Cardiau Rhagdaledig yw’r ffordd safonol rydym yn rhannu arian taliad uniongyrchol.

Trwy gofrestru ar gyfer y cyfrif banc ar-lein hwn, rydych yn cael cerdyn debyd Mastercard sydd â swm penodol arno a geir bob pedair wythnos. Mae’r swm rydych yn ei gael yn seiliedig ar y cynllun gofal a chymorth a gytunwyd arno gyda’ch gweithiwr cymdeithasol.

Caiff y cyfrif cerdyn rhagdaledig hwn ei ddarparu gennym ni (Cyngor Wrecsam) ac EML Payments Limited (Prepaid Financial Services gynt) - un o brif aelodau Mastercard. 

Manteision defnyddio cerdyn rhagdaledig

  • Nid oes rhaid i chi anfon cyfriflenni banc chwarterol, derbynebau neu daflenni incwm a gwariant atom (byddai angen i chi wneud hyn pe baech wedi dewis defnyddio cyfrif banc yn lle).
  • Eich diweddariadau balans yn syth (gan ganiatáu i chi gyllidebu’n haws).
  • Cewch wybod os nad oes digon o arian yn y cyfrif i dalu unrhyw Ddebyd Uniongyrchol ohono.
  • Gallwn wneud taliadau ar unwaith i’ch cyfrif pan mae argyfyngau, (yn hytrach na gorfod aros 3-5 diwrnod i’r arian gyrraedd eich cyfrif).

Beth i’w wneud ar ôl i chi gael eich cerdyn rhagdaledig

Cyn i chi ddechrau defnyddio eich cerdyn rhagdaledig, rhaid i chi gwblhau’r camau canlynol: 

1. Llofnodi’r stribyn llofnod 

Mae hwn ar gefn y cerdyn.

2. Gweithredu’r cerdyn 

Gallwch wneud hyn drwy:

  • ffonio’r gwasanaeth rhyngweithiol ymateb i’r llais ar 020 3146 0750 (dewis rhif 1)
  • neges destun (SMS) os ydych wedi darparu rhif ffôn symudol (anfonwch y neges ‘Gweithredu <10 digid olaf rhif y cerdyn>’ i +447537453763). 

3. Cael eich rhif PIN

Gallwch gael eich rhif PIN drwy ffonio’r gwasanaeth rhyngweithiol ymateb i’r llais ar 020 3146 0750 (a phwyso dewis 1)

Os ydych chi ond yn dymuno defnyddio’r cyfrif ar-lein, efallai na fydd angen i chi ddefnyddio’r cerdyn rhagdaledig fyth. Mae’n rhaid i chi er hynny sicrhau bod eich cerdyn yn ddiogel bob amser.

Rheoli eich cyfrif cerdyn rhagdaledig

Er mwyn cael mynediad i’r porth am y tro cyntaf, bydd yn rhaid i chi sicrhau bod eich cerdyn wedi’i weithredu a bod gennych eich rhif PIN ar gyfer y cyfrif (gwiriwch y cyfarwyddiadau yn yr adran ‘Beth i’w wneud ar ôl i chi gael eich cerdyn rhagdaledig’, sydd i’w gweld ar y dudalen hon).

Pan fyddwch yn creu cyfrif ar y porth, nodwch pa gwestiwn diogelwch rydych yn dewis ei ateb (mae sawl dewis ac nid yw’n porth yn cyflwyno’r cwestiwn a ddewisoch yn awtomatig, os oes arnoch angen ailosod eich cyfrinair am ba bynnag reswm).

Os nad oes gennych fynediad at gyfrifiadur neu ddyfais glyfar, gallwch reoli eich cyfrif yn defnyddio ffôn yn lle gydag un o’r dewisiadau canlynol:

Gwasanaeth Rhyngweithiol Ymateb i’r Llais

Mae’r gwasanaeth rhyngweithiol ymateb i’r llais yn caniatáu i chi ddefnyddio eich ffôn i fynd drwy negeseuon awtomatig trwy bwyso rhifau ar eich ffôn neu trwy ddefnyddio eich llais. 

