Nod prosiect Caru Cymru, a reolir gan Cadwch Gymru'n Daclus (dolen gyswllt allanol), yw ysbrydoli pawb i weithredu a gofalu am yr amgylchedd.
Y weledigaeth ar gyfer Caru Cymru yw y bydd gwneud y peth iawn yn dod yn ail natur i bobl, o fynd â sbwriel adref a glanhau ar ôl eu cŵn, i ailgylchu wrth fynd o le i le ac ailddefnyddio a thrwsio.
Hybiau codi sbwriel
Mae llawer o fannau codi sbwriel yn weithredol o amgylch Wrecsam ble gallwch fenthyg offer am ddim, i gefnogi’r ymgyrch.
Mae’r offer codi sbwriel y gallwch ei fenthyg yn cynnwys codwyr sbwriel, siacedi llachar, bagiau gwyrdd a chylchynau sbwriel i gadw’r bagiau ar agor.
Mae defnyddwyr hefyd wedi eu hyswirio wrth ddefnyddio’r offer ar yswiriant Cadwch Gymru'n Daclus.
Mannau Di Sbwriel
Gall busnesau ac ysgolion ‘fabwysiadu’ ardal sy’n lleol iddynt a helpu i’w chadw yn lân trwy godi sbwriel yn rheolaidd.
Rhoddir pecynnau codi sbwriel am ddim i ysgolion pan fyddant yn cofrestru. Mae’r pecynnau yn cynnwys:
- pecyn o 5 neu 10 codwr sbwriel
- siacedi llachar
- cylchynau i’r bagiau
- sachau gwyrdd neu goch ar gyfer y codwyr sbwriel
Gallwch hefyd ofyn am offer mewn maint llai, i blant iau.
Bydd adnoddau digidol am ddim ar gael i hyrwyddo eich statws newydd.
Bydd y swyddog Cadwch Gymru’n Daclus yn gosod eich ysgol/busnes ar ein system gofnodi ble fydd angen i chi gofnodi eich gweithgareddau codi sbwriel trwy’r ap Epicollect am ddim (neu wefan) a gallu rhannu’r wybodaeth hon ar gyfer cyhoeddusrwydd ac i ddarparu tystiolaeth ar gyfer unrhyw gyllid.