Trosolwg o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn biler canolog o agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a bydd yn darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol ledled y DU erbyn mis Mawrth 2025.

Nod cyffredinol y gronfa yw: “Meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd”.

Nod yr UKSPF yw cyflawni hyn drwy dair blaenoriaeth fuddsoddi:

  • Cymuned a Lle
  • Cefnogi Busnes Lleol
  • Pobl a Sgiliau (gan gynnwys rhifedd oedolion)

Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gogledd Cymru

Bydd pob rhan o’r DU yn cael rhywfaint o’r cyllid, sy’n cael ei ddyrannu i ardaloedd unigol yn seiliedig ar fformiwla. Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gyflwyno'r Gronfa.

Yng Nghymru, rhaid i ardaloedd lleol weithio gydag eraill o fewn eu rhanbarth i ddarparu'r gronfa. Mae Rhanbarth Gogledd Cymru yn cynnwys siroedd Wrecsam, Fflint, Dinbych, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn.

Mae cyfanswm o £126.46* miliwn wedi'i ddyrannu o'r UKSPF i Ogledd Cymru. Mae'r cyfanswm yn cynnwys £21.84* miliwn y mae'n rhaid ei ddefnyddio i gefnogi rhifedd oedolion (y rhaglen Lluosi).

*Mae £4.44 miliwn o'r cyfanswm yn amodol ar gadarnhad.

Mae’r dyraniad ar gyfer pob ardal awdurdod lleol unigol fel a ganlyn:

Ynys Môn: £16,081,937
Gwynedd: £24,423,747
Conwy: £24,520,120
Sir Ddinbych: £25,647,958
Fflint: £13,102,933
Wrecsam: £22,684,205

Mae’r cyllid yn cynnwys arian cyfalaf a refeniw ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2025.

Ar 5 Rhagfyr 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd yr arian yn dod i Ogledd Cymru, ond dim ond am un flwyddyn ariannol ar y tro y bydd yr arian yn cael ei gadarnhau gan Lywodraeth y DU.

Cyflawni'r UKSPF yng Ngogledd Cymru

Er mwyn lleihau costau a chymhlethdod, bydd awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i weinyddu'r UKSPF. Fodd bynnag, bydd pob penderfyniad ar ble mae'r arian yn mynd yn cael ei wneud yn lleol ym mhob ardal.

Bydd y rhan fwyaf o'r arian yn cael ei ddosbarthu drwy grantiau i gefnogi sefydliadau i gyflawni prosiectau fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn cymunedau lleol.

Mae’r cyfle cyntaf i gyflwyno ceisiadau am gyllid bellach ar agor a bydd yn cau am hanner dydd ar 24 Chwefror 2023. Mae'n bosib y bydd cyfleoedd yn y dyfodol i gyflwyno ceisiadau yn cael eu hagor - ym mhob un neu rai ardaloedd awdurdod lleol ac ar gyfer pob un neu rai meysydd gweithgaredd - os bydd arian yn parhau i fod ar gael.

Awdurdodau lleol fydd yn penderfynu pa brosiectau fydd yn derbyn arian gyda chyngor partneriaeth o randdeiliaid lleol.

Gall ymgeiswyr gyflwyno cais am brosiectau sy'n cyflawni mewn un ardal awdurdod lleol neu fwy. Bydd pob ardal yn penderfynu a ydynt am gefnogi cais neu ddim.

Yr hyn y bydd yr UKSPF yn ei gefnogi

Amlinellir yr amcanion ar gyfer tair blaenoriaeth buddsoddi'r UKSPF – cymunedau a lle, cefnogi busnesau lleol a phobl a sgiliau – ym Mhrosbectws yr UKSPF (dolen gyswllt allanol).

Ar gyfer Cymru, caniateir 53 o ymyriadau UKSPF sy’n cwmpasu’r tair blaenoriaeth fuddsoddi a’r rhaglen Lluosi:

Rhaid i unrhyw brosiect a ariennir gan yr UKSPF fynd i'r afael ag un, neu fwy, o'r ymyriadau hyn.

Rhaid i bob prosiect hefyd gyflawni un neu fwy o’r allbynnau a’r canlyniadau sydd wedi eu cyhoeddi gan Lywodraeth y DU:

Er mwyn darparu cymaint o hyblygrwydd â phosibl, bydd awdurdodau lleol Gogledd Cymru yn caniatáu i ymgeiswyr ddewis unrhyw un o'r allbynnau a'r canlyniadau a restrir sy'n berthnasol i'r flaenoriaeth / blaenoriaethau buddsoddi y mae eu prosiect yn mynd i'r afael â hwy.