I gael mynediad i’r gwasanaeth rhyngweithiol ymateb i’r llais, ffoniwch 020 3146 0750. Mae’r gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd bob dydd.

Bydd galwadau’n costio’r gyfradd safonol. Gall galwadau o’ch ffôn symudol amrywio, gan ddibynnu ar eich darparwr.

Gellir cyflawni’r swyddogaethau canlynol yn defnyddio’r gwasanaeth rhyngweithiol:

Derbyn eich rhif PIN

Nid yw eich rhif PIN yn cael ei anfon drwy’r post bellach (gall fynd ar goll ac felly nid yw’n gwbl ddiogel). I gael eich rhif PIN, mae’n rhaid defnyddio’r gwasanaeth rhyngweithiol. 

Gweithredu eich cerdyn

Pan mae eich cerdyn yn cyrraedd, nid yw eisoes wedi’i weithredu am resymau diogelwch. Mae angen i chi weithredu eich cerdyn gan ddefnyddio’r gwasanaeth rhyngweithiol. Dim ond unwaith mae angen gwneud hyn i bob cerdyn. 

Cloi eich cerdyn

Gallwch gloi eich cerdyn os ydych yn ei golli neu os yw’n cael ei ddwyn. 

Bydd hyn yn stopio unrhyw arian rhag cael ei wario ar y cerdyn, ond bydd yn dal i fod yn bosib’ llwytho arian ar y cerdyn.

Os ydych chi’n credu bod eich cerdyn wedi’i golli neu ei ddwyn, neu eich bod yn credu nad yw bellach yn ddiogel, rhaid i chi gysylltu â’n Tîm Taliadau Uniongyrchol ar unwaith ar 01978 298676 i roi gwybod am hynny a gofyn am gerdyn yn ei le.

Bydd angen i chi gysylltu â’n Tîm Taliadau Uniongyrchol  er mwyn datgloi eich cerdyn.

Mae cardiau newydd fel arfer yn cyrraedd rhwng 6 a 12 diwrnod gwaith. Byddwch yn dal yn gallu defnyddio swyddogaethau’r cerdyn drwy borth cleient ar-lein Cyngor Wrecsam (dolen gyswllt allanol)

Gallwch hefyd gael mynediad at y swyddogaethau canlynol drwy’r gwasanaeth rhyngweithiol ymateb i’r llais:

  • Atgoffa am y rhif PIN
  • Gwirio balans

Gwasanaethau ar gael drwy neges destun (SMS)

Gwasanaethau ar gael drwy neges destun (SMS)
Dewis gwasanaeth Cynnwys y neges destun
Gweithredu  Activate <10 digid olaf rhif y cerdyn> 
Balans  Balance <4 digid olaf rhif y cerdyn> 
Cloi * Lock <4 digid olaf rhif y cerdyn> 
Rhif PIN  PIN <8 digid olaf rhif y cerdyn>
Datgloi Unlock <4 digid olaf rhif y cerdyn> 

Anfonwch y neges destun ar gyfer y dewis perthnasol uchod i +447537453763. Mae’r gwasanaeth hwn am ddim i chi ei ddefnyddio.

*Mae hwn yr un fath â’r swyddogaeth ‘cloi cerdyn’ sydd ar gael drwy’r gwasanaeth rhyngweithiol ymateb i’r llais.

Os ydych chi’n credu bod eich cerdyn wedi’i golli neu ei ddwyn, neu eich bod yn credu nad yw bellach yn ddiogel, rhaid i chi gysylltu â’n Tîm Taliadau Uniongyrchol ar unwaith ar 01978 298676 i roi gwybod am hynny a gofyn am gerdyn yn ei le.

Bydd angen i chi gysylltu â’n Tîm Taliadau Uniongyrchol er mwyn datgloi eich cerdyn.

