Mae’r gronfa hon yn un o chwe Cronfa Allweddol Ffyniant Gyffredin y DU sydd ar gael ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae’r cyllid ar gyfer y grant hwn yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Logo Llywodraeth y DU
Logo "Wedi'i yrru gan Ffyniant Bro"

 

Prif nod y grant hwn yw i gyfrannu at y nodau a nodir yng Nghynllun Creu Lleoedd y Cyngor i wella canol Wrecsam ac annog pobl i ail-ddychmygu a dylanwadu ar sut y dylai edrych, teimlo, a gweithredu. 

Mae’r uchelgais i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029, gyda’r cais yn barod i’w gyflwyno yn 2025, yn golygu bod yr ychydig flynyddoedd nesaf yn gyfnod tyngedfennol ar gyfer siapio canol Wrecsam. Fel rhan o’r uchelgais hwn, rydym yn awyddus i galonogi digwyddiadau ar raddfa fawr ac o ansawdd uchel sy’n cynyddu nifer yr ymwelwyr ac yn cyfrannu at ddatblygu’r economi.

Mae cyfanswm o £55,000 bellach ar gael i wneud cais amdano; er mwyn cynnal digwyddiadau unigryw sy'n cynyddu nifer yr ymwelwyr yng Nghanol y Ddinas ac yn cael effaith ar y Fwrdeistref Sirol. 

Mae'r grantiau canlynol ar gael:

  • 3 x grant £10,000 
  • 5 x grant £5000

Rydym yn gwahodd sefydliadau diwylliannol, grwpiau cymunedol, busnesau, a sefydliadau trydydd sector i wneud cais am y grantiau hyn i ddarparu gweithgarwch diwylliannol i’w cynnal yng Nghanol Dinas Wrecsam cyn 31 Hydref, 2024.

I fod yn gymwys i wneud cais, mae’n rhaid i'r ymgeisydd fod yn sefydliad gwirfoddol, busnes neu grŵp cymunedol cyfansoddiadol a sefydledig, a dylai fod â chyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn enw'r sefydliad neu dylai fod â sefydliad cynnal sy'n barod i dderbyn yr arian ar ei ran.

Ni chaiff taliadau eu gwneud i unigolion. Ni dderbynnir ceisiadau gan unigolion.

Amcanion ceisiadau

Rhaid i geisiadau fodloni'r meini prawf craidd canlynol:

  • Dangos y gallu i gasglu / mesur ac adrodd yn gywir ar allbwn SPF gorfodol o ran lefelau cynnydd yn nifer yr ymwelwyr yn ystod y digwyddiad a chyfrannu at gyflawni allbynnau a chanlyniadau SPF ehangach o fewn ffiniau Canol y Ddinas fel yr amlinellir yn y Cynllun Creu Lleoedd.
  • Dangos bod y digwyddiad yn ychwanegu rhywbeth o werth uchel at y gymuned leol, gan ychwanegu rhywbeth newydd a gwahanol at yr arlwy ddiwylliannol bresennol. 
  • Dangos bod cyllid SPF yn ofynnol er mwyn galluogi’r digwyddiad neu weithgaredd hwn i fynd yn ei flaen. 
  • Rhaid i’r holl hyrwyddo a marchnata sy’n gysylltiedig â’r gweithgaredd ddangos bod cefnogaeth ariannol wedi’i darparu trwy SPF gan gynnwys y logo ‘Ffyniant Bro’, a chefnogaeth i gais Dinas Diwylliant Wrecsam 2029 trwy gynnwys logo’r ymgyrch. 
  • Rhaid cynnal digwyddiadau a rhaid gwario’r holl gyllid erbyn 31 Hydref, 2024.
  • Telir y grant yn ôl-weithredol felly bydd angen i’ch sefydliad dalu’r costau angenrheidiol er mwyn cwblhau’r prosiect cyn hawlio’r grant gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Gellir cyflwyno hawliadau gwariant interim cyn cwblhau'r digwyddiad/gweithgaredd.

Mae ceisiadau sy’n bodloni un neu fwy o’r Amcanion Lleol canlynol yn debygol o gael sgôr uwch:

  • Hyrwyddo Wrecsam fel canolbwynt masnach a digwyddiadau yng Ngogledd Cymru
  • Dangos uchelgais / gallu Wrecsam i gynnal digwyddiadau a gweithgarwch o bwysigrwydd rhyngwladol
  • Dathlu dyhead Wrecsam i fod yn ‘Brifddinas Chwarae’ y DU
  • Dangos bod Wrecsam yn arweinydd mewn arloesedd
  • Rhoi pwyslais ar y Gymraeg a threftadaeth Cymru
  • Dathlu amrywiaeth ddiwylliannol a gwella hygyrchedd i ddigwyddiadau / gweithgareddau
  • Dangos pam y byddai Wrecsam yn haeddu’r teitl ‘Dinas Diwylliant y DU 2029’

Mae prosiectau’n debygol o gael sgôr uwch:

