Os ydych yn byw mewn math penodol o eiddo, efallai y bydd rhaid i chi hefyd dalu taliadau gwasanaeth yn ychwanegol at eich rhent. Byddwn yn codi dim ond am y gwasanaethau yr ydych yn eu derbyn, yn seiliedig ar y gwir gostau yr ydym yn eu talu bob blwyddyn i ddarparu’r gwasanaethau hyn.

Maent yn cynnwys gwasanaethau megis atgyweiriadau, cynnal a chadw, gwelliannau, yswiriant cynnwys cartref neu gostau rheoli. 

Byddwn yn rhoi dadansoddiad o’r taliadau gwasanaeth i chi bob blwyddyn.

Tâl gwasanaeth am waith trwsio

Fel Landlord mae arnom ddyletswydd i gynnal a chadw ein blociau o fflatiau i safon dda. Os nad ydym yn gwario arian ar waith trwsio a chynnal a chadw bydd cyflwr y fflatiau’n dirywio gan arwain at amgylchedd llai pleserus i bobl fyw ynddo.

Mae'n rhaid i ni adhawlio gan lesddeiliad gyfran o'r arian yr ydym yn ei wario ar waith cynnal a chadw. Os nad ydym yn gwario arian ar gynnal a chadw byddwn yn methu yn ein dyletswydd fel Landlord a gallai hynny gael effaith niweidiol ar eich buddsoddiad chi yn eich cartref.

Byddai’r costau y byddwn yn gofyn i chi eu cyfrannu yn dibynnu ar eich lleoliad a'r math o eiddo a pha fath o wasanaethau sydd wedi eu darparu yn eich bloc a'ch ystâd.

Eich tâl gwasanaeth trwsio yw'r arian yr ydych yn ei dalu tuag at gostau dydd i ddydd trwsio eich bloc o fflatiau.

Ni fyddwch yn cyfrannu at gost gwasanaethau a gwaith trwsio a ddarperir er budd deiliaid contract meddiannaeth y cyngor yn yr adeilad yn unig. Byddwch yn talu dim ond am wasanaethau a ddarperir ar gyfer deiliaid contract meddiannaeth ac ar gyfer lesddeiliaid.

Yn dibynnu ar eich adeilad, gallai'r tâl gwasanaeth gynnwys...

  • gwresogi a goleuo ardaloedd a grisiau cyffredin
  • cynnal erial teledu cyffredin
  • systemau agor drysau mynediad
  • gwaith trwsio dydd i ddydd
  • cynnal a chadw gerddi cyffredin
  • cynnal a chadw waliau a ffensys ffin

Codir y tâl gwasanaeth i dalu am gostau’r gwaith trwsio a wnaed yn ystod y flwyddyn galendr ddiwethaf. Os nad oedd unrhyw waith trwsio wedi ei wneud yn yr adeilad, yna ni fydd tâl gwasanaeth yn cael ei godi ar gyfer y flwyddyn honno.

Byddwn yn cyfrifo cost y gwaith trwsio a wnaed ym mhob bloc o fflatiau ar gyfer y flwyddyn flaenorol (o 1 Ionawr i 31 Rhagfyr) ac yn adfer y gost hon gennych chi drwy'r tâl gwasanaeth blynyddol.

Byddwch yn cael anfoneb ym mis Rhagfyr bob blwyddyn.

Rhent Tir

Eich rhent tir yw £10 y flwyddyn sydd yn daladwy i ni (fel eich Landlord) ac sy'n cael ei ddangos ar eich anfoneb flynyddol. 

Torri Glaswellt

Bydd y glaswellt mewn ardaloedd cymunedol a mannau agored y tu allan i’ch bloc yn cael ei dorri o leiaf 8 gwaith y flwyddyn. Efallai y bydd tâl am y gwaith hwn a fydd yn cael ei gynnwys yn eich tâl gwasanaeth. 

Yswiriant Adeiladau

Pan fyddwch yn prynu prydles eich fflat bydd yswiriant adeiladau’n cael ei ddarparu’n awtomatig gennym ni o dan delerau’r cytundeb prydlesu. Byddwch yn cael anfoneb flynyddol (ym mis Rhagfyr fel arfer) am gost yr yswiriant hwn. Rydym yn prynu’r yswiriant ar gyfer yr holl fflatiau sydd wedi’u gwerthu o dan un polisi – sydd yn helpu i leihau costau’r premiymau yr ydych yn eu talu.

Mae’r prif yswiriant yn cynnwys difrod i strwythur eich fflat a achoswyd gan dân, storm neu lifogydd (nid yw gwaith cynnal a chadw cyffredinol wedi ei gynnwys yn yr yswiriant). Mae’r yswiriant hefyd yn cynnwys difrod maleisus, lladrad neu ymgais i ladrata, yswiriant difrod damweiniol cyfyngedig, yswiriant ar gyfer eich atebolrwydd chi i eraill mewn perthynas â'r adeilad, ymsuddiant a llety arall ar eich cyfer chi os bydd difrod difrifol yswiriedig yn golygu na allwch fyw yn eich fflat.

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn trefnu eich yswiriant cynnwys eich hunan ar gyfer eich eiddo personol.
 