Mae cardiau newydd fel arfer yn cyrraedd rhwng 6 a 12 diwrnod gwaith. Byddwch yn dal yn gallu defnyddio swyddogaethau’r cerdyn drwy’r porth ar-lein (dolen gyswllt allanol).

Ffyrdd o dalu

Gallwch ddefnyddio’r cyfrif ar-lein fel unrhyw wasanaeth bancio ar-lein safonol arall. 

Unwaith i chi ychwanegu person neu gwmni rydych yn dymuno eu talu, mae gennych y rhyddid i ddewis sut i’w talu yn y dyfodol. Gallwch osod eich microfenter neu ddarparwr gofal dewisol fel talai.

Gallwch dalu rhywun rydych eisiau talu iddynt drwy:

  • osod archebion sefydlog wythnosol neu fisol
  • gwneud taliadau fesul tro os yw’r gofal yn cael ei ddarparu ar sail untro. 

Gallwch hefyd wneud taliadau:

  • trwy sefydlu Debyd Uniongyrchol (dylech sicrhau bod digon o arian yn y cyfrif bob tro mae’r taliad yn ddyledus)
  • wyneb yn wyneb gan ddefnyddio eich cerdyn fel y byddech chi’n ei wneud â’ch cerdyn banc eich hun i unrhyw gwmni sy’n derbyn Mastercard.

Mwy o fanylion am gardiau rhagdaledig

A oes angen i mi gael cerdyn rhagdaledig os ydw i’n cael taliad uniongyrchol?

Mae’r gwasanaeth cerdyn wedi’i ddylunio i fod yn hygyrch i bawb. 

Fodd bynnag, os ydych chi’n credu bod rhesymau a/neu amgylchiadau penodol a fyddai’n eich atal chi rhag defnyddio eich cerdyn rhagdaledig, dylech drafod y rhain gyda’ch asesydd. Os cytunir gyda’ch asesydd, efallai y bydd angen i chi agor cyfrif banc newydd ar wahân i’r arian gael ei dalu i mewn iddo yn lle. 

Wrth ddefnyddio cyfrif banc ar gyfer taliad uniongyrchol, bydd disgwyl i chi gyflwyno cyfriflenni banc chwarterol a gwybodaeth am incwm/gwariant.

Pwy all gael mynediad i fy nghyfrif / a fydd fy nghyfrif yn cael ei fonitro?

Fel deiliad y cyfrif, fel arfer, chi fydd yr unig un a fydd yn gallu defnyddio eich cyfrif, oni bai yn y sefyllfaoedd canlynol: 

  • Os oes gennych ‘unigolyn enwebedig’ (rhywun sy’n eich helpu chi i reoli eich taliad uniongyrchol, fel y nodir yn eich cytundeb) byddant hefyd â mynediad i’ch cyfrif yn ogystal â chi.
  • Os oes gennych ‘unigolyn addas’ (cynrychiolydd sy’n rheoli eich taliad uniongyrchol os ydych wedi’ch asesu fel un sydd heb y gallu i wneud hynny eich hun, fel y nodir yn eich cytundeb) bydd ganddynt fynediad i’ch cyfrif yn eich lle. 

Monitro cyfrifon

Rydym yn monitro’r arian a delir i chi drwy eich cerdyn rhagdaledig er mwyn i ni allu sicrhau bod eich taliadau yn cael eu defnyddio yn unol â’ch cynllun gofal a chymorth. 

Mae hyn yn caniatáu i ni ddarparu gwasanaeth mwy effeithiol ac effeithlon ac mae hefyd yn disodli’r angen i chi gyflwyno gwaith papur chwarterol yn barhaus.

Enw pwy sy’n mynd ar y cerdyn os yw fy nhaliad uniongyrchol yn cael ei reoli gan rywun arall?

Eich enw chi fydd ar y cerdyn rhagdaledig, oni bai bod rhywun yn eich helpu i reoli eich taliad uniongyrchol (sy’n cael ei alw’n ‘unigolyn enwebedig’). Os oes gennych unigolyn enwebedig, bydd enw’r unigolyn wedi’i argraffu ar y cerdyn.