  • Os ydynt yn dangos sut y byddant yn mynd i’r afael â’r bwlch neu angen presennol a nodwyd 
  • Os ydynt yn cyfeirio at sut mae gweithgareddau yn berthnasol i gynlluniau a strategaethau lleol
  • Os ydynt yn cyfeirio at unrhyw ymchwil i’r farchnad, dadansoddi angen, neu ystadegau lleol i gefnogi’r prosiect
  • Os ydynt yn darparu tystiolaeth o unrhyw brosiectau peilot neu weithgarwch blaenorol i ddangos bod lefelau digonol o angen a galw
  • Os yw partneriaid cyflenwi presennol wedi nodi nad oes unrhyw ddyblygu gyda'r ddarpariaeth bresennol
  • Os ydynt yn ategu neu'n ychwanegu gwerth at weithgarwch a darpariaeth bresennol i greu etifeddiaeth
  • Os ydynt yn cyfeirio at unrhyw ymgynghoriadau lleol neu ymarferion ymgysylltu ac yn egluro sut mae hyn wedi dylanwadu ar ddatblygiad y prosiect
  • Os ydynt yn dangos cefnogaeth glir gan bartneriaid a rhanddeiliaid lleol ac yn egluro sut y maent wedi ymgysylltu
  • Os ydynt yn esbonio rolau partneriaid a rhanddeiliaid lleol wrth weithredu prosiectau
  • Os oes modd eu cyflawni o fewn yr amserlen a nodir
  • Os yw’r cerrig milltir cyflawni yn realistig ac yn gyraeddadwy
  • Os ydynt yn cynrychioli dull cyflwyno effeithlon
  • Os yw cyllideb y prosiect yn realistig ac wedi'i chyfrifo ar sail tystiolaeth gadarn
  • Os bydd yn gweithredu ar raddfa briodol ac os bydd y costau rheoli, gweinyddu a chostau cyffredinol yn gymesur â chostau cyflawni’r gweithgareddau a'r prosiect
  • Os gallant ddarparu elfen o arian cyfatebol parod
  • Os yw’r allbynnau a'r canlyniadau a nodir yn adlewyrchu gweithgareddau'r prosiect ac yn gyraeddadwy
  • Os yw costau'r prosiect yn gymesur ag allbynnau, canlyniadau a buddiolwyr arfaethedig
  • Os oes gan y prosiectau'r potensial i wneud cyfraniad sylweddol ac ystyrlon i Wrecsam
  • Os yw’n amlwg na fyddai’r prosiectau’n mynd rhagddynt, neu mai dim ond ar raddfa lai y gellid eu cyflawni heb gymorth SPF y DU

Mae prosiectau’n debygol o gael sgôr uwch os yw’r sefydliad sy’n ymgeisio (ac unrhyw bartneriaid cyflawni) yn:

  • Meddu ar y sgiliau a phrofiad angenrheidiol i gyflwyno prosiect o'r maint hwn a'r raddfa hon
  • Meddu ar yr adnoddau angenrheidiol (staff, sefydliadol, gweithredol) ac arbenigedd
  • Meddu ar y capasiti a'r gallu i reoli'r prosiect fel y disgrifir

Rhaid i geisiadau ddangos costau rhesymol ar gyfer gweithgaredd / gwerth am arian, a rhaid i unrhyw wariant gael ei gadarnhau mewn perthynas â'r holl gostau.

Rhaid i sefydliadau gadw cofnodion, derbynebau ac anfonebau o arian a wariwyd am gyfnod o 10 mlynedd er mwyn caniatáu i’n harchwilwyr mewnol neu allanol eu gweld os oes angen.

Sut i ymgeisio

Cyflwynwch ffurflen gais lawn i amlinellu eich prosiect a chaniatáu i ni wirio a yw eich sefydliad a'ch prosiect arfaethedig yn gymwys i wneud cais i'r gronfa allweddol.

Darperir y ffurflen drwy FyNghyfrif, sy’n caniatáu i chi gadw unrhyw gynnydd, uwchlwytho tystiolaeth a pharatoi eich cais llawn i’w gyflwyno.  

Bydd yn rhaid i chi gofrestru am gyfrif ar gyfer eich sefydliad ar FyNghyfrif er mwyn gallu gwneud hyn.  

Dechrau rŵan

Unwaith y byddwn wedi derbyn y ceisiadau llawn, y camau nesaf fydd:

  1. Bydd y tîm perthnasol yn gwerthuso’r cais llawn. 
  2. Byddwn yn ceisio barn gan fudd-ddeiliaid perthnasol. 
  3. Bydd y Panel Ymgynghorol Lleol yn asesu ac yn blaenoriaethu’r prosiect, ac yna’n cymeradwyo neu’n gwrthod y cais llawn.  
  4. Bydd pob ymgeisydd yn cael eu hysbysu o’r penderfyniad. 
  5. Byddwn yn cyflwyno cytundebau cyllid grant ffurfiol ar gyfer ceisiadau llwyddiannus.  

Drwy gyflwyno cais llawn, rydych yn caniatáu i ni (Cyngor Wrecsam) wneud unrhyw ymholiadau hanfodol i wirio unrhyw wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gweinyddu rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.  Mae’n bosibl y bydd y wybodaeth rydych yn ei darparu’n cael ei rhannu gydag eraill fel y nodir yn Hysbysiad Preifatrwydd Cronfa Allweddol Wrecsam.

Y terfynau amser a’r amserlen ar gyfer ceisiadau

Rhaid derbyn ceisiadau llawn erbyn Mawrth 31, 2024.

Fe all cyfleoedd i gyflwyno cynigion ar gyfer y dyfodol gael eu hagor os oes cyllid yn dal ar gael.

Byddwch yn cael gwybod am ganlyniad eich cais drwy e-bost.

Pryd fydd y taliad grant yn cael ei wneud?

Bydd taliadau i ymgeiswyr yn cael eu gwneud yn ôl-weithredol unwaith y bydd hawliadau gwariant (derbynebau ac anfonebau) yn cael eu cyflwyno. Gellir cyflwyno hawliadau gwariant interim cyn i'r digwyddiad/gweithgaredd gael ei gwblhau.