Yn ogystal â dangos aliniad â’r UKSPF ei hun, rhaid i brosiectau sy’n ceisio cymorth yng Ngogledd Cymru:

  • dangos sut y maent yn ychwanegu gwerth at, ac wedi eu hintegreiddio â, gweithgaredd cyfredol ac arfaethedig yn y maes perthnasol, gan osgoi dyblygu; 
  • fod wedi ymgysylltu â, a derbyn cefnogaeth gan, rhanddeiliaid perthnasol yn y maes gweithgaredd a'r ardaloedd y byddant yn gweithredu ynddynt;
  • helpu i wireddu - neu fod yn gydnaws â - polisïau a strategaethau rhanbarthol a chenedlaethol perthnasol; a,
  • deall a mynd i'r afael ag anghenion yr ardaloedd lleol y maent yn bwriadu gweithredu ynddynt a helpu i wireddu'r blaenoriaethau / strategaethau lleol perthnasol.

Gall strategaethau a chynlluniau rhanbarthol perthnasol gynnwys (nid rhestr gyflawn):

Gall cynlluniau a strategaethau lleol perthnasol gynnwys:

Pethau pwysig i'w gwybod

  • Mae'r amserlen ar gyfer cyflawni'r UKSPF yn fyr; yn ymarferol, bydd angen bob prosiect ddod i ben a chyflwyno'u hawliadau terfynol erbyn 31 Rhagfyr 2024, er mwyn caniatáu amser ar gyfer cau'r rhaglen.
  • O ystyried y cyfnod byr sydd ar gael ar gyfer cyflawni, bydd awdurdodau lleol yn ceisio cefnogi nifer cymharol fach o brosiectau strategol a mwy eu maint. Rhaid i bob prosiect a gyflwynir ceisio o leiaf £250,000 o arian UKSPF; mae'r awdurdodau lleol yn rhagweld, ar gyfartaledd, y bydd prosiectau a gefnogir yn ceisio £1 miliwn neu fwy o arian UKSPF.
  • I alluogi busnesau, sefydliadau a chymunedau lleol sy'n ceisio symiau llai o gymorth cael mynediad at arian UKSPF; bydd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn ceisio sefydlu cronfeydd cyfryngol yn lleol, gan ddarparu trefn ymgeisio, cymeradwyo a monitro symlach. Bydd gwybodaeth am y cronfeydd hyn yn ymddangos ar wefannau awdurdodau lleol unigol pan fydd ar gael.
  • Fel y nodwyd yn flaenorol, er bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi dyraniadau UKSPF ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Mawrth 2025, dim ond yn flynyddol y caiff y cyllid ei gadarnhau. Bydd y cytundebau ariannu a ddarperir gan awdurdodau lleol Gogledd Cymru i ymgeiswyr llwyddiannus yn adlewyrchu hyn. Bydd unrhyw ymgeisydd sy’n ymrwymo i wariant y tu hwnt i’r cyfnod y caiff cyllid ei gadarnhau ar ei gyfer yn gwneud hynny ar ei risg eu hunain.
  • Dechreuodd y cyfnod cymwys ar gyfer gwariant o dan yr UKSPF ar 1 Ebrill 2022. Gall ymgeiswyr felly gynnwys elfen o wariant ôl-weithredol yn eu ceisiadau. Nodwch y bydd unrhyw wariant a wneir gan ymgeiswyr cyn arwyddo cytundeb cyllid grant yn gyfan gwbl ar risg eu hunain.
  • Mae’r UKSPF yn cynnwys cyllid cyfalaf a refeniw. Gall ymgeiswyr ddewis cyflwyno ceisiadau ar gyfer prosiectau cyfalaf yn unig, prosiectau refeniw yn unig neu brosiectau sy'n ceisio cyfuniad o'r ddau.
  • Bydd gweithredu yn unol â threfn rheoli cymhorthdal newydd y DU a ddechreuodd ar 4 Ionawr 2023, yn allweddol ar gyfer unrhyw brosiect. Dylai pob ymgeisydd ymgyfarwyddo â gofynion y drefn:
  • O ystyried yr amgylchiadau cyfyngedig ar gyfer cyflawni’r UKSPF, bydd hyder yn y gallu cynigion a gyflwynir i gyflawni yn ystyriaeth allweddol i awdurdodau lleol ochr yn ochr â chapasiti a gallu'r sefydliad sy’n ymgeisio.

Dewis prosiectau

Gan adlewyrchu'r pwyslais gan awdurdodau lleol Gogledd Cymru ar benderfyniadau lleol bydd pob ardal leol yn penderfynu sut y dymunant ddewis prosiectau ar gyfer cefnogaeth UKSPF.