Sut ddylwn i roi gwybod am ddifrod neu wneud hawliad?

Dylid rhoi gwybod i housingrepairs@wrexham.gov.uk ar unwaith am unrhyw ddifrod a achosir gan risg yswiriedig (er enghraifft difrod i do o ganlyniad i storm) i du allan y bloc o fflatiau er mwyn iddynt drefnu i'r difrod gael ei drwsio.

Fodd bynnag, dylech hawlio ar eich polisi yswiriant eich hun am unrhyw ddifrod a achosir gan risg yswiriedig i'ch gosodiadau a’ch ffitiadau chi fel y rhai yn eich ystafell ymolchi neu eich cegin. Dylech anfon neges at insurance@wrexham.gov.uk gyda’ch enw, cyfeiriad, rhif ffôn a disgrifiad byr o’r hyn sydd wedi digwydd. 

Rhaid riportio unrhyw ladrad neu ddifrod troseddol i'r heddlu gan y bydd yr yswirwyr angen rhif trosedd yr heddlu er mwyn prosesu'r hawliad.

Byddwch wedi cael copi o'r llyfryn yn rhoi manylion am y polisi yswiriant felly cofiwch ei ddarllen.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn am yr yswiriant neu os hoffech chi dderbyn copi arall o’r llyfryn polisi, anfonwch neges at insurance@wrexham.gov.uk.

Mae’r yswiriant a’r premiymau a godir yn seiliedig ar berchen feddiannaeth. Os ydych yn prydlesu eich fflat i eraill, rhaid i chi wneud hyn yn ffurfiol - drwy gontract meddiannaeth safonol cyfnod penodol neu gyfnodol. Bydd angen ni chi roi gwybod i’n Hadran Gyfreithiol am y cytundeb ar unwaith, os nad ydych wedi gwneud hynny yn barod. 

Talu eich tâl lesddeiliad

Gallwch dalu’r tâl...

  • drwy ddebyd uniongyrchol, gallwch wneud hyn drwy ein ffonio ni ar 01978 298992 i ofyn am fandad debyd uniongyrchol
  • ar ein e-siop
  • dros y ffôn (ar gael 24 awr) gyd cherdyn credyd neu ddebyd. Ffoniwch 0300 6500 a dilynwch y cyfarwyddiadau awtomataidd.
  • drwy arian parod, cerdyn credyd neu ddebyd yn unrhyw swyddfa ystâd tai lleol  

Bydd yn angenrheidiol i chi dalu anfonebau’n llawn ac y brydlon. Os nad ydych yn gwneud hynny gallai arwain at gymryd camau yn eich erbyn am yr anfoneb gwreiddiol.

Beth os na allaf dalu anfoneb?

Rydym yn sylweddoli y gall fod adegau pan na allwch efallai dalu anfoneb yn llawn. Os nad ydych chi’n gallu talu anfoneb dylech ein ffonio ni ar 01978 298992. Os gallwch brofi caledi efallai y bydd yn bosibl trefnu cynllun i chi wneud y taliadau mewn ffordd wahanol.

I brofi caledi bydd yn rhaid i chi ddarparu manylion incwm a gwariant. Bydd ffigwr yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar y wybodaeth yr ydych yn ei rhoi i ni, a ddylai fod yn rhesymol yn seiliedig ar eich amgylchiadau ariannol.

Peidiwch ag anwybyddu unrhyw anfoneb gan y gallai hynny arwain at anfon archeb derfynol ymlaen at asiantaeth casglu dyledion allanol, neu hyd yn oed gymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn.

Beth os ydw i’n anghytuno â’r Tâl Gwasanaeth?

Rydym bob amser yn ceisio cyfrifo taliadau’n deg ac yn gywir, ond os ydych yn meddwl ein bod wedi gwneud camgymeriad neu wedi codi am waith nad ydych yn credu ei fod wedi cael ei wneud, gallwch ffonio'r Adran Tai ar 01978 298993.

Methu/gwrthod talu eich Tâl Gwasanaeth

Mae eich les yn ddogfen sy’n rhwymo’n gyfreithiol ac wrth ei harwyddo rydych yn cytuno i dalu'r ffioedd perthnasol am unrhyw waith trwsio y mae angen i ni ei wneud ac am gost cynnal a chadw eich eiddo a’ch bloc. 

Os ydych yn gwrthod talu, byddwch yn torri telerau eich prydles a gallwn fynd i’r llys i geisio dyfarniad yn eich erbyn am unrhyw arian sy’n ddyledus. Os ydych wedi cymryd morgais ar yr eiddo bydd dyletswydd arnom i roi gwybod i’ch cymdeithas adeiladu os bydd y fath doriad yn digwydd.

Mewn achosion eithafol, gallai’r llys benderfynu bod toriad difrifol o delerau eich prydes wedi digwydd a rhoi meddiannaeth eich fflat i ni.

Bydd unrhyw gamau sy’n cael eu cymryd yn eich erbyn chi yn arwain at gostau cyfreithiol a chostau’r llys ac felly bydd y symiau sy’n ddyledus gennych chi yn cynyddu. Mae’n bwysig eich bod yn gweithio gyda ni i ddatrys unrhyw anawsterau cyn i bethau gyrraedd y cam hwn.