dros dro yn y lle cyntaf, i sicrhau fod y sefyllfa’n saff a diogel.

Byddwn wedyn yn trefnu apwyntiad dilynol (pan fydd angen) i gwblhau'r gwaith atgyweirio.