Fodd bynnag, bydd ystyriaethau cyffredin yn cynnwys:

  • alinio cynigion â buddsoddiadau ac ymyriadau â blaenoriaeth yr UKSPF;
  • allbynnau a chanlyniadau disgwyliedig cynigion;
  • ychwaneged ac aliniad prosiectau arfaethedig gyda gweithgaredd presennol a gweithgaredd arfaethedig;
  • y gallu i gyflawni a chapasiti / gallu'r ymgeisydd (gan gynnwys ymwybyddiaeth o ofynion cyfreithiol a rheoliadol); a,
  • aliniad cynigion gydag anghenion cenedlaethol, rhanbarthol ac, yn fwyaf arbennig, lleol.

Bydd ardaloedd lleol yn ystyried y cymysgedd cyffredinol o weithgareddau a gynigir yn ogystal â chynigion unigol, i sicrhau yr eir i'r afael ag anghenion eu hardaloedd ac amcanion blaenoriaethau buddsoddi'r UKSPF.

Fel y nodwyd, bydd awdurdodau lleol yn penderfynu pa brosiectau fydd yn derbyn arian gan ystyried cyngor partneriaeth o randdeiliaid lleol. Bydd barn rhanddeiliaid allweddol o fewn y maes gweithgaredd mae'r prosiect am weithio ynddo hefyd yn cael ei geisio a'i ystyried.

Sut i wneud cais

Bydd ceisiadau am gyllid UKSPF yng Ngogledd Cymru yn dilyn proses dau gam:

Cam 1 : cyflwyno cais prosiect amlinellol (mae'r rownd gyntaf i geisiadau bellach wedi cau)

Cam 2 : cyflwyno cais prosiect manwl

Bydd awdurdodau lleol yn blaenoriaethu ac yn dewis prosiectau ar sail eu cais amlinellol cam 1.

Bydd y prosiectau sy'n cael eu dewis yn derbyn gwahoddiad i i baratoi a chyflwyno cais manwl cam 2, fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y cynnig. Bydd cytundebau cyllid grant ffurfiol yn cael eu cyhoeddi ar ôl gwerthuso cais manwl cam 2.

Y camau nesaf ar ôl derbyn ceisiadau fydd:

a)    Bydd y cais yn cael ei werthuso gan y tîm Cronfa Ffyniant Gyffredin lleol perthnasol (prosiectau sy’n ceisio cyflawni mewn un ardal awdurdod lleol yn unig) neu dîm rhanbarthol y Gronfa Ffyniant Gyffredin (prosiectau sy’n ceisio cyflawni mewn mwy nag un ardal awdurdod lleol).
b)    Gofynnir am farn rhanddeiliaid perthnasol.
c)    Bydd y Panel Cynghori Lleol (neu baneli yn achos prosiectau sy’n ceisio cyflawni mewn mwy nag un ardal awdurdod lleol) yn asesu ac yn blaenoriaethu’r prosiectau sydd i law ac yn gwneud argymhellion i'r awdurdod / awdurdodau lleol.
d)    Awdurdod / awdurdodau lleol yn penderfynu pa brosiectau y maent am eu cefnogi
e)    Ymgeiswyr yn cael eu hysbysu o'r penderfyniad.
f)    Ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn gwahoddiad i baratoi a chyflwyno cais prosiect manwl cam 2
g)    Wedi i'r ceisiadau prosiect manwl cam 2 gael eu derbyn; asesiadau pellach  a gwiriadau diwydrwydd terfynol ar yr ymgeiswyr yn cael eu cwblhau.
h)    Awdurdod lleol / awdurdodau yn cadarnhau penderfyniad terfynol ar y cais
i)    Cytundebau cyllid grant ffurfiol yn cael eu rhyddhau gan y tîm rhanbarthol ar ran awdurdod / awdurdodau lleol.

Bydd yr amserlen ar gyfer gwneud penderfyniadau yn amrywio yn ôl y broses / trefn bob awdurdod lleol. Rydym yn rhagweld y bydd ein penderfyniad ar geisiadau Cam 1 yn cael eu gwneud erbyn canol Mai. 

Wrth gyflwyno cais , byddwch yn awdurdodi’r cyngor(au) i wneud unrhyw ymholiadau angenrheidiol i wirio unrhyw wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gweinyddu'r rhaglen UKSPF. Mae’n bosibl y bydd y wybodaeth a roddwch hefyd yn cael ei rhannu ag eraill fel y nodir yn yr hysbysiad preifatrwydd canlynol:

Mwy o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth neu i drafod eich cynnig, cysylltwch â’r awdurdod lleol/awdurdodau perthnasol a’r Gronfa Ffyniant a Rennir: Tîm Gogledd Cymru os ydych am gyflwyno prosiect ar draws mwy nag un ardal awdurdod lleol:

Wrecsam - e-bost: CronfaFfyniantGyffredin@wrexham.gov.uk