Trosglwyddo rhwng ysgolion y tu allan i gyfnodau derbyn arferol

Mae trosglwyddiadau fel arfer yn digwydd ar ddechrau pob tymor. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y bydd trosglwyddiad ar unrhyw adeg arall. Ni ddylai trosglwyddiad gymryd mwy na 15 diwrnod ysgol i’w brosesu. Serch hynny, pan fo materion arwyddocaol yn berthnasol i’r plentyn/symud, fel anghenion dysgu ychwanegol, fe allai’r trosglwyddiad gymryd ychydig yn hirach, er mwyn sicrhau bod darpariaeth briodol ar gael. Rhaid i ddisgyblion aros yn yr ysgol tra mae’r cais am drosglwyddiad yn cael ei brosesu.

Rydym ni (fel awdurdod derbyniadau lleol Wrecsam) yn barod i ystyried ceisiadau am drosglwyddiadau rhwng ysgolion y tu allan i’r cyfnodau derbyn arferol pan fo hynny er budd gorau’r  plentyn/plant. Fodd bynnag, ystyrir Blynyddoedd 10 ac 11 mewn ysgol uwchradd yn ‘gwrs 2 flynedd’. O ganlyniad, mae ceisiadau i drosglwyddo i ysgol arall yn Wrecsam, ar ôl Blwyddyn 9 yn aml yn cael effaith negyddol ar gynnydd academaidd disgyblion ac efallai na fydd yr Awdurdod Lleol yn ystyried bod symud yn briodol.  

Fel cam cyntaf, cynghorir rhieni sy’n gofyn am drosglwyddo y tu allan i’r cyfnodau trosglwyddo arferol i drafod cynnydd eu plentyn ac unrhyw broblemau gyda phennaeth ysgol bresennol y plentyn. Ar ôl y trafodaethau hyn, dylai rhieni sy’n dal yn dymuno trosglwyddo gysylltu a ni (fel yr awdurdod derbyniadau lleol) yn Admissions@wrexham.gov.uk. Bydd y cais am drosglwyddo’n cael ei ystyried yng nghyd-destun Polisi Derbyn yr Awdurdod Lleol. Os na yw cais i drosglwyddo yn llwyddiannus, mae gan rieni hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad (nid yw'r hawl i apelio yn berthnasol gyda derbyniadau i ddosbarthiadau meithrin).