Mae’r ceisiadau bellach wedi cau.

Mae’r gronfa hon yn un o tri Cronfa Allweddol Ffyniant Gyffredin y DU sydd ar gael ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae’r cyllid ar gyfer y grant hwn yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Logo wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Gall y gronfa hon helpu i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned leol. Mae’r cynllun yn cynnig rhwng £2,000 - £49,999 o gyllid i gefnogi prosiectau a fydd yn:  

  • Rhoi hwb i sgiliau craidd a chefnogi oedolion i ddatblygu yn eu gwaith, trwy dargedu oedolion sydd heb unrhyw gymwysterau neu sgiliau neu rai lefel isel mewn mathemateg, ac uwchsgilio’r boblogaeth weithio, drwy annog dulliau arloesol i leihau rhwystrau dysgu i oedolion.  
  • Gostwng lefelau o anweithgarwch economaidd trwy fuddsoddiad mewn cefnogaeth bywyd a chyflogaeth ddwys bwrpasol wedi ei theilwra i angen lleol.
  • Llenwi bylchau mewn darpariaeth sgiliau lleol i gefnogi pobl i symud ymlaen mewn gwaith, ac ychwanegu at ddarpariaeth sgiliau TG oedolion lleol (er enghraifft trwy gynnig darpariaeth trwy ystod eang o ffyrdd neu alluogi darpariaeth fwy dwys/arloesol, yn seiliedig ar gymhwyster ac nad yw’n seiliedig ar gymhwyster.)

Dylai’r prosiectau fod yn ychwanegol at y ddarpariaeth sydd ar gael drwy raglenni cyflogaeth a sgiliau cenedlaethol.  

Pwy all wneud cais?

Awdurdodau lleol, sefydliadau'r sector cyhoeddus, sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach, cwmnïau'r sector preifat, sefydliadau gwirfoddol neu gymunedol ac elusennau cofrestredig.

Ar beth fyddwch yn gwario’r arian?

  • offer
  • digwyddiadau untro
  • costau staff sy’n gysylltiedig â’r prosiect
  • costau hyfforddi
  • cludiant sy’n gysylltiedig â’r prosiect  
  • costau cynnal neu gyfleustodau sy’n gysylltiedig â’r prosiect  
  • treuliau gwirfoddolwyr
  • costau ar gyfer darparu eich prosiect yn ddwyieithog megis costau cyfieithu
  • prosiectau tir neu adeiladau bach
  • ailwampio adeiladau

Beth na ellir ei ariannu

  • Prosiectau gyda’r prif nod o gynhyrchu incwm i’ch sefydliad
  • costau wrth gefn, benthyciadau, cyfraniadau neu log
  • gweithgareddau crefyddol
  • gweithgareddau i godi arian neu wneud elw
  • TAW y gallwch ei adennill
  • gweithgareddau statudol
  • teithio dramor
  • alcohol

Blaenoriaeth, thema ac is-thema

  1. Ddewis 'Pobl a Sgiliau' ar gyfer y maes blaenoriaeth
  2. Dewis o leiaf un thema o blith y canlynol:
    • Cyflogadwyedd
    • Sgiliau 
       
  3. Dewis o leiaf un is-thema o blith y canlynol:
  • Cefnogi pobl i symud tuag at ac i gyflogaeth
  • Cefnogi pobl ifanc sydd yn NEET neu mewn perygl o fod yn NEET
  • Sgiliau hanfodol (gan gynnwys rhifedd, llythrennedd, SSIE a digidol)
  • Sgiliau'n gysylltiedig â chyflogaeth

Wrth wneud eich cais, rhaid i chi ddewis o leiaf un flaenoriaeth, thema ac is-thema sy’n gweddu orau at eich prosiect.

Y terfynau amser a’r amserlen ar gyfer ceisiadau

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12pm, dydd Llun 9 Mehefin, 2025.

Fe all cyfleoedd i gyflwyno cynigion ar gyfer y dyfodol gael eu hagor os oes cyllid yn dal ar gael.