Mae gorfodaeth amgylcheddol yn golygu rhoi rhybudd cosb am droseddau amgylcheddol fel baw cŵn, troseddau sbwriel a thipio anghyfreithlon a allai niweidio’r amgylchedd ac effeithio ar ein cymunedau. 

Gelwir y cosbau hyn yn Rhybuddion Cosb Benodedig.

Sut rydym yn gorfodi

Rydym yn gorfodi drwy gyhoeddi Rhybuddion Cosb Benodedig i’r rhai sy’n cyflawni troseddau amgylcheddol yn y fwrdeistref. Mae ein swyddogion gorfodi mewn iwnifform (swyddogion gorfodi sifil) yn gweithio o amgylch y fwrdeistref ac mae ganddynt y grym i gyhoeddi Rhybuddion Cosb Benodedig.

Cyhoeddir Rhybuddion Cosb Benodedig am nifer o droseddau megis:

  • Gollwng sbwriel (eitemau fel gwm cnoi, stympiau sigaréts ac unrhyw fathau eraill o sbwriel fel deunydd lapio)
  • Methu â chodi baw ci neu ganiatáu i’ch ci fynd i ardal ble nad oes ganddo hawl bod megis ardal chwarae plant neu faes chwarae penodol
  • Methu â bodloni eich dyletswydd gofal i waredu gwastraff tŷ
  • Tipio anghyfreithlon

Gall y Rhybuddion Cosb Benodedig rydym yn eu cyhoeddi amrywio o £75 am ollwng sbwriel, £100 am unrhyw achos rheoli cŵn, £300 am beidio â gwaredu eich gwastraff tŷ yn gywir a £400 am dipio anghyfreithlon.

Os na fydd Rhybudd Cosb Benodedig yn cael ei dalu, byddwn yn symud ymlaen ag achos llys.

Pam yr ydym yn ei wneud

Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, rydym yn cymryd troseddau amgylcheddol o ddifrif. Ein nod yw cadw Wrecsam yn lle dymunol i’n preswylwyr a’n hymwelwyr.

Mae dyletswydd gyfreithiol arnom i glirio sbwriel a gwastraff o fannau cyhoeddus rydym yn gyfrifol amdanynt fel strydoedd, parciau, caeau chwarae ac ardaloedd i gerddwyr.

Rydym yn gweithio’n galed i gadw’r dref yn daclus a glân ac mae rhan o’r gwaith hwn yn cynnwys gorfodi i wneud yn siŵr ei bod yn aros felly.

Pa bwerau sydd gennym i orfodi

Ers i Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (dolen gyswllt allanol) ddod i rym, fe’i dilynwyd gan Ddeddf Cymdogaethau Glân a’r Amgylchedd 2005 (dolen gyswllt allanol).  Cyflwynodd y deddfau hyn fesurau sy’n caniatáu i awdurdodau lleol gyhoeddi Rhybuddion Cosb Benodedig i unrhyw un sy’n cyflawni trosedd amgylcheddol sy’n niweidio’r amgylchedd lleol.

Os bydd sbwriel yn cael ei daflu neu os bydd tipio anghyfreithlon yn digwydd ar dir preifat, cyfrifoldeb y perchennog yw clirio’r gwastraff.

Ffyrdd eraill rydym yn mynd i’r afael â throsedd amgylcheddol

Rydym hefyd wedi cyflwyno Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus i ddelio â baw cŵn a dulliau eraill o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Yn ddelfrydol, rydym eisiau atal troseddau amgylcheddol rhag digwydd o gwbl.

Gallwn roi amrywiaeth o arwyddion ‘DIM BAW CŴN’ i fyny; yn dibynnu ar natur y safle. Mae’r arwyddion hyn yn rhoi gwybod i berchnogion cŵn am y cosbau ac yn rhwystrau gweledol ar safle’r broblem.

Os ydych wedi cael Rhybudd Cosb Benodedig

Mae gennych 14 diwrnod i dalu’r Rhybudd Cosb Benodedig, gallwch dalu ar-lein drwy ein e-siop (dewch o hyd i’r opsiwn rhybudd penodedig perthnasol dan ‘Pob Siop’ a dewiswch ‘Ymgeisio’).

Drwy dalu’r ddirwy, gallwch osgoi gorfod mynd i’r llys.

