Mae’r cyfnod derbyn Datganiadau o Ddiddordeb ar gyfer y grant hwn wedi dod i ben. Mae’n bosibl y caiff y grant ei ailagor ar gyfer Datganiadau o Ddiddordeb pe bai unrhyw gyllid ar gael i’w ailddyrannu. 

Mae’r gronfa hon yn un o chwe Cronfa Allweddol Ffyniant Gyffredin y DU sydd ar gael ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae’r cyllid ar gyfer y grant hwn yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Logo Llywodraeth y DU
Logo "Wedi'i yrru gan Ffyniant Bro"

 

Bydd y cyllid hwn yn darparu grantiau refeniw a chyfalaf i lywio datblygiad safleoedd a busnes o fewn Wrecsam.  

Wedi’i anelu at:

  • berchnogion eiddo presennol
  • darpar ddatblygwyr
  • busnesau
  • buddsoddwyr  

Bydd y gronfa allweddol hon yn darparu cefnogaeth ariannol i gael mynediad at ystod eang o astudiaethau dylunio, dichonoldeb a hyfywedd i lywio dulliau arloesol newydd ar ailddefnyddio eiddo a lleihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â safleoedd tir llwyd er mwyn ysgogi buddsoddiad mewnol ac economi Bwrdeistref Sirol Wrecsam.   

Byddai’r gronfa allweddol hon hefyd yn darparu grantiau cyfalaf ar gyfer darnau o waith corfforol ac yn darparu allbynnau arbennig fel y nodwyd mewn astudiaethau dichonoldeb presennol neu a ariannir. 

Ar gyfer beth gellir defnyddio’r grant?

  • Costau ar gyfer comisiynu astudiaeth dichonoldeb - grantiau o hyd at £50,000
  • Elfennau o waith ailwampio neu gyfarpar sydd eu hangen (fel y nodwyd o fewn eich astudiaeth ddichonoldeb) - mae grantiau gwerth £30,000- £250,000 ar gael 

Gofynion arian cyfatebol

  • Grant refeniw (yn ddibynnol ar astudiaethau dichonoldeb) - 10% o arian cyfatebol
  • Grant cyfalaf (gan gynnwys darparu’r camau a nodwyd o fewn astudiaethau dichonoldeb) - 20% o arian cyfatebol  

Sut i ymgeisio

Bydd ceisiadau am gyllid yn dilyn proses dau gam: 

Cam 1

Dylid cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb i amlinellu eich prosiect a fydd yn ein galluogi i wirio p’un a yw eich sefydliad a’ch prosiect arfaethedig yn gymwys i wneud cais i’r gronfa allweddol hon.   

Bydd yn rhaid i chi gofrestru am gyfrif ar gyfer eich sefydliad ar FyNghyfrif er mwyn gallu gwneud hyn.  

Cam 2

Ar ôl cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb, byddwn yn asesu p’un a yw eich sefydliad a’ch prosiect yn gymwys i ymgeisio am y gronfa allweddol.  

Os bydd eich cais yn gymwys, byddwch yn derbyn e-bost gyda dolen i’r ffurflen gais lawn.   Darperir y ffurflen drwy FyNghyfrif, sy’n caniatáu i chi gadw unrhyw gynnydd, uwchlwytho tystiolaeth a pharatoi eich cais llawn i’w gyflwyno.  

Unwaith y byddwn wedi derbyn y ceisiadau llawn, y camau nesaf fydd: 

  1. Bydd y tîm perthnasol yn gwerthuso’r cais llawn. 
  2. Byddwn yn ceisio barn gan fudd-ddeiliaid perthnasol. 
  3. Bydd y Panel Ymgynghorol Lleol yn asesu ac yn blaenoriaethu’r prosiect, ac yna’n cymeradwyo neu’n gwrthod y cais llawn.  
  4. Bydd pob ymgeisydd yn cael eu hysbysu o’r penderfyniad. 
  5. Byddwn yn cyflwyno cytundebau cyllid grant ffurfiol ar gyfer ceisiadau llwyddiannus.  

Drwy gyflwyno cais llawn, rydych yn caniatáu i ni (Cyngor Wrecsam) wneud unrhyw ymholiadau hanfodol i wirio unrhyw wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gweinyddu rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae’n bosibl y bydd y wybodaeth rydych yn ei darparu’n cael ei rhannu gydag eraill fel y nodir yn Hysbysiad Preifatrwydd Cronfa Allweddol Wrecsam

Sut caiff ceisiadau eu hasesu?

Caiff ceisiadau llawn eu hasesu ar sail y cyntaf i’r felin a’u hystyried o ran:  

  • cymhwysedd
  • gwerth am arian yn seiliedig ar allbynnau / canlyniadau i’w cyflawni ac yn unol â nodau ac amcanion y cynllun