Gwneud cais am le mewn dosbarth meithrin

Ymgeisiwch rŵan

 

Mae darpariaeth y Blynyddoedd Cynnar ac ysgolion cynradd yn Wrecsam yn darparu addysg feithrin cyfrwng Cymraeg, cyfrwng Saesneg ac mewn ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion gwirfoddol a reolir.

Cynigir addysg feithrin ar sail sesiwn ddwy awr a hanner bum gwaith yr wythnos yn ystod blwyddyn ysgol 2024/2025.

Dylech lenwi ffurflen gais awdurdod lleol Wrecsam i wneud cais am le mewn ysgol, fodd bynnag mewn rhai amgylchiadau efallai y bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais yr ysgol ei hun hefyd (gweler y wybodaeth ychwanegol isod am ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, ysgolion sefydledig ac ysgolion y tu allan i'r sir).

Ble bynnag yr ydym yn cyfeirio at ‘ein cais’ ar y dudalen hon mae hyn yn golygu ffurflen gais yr awdurdod lleol – oherwydd mai Cyngor Wrecsam yw'r awdurdod derbyn lleol ar gyfer ysgolion cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.

Ers mis Medi 2022 mae ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Cymraeg newydd wedi agor ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae’r ysgol, a sefydlwyd ar hen safle adran babanod Ysgol Gynradd Parc Borras ar Ffordd Parc Borras, yn darparu addysg i blant sy’n mynd i ddosbarthiadau meithrin / derbyn. 

Dylai rhieni sy’n dymuno gwneud cais am le ar gyfer yr ysgol hon nodi ‘Ysgol Llan-y-pwll’ fel dewis a ffafrir, un ai drwy ddefnyddio’r gwymplen ar y ffurflen gais ar-lein neu ei nodi ar ffurflen gais ar bapur.

Pryd a sut alla’i wneud cais?

O 8 Ionawr, 2024 gallwch wneud cais am le mewn dosbarth meithrin i'ch plentyn. Mae llefydd ar agor i blant a fydd wedi cael eu pen-blwydd yn dair oed cyn neu ar 31 Awst, 2024.

Gallwch wneud cais ar-lein – dyma’r ffordd gyflymaf a rhwyddaf i wneud cais. Byddwch chi hefyd yn cael e-bost yn rhoi gwybod i chi bod eich cais wedi’i dderbyn.

Fel arall, mae ceisiadau bapur ar gael drwy anfon ebost i admissions@wrexham.gov.uk.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 16 Chwefror, 2024.

Ceisiadau hwyr

Bydd ceisiadau hwyr yn cael sylw ar ôl y rhai a dderbynnir mewn pryd, felly mae’n bwysig eich bod yn anfon eich ceisiadau erbyn y dyddiad cau.

Er bod modd cyflwyno cais ar ôl y dyddiad cau, os ydych chi’n gwneud cais ar ôl diwedd y cyfnod dyrannu (22 Mawrth, 2024) ni fydd eich cais yn cael ei brosesu tan ar ôl y dyddiad cynnig cenedlaethol (7 Mai, 2024).

Gwneud cais am le mewn ysgol wirfoddol a gynorthwyir

Os ydych yn gwneud cais am le mewn ysgol Gatholig neu Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru, efallai y bydd yr ysgol hefyd yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais ychwanegol ac am dystiolaeth atodol. Os felly, bydd yn ofynnol i chi lenwi a dychwelyd eu ffurflen gais ar wahân nhw yn ogystal a chwblhau ein cais ar-lein (neu bapur) ni.

Dylech wirio’r dyddiad cau ar unrhyw ffurflenni ar wahân sydd gan ysgolion unigol gan y gallai fod yn ddyddiad gwahanol. 

Gwneud cais am ysgolion y tu allan i’r sir

Bydd yn rhaid i chi gysylltu â’r awdurdod derbyn priodol ar gyfer  ysgol y tu allan i’r sir.

Byddem yn eich cynghori o hyd i lenwi ein ffurflen gais ar-lein (neu bapur) ni, hyd yn oed os ydych yn gwneud cais am ysgol y tu allan i Fwrdeistref Sirol Wrecsam - rhag ofn y bydd y cais ar gyfer yr ysgol yr ydych yn ei ffafrio yn aflwyddiannus.

Efallai y bydd gan ysgolion y tu allan i’r sir amserlen dderbyn wahanol i Awdurdod Lleol Wrecsam felly bydd angen i chi gysylltu â nhw a gwirio hynny gyda’r awdurdod derbyn perthnasol er mwyn gwneud yn siŵr nad ydych yn methu’r dyddiad cau.

A gaf ddweud pa ysgol fyddai orau gennyf?

Gallwch ddweud pa ysgol/ysgolion fyddai orau gennych yn eich cais.

Argymhellir eich bod yn dewis mwy nag un ysgol gan roi'r ysgol fyddai orau gennych chi ar frig y rhestr a'r ail, trydydd ac ati wedyn, rhag ofn y byddwch yn aflwyddiannus yn eich cais/ceisiadau i'r ysgol/ysgolion fyddai orau gennych (ni fydd rhestru un ysgol fwy nag unwaith yn gwella eich siawns).

Beth sy’n digwydd wedi imi wneud cais?

Pwy sy’n penderfynu? 

Os ydych wedi gwneud cais am le mewn ysgol gynradd gymunedol, dosbarth meithrin neu ysgol wirfoddol a reolir, bydd eich cais yn cael ei ystyried gennym ni (h.y. Cyngor Wrecsam, fel yr awdurdod derbyn lleol).

Os ydych wedi gwneud cais am le mewn Ysgol Gatholig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru, bydd eich cais yn cael ei ystyried gan gorff llywodraethu'r ysgol honno.

Os yw’r ysgol yr ydych wedi gwneud cais ar ei chyfer y tu allan i Sir Wrecsam, bydd eich cais yn cael ei ystyried gan awdurdod derbyn perthnasol yr ysgol. 

Pryd a sut fydda i’n cael gwybod am le meithrin fy mhlentyn?

Os ydych wedi gwneud cais am le mewn ysgol gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir byddwch yn rhoi gwybod  chi erbyn 7 Mai 2024 os yw eich plentyn wedi cael cynnig lle mewn dosbarth meithrin yn yr ysgol yr ydych yn ei ffafrio.

Os ydych wedi dweud wrthym eich bod eisiau clywed drwy e-bost byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost, fel arall byddwn yn anfon llythyr atoch.

Os ydych wedi gwneud cais am le mewn Ysgol Gatholig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir, byddwch yn cael llythyr gan gorff llywodraethu'r ysgol erbyn 7 Mai, 2024.

Unwaith y byddwch wedi cael gwybod am le meithrin eich plentyn, bydd pennaeth yr ysgol yn rhoi gwybod i chi cyn gynted â phosib pa sesiwn y gall eich plentyn ei fynychu.

Cyngor a dogfennau

Os bydd arnoch angen rhagor o wybodaeth am y broses dderbyn gallwch ddarllen ein canllaw ar gyfer rheini.