Tipio anghyfreithlon yw’r weithred o daflu sbwriel yn anghyfreithlon, neu daflu gwastraff ar unrhyw dir nad oes ganddo drwydded i dderbyn gwastraff.

Mae’n broblem gynyddol sy’n:

  • difetha ein mwynhad o’n trefi a’n cefn gwlad
  • llygru’r amgylchedd, sy’n gallu niweidio bywyd gwyllt (yn ogystal ag iechyd pobl os yw’r gwastraff yn beryglus)
  • tanseilio busnesau gwastraff sy’n cadw at y gyfraith
  • gall ddylanwadu ar brisiau tai yn ogystal â chadw busnesau ac ymwelwyr draw
  • costio miloedd o bunnoedd bob blwyddyn i awdurdodau lleol ei glirio

Mae mannau poblogaidd yn cynnwys cilfannau, ymyl y ffordd, palmentydd, tir fferm a mannau cyhoeddus agored. Gall gwastraff tipio anghyfreithlon amrywio o un bag bin i bethau fel dodrefn, nwyddau gwyn, rhannau o geir, beiciau neu bramiau.

Eich cyfrifoldeb chi fel deiliad tŷ

Os ydych yn ddeiliad tŷ, mae gennych gyfrifoldeb cyfreithiol i wneud yn siŵr bod y gwastraff o’ch cartref yn cael ei waredu’n gywir.

Gallech gael rhybudd cosb benodedig os byddwch yn rhoi eich gwastraff i rywun sydd yn gollwng y deunydd wedyn.

Mae mwy o wybodaeth am eich cyfrifoldeb dan yr adran ‘Dyletswydd Gofal’ ar ein tudalen Caru Cymru.

Os byddwch yn gweld tipio anghyfreithlon

Ni ddylech fynd at rywun rydych yn credu sydd wedi tipio’n anghyfreithlon na gwrthdaro â nhw. Fodd bynnag, os byddwch yn gweld trosedd gwastraff yn cael ei chyflawni, gallwch ffonio’r heddlu ar 101 (sefyllfa nad yw’n argyfwng) neu Crimestoppers ar 0800 555 111.

Os ydych wedi gweld y bobl/cerbyd, cofnodwch gymaint o fanylion â phosibl - er enghraifft rhif plât y drwydded, nodweddion amlwg a ble rydych wedi’i weld yn digwydd.

Tynnwch luniau os yw’n bosibl a manylion unrhyw dystion eraill os ydynt yn cytuno.

Beth i’w wneud os byddwch yn dod o hyd i sbwriel wedi’i dipio’n anghyfreithlon

Peidiwch â chyffwrdd nag ymyrryd â’r gwastraff gan y gallai fod yn beryglus.

Rhoi gwybod am dipio anghyfreithlon

Gallwch roi gwybod i ni am dipio anghyfreithlon drwy gwblhau ein ffurflen ar-lein.

Dechrau rŵan

Ar gyfer digwyddiadau mwy, rhai sy’n cynnwys gwastraff peryglus neu gangiau cyfundrefnol, gallwch hefyd roi gwybod am dipio anghyfreithlon i Gyfoeth Naturiol Cymru (dolen gyswllt allanol).

Byddwn bob amser yn defnyddio grym llawn y gyfraith i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon. Gallai hyn olygu rhoi rhybudd cosb benodedig o £400 i’r sawl sy’n tipio’n anghyfreithlon, a’r gosb fwyaf bosibl mewn llys o £50,000 neu ddedfryd o 12 mis o garchar.

Cyfrifoldeb perchnogion tir yw delio â thipio anghyfreithlon ar dir preifat.

Ar ôl i chi roi gwybod am dipio anghyfreithlon

Bydd ein tîm gorfodi yn ymchwilio ac yn ceisio dod o hyd i’r troseddwr fel y gallwn gymryd camau gorfodi yn ei erbyn. Os byddwch yn cytuno i fod yn dyst, gall helpu i sicrhau euogfarn.

Ein nod yw cael gwared ar sbwriel sydd wedi’i ollwng cyn pen 24 awr, ond gall gymryd mwy o amser i gael gwared ar fwy o sbwriel.