Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog o raglen Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a bydd yn darparu £2.6 biliwn o arian ar gyfer buddsoddiad lleol ar draws y DU erbyn Mawrth 2025. 

Prif nod y gronfa yw:  “Datblygu balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd”.

I gefnogi’r nod hwn, rydym wedi datblygu Cronfa Allweddol (cynlluniau grant) y gall sefydliadau a busnesau wneud cais amdanynt:

Cronfa Allweddol Grant Busnes Wrecsam: Bellach ar gau ar gyfer unrhyw geisiadau pellach

Darllenwch y canllawiau’n ofalus i sicrhau fod eich sefydliad neu eich busnes yn ymgeisio am y gronfa allweddol gywir.   

Os byddwch yn cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb i’r gronfa allweddol anghywir, bydd yn rhaid i chi wneud cais arall i’r cynllun cywir, gan na fydd modd trosglwyddo ceisiadau rhwng cronfeydd.

Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu ar sail y cyntaf i’r felin, a’u hystyried o ran cymhwysedd, gwerth am arian o ran allbynnau / canlyniadau i’w cyflawni ac yn unol â nodau ac amcanion y cynllun.