Os ydych wedi’ch asesu fel un sydd heb y gallu i wneud hynny a gyda chynrychiolydd yn rheoli’r taliad uniongyrchol (a elwir yn ‘unigolyn addas’), bydd enw’r unigolyn addas ar y cerdyn. Mae’n rhaid cytuno ar hyn gyda ni cyn dechrau’r taliad uniongyrchol.

Sut ydw i’n talu fy nghyfraniad fy hun i fy nghyfrif cerdyn rhagdaledig (cyfraniadau cleient)?

Os ydych wedi’ch asesu fel un sydd angen talu cyfraniad cleient tuag at eich taliad uniongyrchol, gallwch drosglwyddo hwn i’r cyfrif drwy archeb sefydlog o’ch cyfrif banc personol eich hun. 

Yn ddelfrydol, dylid gosod yr archeb sefydlog ar gyfer pob wythnos, neu bob pedair wythnos. Mae’r cod didoli a’r rhif cyfrif rydych chi eu hangen i sefydlu’r archeb sefydlog wedi’u hargraffu ar flaen eich cerdyn rhagdaledig.

Gall ein Tîm Taliadau Uniongyrchol eich helpu gyda hyn os oes gennych unrhyw broblemau, ffoniwch 01978 298676.

Os nad ydych chi’n talu’r cyfraniad i’ch cerdyn rhagdaledig, efallai na fydd digon o arian yn y cyfrif i dalu am eich gwasanaethau gofal a chymorth. Os yw hyn yn digwydd, fe allech fod yn mynd yn groes i’ch cytundeb taliadau uniongyrchol unigol (gweler y cytundeb templed ar ein tudalen polisïau a deddfwriaethau taliadau uniongyrchol). Os felly, bydd ein tîm taliadau uniongyrchol yn adolygu’r sefyllfa drwy fonitro eich cyfrif / cysylltu â chi os oes unrhyw oedi pellach.

A allaf dynnu arian parod o fy nghyfrif cerdyn rhagdaledig?

Ni fyddwch yn gallu tynnu arian parod o’ch cyfrif heb gael cytundeb ysgrifenedig gan eich asesydd yn gyntaf, gydag uchafswm cytunedig. Mae hyn yn cynnwys o’r twll yn y wal neu drwy gael arian yn ôl mewn siop.

A oes unrhyw ffioedd am ddefnyddio fy ngherdyn?

Ni fyddwch angen talu unrhyw ffioedd am ddefnyddio’r cerdyn, rydym yn ariannu’r holl gostau i redeg y cerdyn. 

Codir tâl bychan o £5 am gerdyn newydd os byddwch angen un.

A fyddaf i’n cael cyfriflenni ar gyfer y cyfrif hwn?

Na fyddwch. Gallwch wirio eich balans ar-lein a gweld rhestr gyfredol o’ch trafodion drwy borth cleient Cyngor Wrecsam (dolen gyswllt allanol)

Gallwch hefyd wirio eich balans drwy ffonio’r gwasanaeth rhyngweithiol ymateb i’r llais neu drwy neges destun (SMS) os ydych wedi darparu rhif ffôn symudol (mae’r manylion cyswllt perthnasol i’w gweld ymhellach i fyny’r dudalen hon).

A oes cyfyngiadau ar yr hyn y gallaf ei brynu, neu ble y gallaf ddefnyddio fy ngherdyn?

Ni allwch ddefnyddio arian taliadau uniongyrchol i dalu am bethau nad ydynt wedi’u cytuno yn eich cynllun gofal a chymorth. 

Nid yw telerau ac amodau taliadau uniongyrchol yn caniatáu i chi wario mewn lleoedd penodol (er enghraifft, sefydliadau gamblo a betio). 

Os ydych yn ansicr, gwiriwch â’n Tîm Taliadau Uniongyrchol cyn defnyddio eich cerdyn. 

