Rydym bob amser yn ceisio gwella'r ffordd yr ydym yn cyfathrebu gyda'n lesddeiliaid.

Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol y maes tai i gymryd rhan – bydd eich sgiliau a'ch gwybodaeth yn cynyddu wrth i chi gymryd rhan a byddwch yn cael cefnogaeth lawn ein staff.

Arolygon Bodlonrwydd

Rydym yn aml yn cynnal arolygon ar amrywiaeth o anghenion tai penodol  Bydd anfon eich safbwyntiau atom ni drwy’r arolygon hyn yn ein helpu ni i siapio ein gwasanaeth i ddiwallu eich anghenion chi. 

Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid a Lesddeiliaid

Mae’r Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid a Lesddeiliaid yn nodi sut yr ydym yn bwriadu rhoi cyfle i denantiaid a lesddeiliad ddylanwadu ar y gwasanaethau y maent yn eu derbyn. 

Os hoffech gael copi o’r strategaeth neu os ydych eisiau gwybod mwy am gymryd rhan gallwch anfon e-bost at getinvolvedinhousing@wrexham.gov.uk.