Mae’n bwysig cofio y gellir rhoi Rhybudd Cosb Benodedig i chi hyd yn oed:

  • os nad oedd biniau yn agos i’r fan ble cawsoch y ddirwy - eich cyfrifoldeb chi yw cario’r sbwriel i’r bin agosaf neu fynd â’ch sbwriel gartref
  • os nad oedd arwyddion am ollwng sbwriel, baw cŵn neu dipio anghyfreithlon yn yr ardal
  • os mai dim ond ychydig iawn o wastraff rydych wedi’i ollwng - mae stympiau sigaréts a gwm cnoi yn cyfri fel sbwriel a gallant fod yn fwy o niwsans/drytach i’w glanhau na mathau eraill o sbwriel
  • os ydych yn pigo eich sbwriel ar ôl i swyddog ddod atoch - mae troseddau sbwriel yn ymwneud â’r weithred o ollwng y sbwriel
  • os cafodd y drosedd ei chyflawni ar dir preifat - mae gennym hawl cyhoeddi tocyn ar unrhyw dir sydd ar agor i’r cyhoedd, dan Adran 87 (2) a (3) Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.

Sut i wneud sylwadau yn erbyn Rhybudd Cosb Benodedig

Nid oes proses ffurfiol o wneud sylwadau yn erbyn Rhybudd Cosb Benodedig. Mae hyn oherwydd, drwy dalu Rhybudd Cosb Benodedig, er nad ydych yn cyfaddef eich bod yn euog, rydych yn cytuno bod trosedd wedi’i chyflawni a thrwy dalu, ni fyddwn yn cymryd unrhyw gamau pellach.

Os byddwch yn anghytuno eich bod wedi cyflawni trosedd, gallwch benderfynu peidio â thalu’r Rhybuddion Cosb Benodedig ac yna bydd llys yn penderfynu ar y mater. Fodd bynnag, gall hyn gymryd llawer o amser a gall fod yn ddrud i’r ddwy ochr.

Sylwadau anffurfiol

Mae gennym broses sylwadau anffurfiol sy’n gallu helpu i ddatrys anghydfod cyn iddynt gyrraedd y llys. 

Os byddwn ni, neu unrhyw un sy’n gweithredu ar ein rhan, yn rhoi Rhybudd Cosb Benodedig i chi, gallwch roi sylwadau ysgrifenedig os ydych yn:

  • anghytuno eich bod wedi cyflawni trosedd 
  • teimlo ei bod yn afresymol ein bod wedi rhoi’r rhybudd

Gallwch wneud hyn drwy e-bostio environmentalcrime@wrexham.gov.uk neu drwy anfon llythyr at:

Y Prif Swyddog Amgylcheddol a Thechnegol,
Neuadd y Dref,
Wrecsam,
LL11 1AY

Er mwyn rhoi Rhybudd Cosb Benodedig i chi, bydd gennym dystiolaeth eich bod wedi cyflawni trosedd. Felly, rhaid i unrhyw sylwadau ddangos yn glir y rhesymau pam y dylid ailystyried y Rhybudd Cosb Benodedig.

Bydd arnoch angen rhoi tystiolaeth i ni, megis lluniau a thystion, fel y gallwn ystyried eich sylwadau yn llawn.

Os na fyddwch yn gallu talu cyn pen 14 diwrnod

Os ydych wedi cael dirwy am ollwng sbwriel neu faw ci, gallwch gysylltu â ni i egluro eich amgylchiadau drwy e-bostio environmentalcrime@wrexham.gov.uk.

Sut ydym yn delio â sylwadau

Bydd yr holl sylwadau’n cael eu hystyried yn unigol, yn seiliedig ar y wybodaeth a thystiolaeth a roddwyd gennych a gan y sawl sydd wedi cyhoeddi’r rhybudd.

Byddwch yn cael ymateb ysgrifenedig llawn, fel arfer cyn pen 10 diwrnod gwaith. Pan fydd angen ymchwiliad mwy manwl, byddwn yn ymateb cyn pen 5 diwrnod gwaith.

Os na fydd y sylwadau’n cael eu cadarnhau, bydd y rhesymau’n cael eu hegluro a rhoddir 14 diwrnod eto i dalu.

Os na fyddwch yn fodlon â’r ymateb, yna gallwch gyflwyno sylwadau pellach i’n Cydlynydd Gwasanaethau Gorfodi, fydd yn adolygu’r mater yn llawn.

Dolenni perthnasol