Os ydych chi’n defnyddio eich cerdyn i dalu am bethau nad ydynt yn cyflawni’r canlyniadau y cytunwyd arnynt ar eich cyfer, byddwn yn gofyn i chi dalu’r arian yn ôl.

A oes uchafswm balans a ganiateir ar fy ngherdyn?

Oes. Y balans mwyaf a ganiateir ar unrhyw adeg ar eich cerdyn rhagdaledig yw gwerth hyd at 8 wythnos o arian taliadau uniongyrchol. Byddwn yn dechrau ar ein proses adolygu balans os yw eich balans yn mynd dros y swm hwn heb ddod i gytundeb â ni ymlaen llaw. 

Yn y broses adolygu balans rydym yn cyfrifo faint y byddwn angen ei gasglu’n ôl gennych chi. I gasglu unrhyw arian dros ben, byddwn un ai’n cymryd yr arian yn uniongyrchol oddi ar eich cerdyn rhagdaledig, neu’n atal arian o daliadau yn y dyfodol. Byddwn yn dweud wrthych chi os ydym yn bwriadu gwneud hyn.

A oes gan fy nghyfrif orddrafft?

Ni allwch fynd i’r coch ar eich cerdyn rhagdaledig gan nad oes credyd i’w gael arno.

Byddwch chi ond yn gallu prynu pethau gyda’r cerdyn pan mae digon o arian ar y cerdyn. Os byddwch yn ceisio gwario mwy o arian na’r swm sydd ar y cerdyn, bydd y trafodyn yn cael ei wrthod.

Beth sy’n digwydd os ydw i’n newid fy nghyfeiriad?

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’n Tîm Taliadau Uniongyrchol ar unwaith drwy ffonio 01978 298676.

A allaf newid y rhif PIN?

Os oes rhywun yn darganfod eich rhif PIN, bydd yn rhaid i chi ofyn am gerdyn newydd gan ein Tîm Taliadau Uniongyrchol i gael rhif PIN newydd.

A fydd fy ngherdyn yn dod i ben?

Ydi. Mae’r dyddiad y daw i ben i’w weld ar flaen eich cerdyn.

Os yw eich cerdyn ar fin dod i ben, a’i fod dal yn weithredol, cysylltwch â’n Tîm Taliadau Uniongyrchol os nad ydych wedi derbyn cerdyn newydd. Bydd unrhyw falans sydd ar ôl ar y cerdyn yn cael ei drosglwyddo i’r un newydd cyn iddo gael ei anfon atoch chi.

Gaf i barhau i dalu gyda siec os oes gen y gerdyn rhagdaledig?

Na, hyd yn oed os ydych wedi defnyddio sieciau i dalu am eich gofal a chymorth yn y gorffennol, bydd arnoch angen gwneud y taliadau gyda’r cerdyn rhagdaledig.

Beth sy’n digwydd os nad ydw i eisiau defnyddio fy ngherdyn rhagdaledig mwyach?

Os ydych chi’n dymuno canslo eich cerdyn rhagdaledig neu nad ydych eisiau ei ddefnyddio mwyach, cysylltwch â’n Tîm Taliadau Uniongyrchol. 

Peidiwch â dinistrio’r cerdyn nes ein bod yn dweud wrthoch am wneud hynny. Mae’n rhaid ildio’r rhif PIN wrth ddychwelyd y cerdyn.

Mae dyletswydd arnom i gyfrif am yr arian a dalwyd i chi yn rhan o daliadau uniongyrchol. Os nad oes angen cymorth taliadau uniongyrchol arnoch mwyach, byddwn yn adennill unrhyw arian sydd gennych ar ôl ar eich cerdyn rhagdaledig (gan sicrhau bod unrhyw gostau sydd wedi’u gwario wedi mynd o’r cyfrif cyn hynny).

Cysylltwch â’n Tîm Taliadau Uniongyrchol  

E-bost: directpayments@wrexham.gov.uk

Rhif ffôn: 01978 298676