Gallwch ddewis defnyddio microfenter i ddarparu eich gofal a chymorth taliadau uniongyrchol. Yn y rhan fwyaf o achosion mae’r microfentrau yn gynorthwywyr personol hunangyflogedig.

Microfentrau yn Wrecsam

Mae microfentrau yn cael eu creu yn yr ardal leol diolch i bartneriaeth a sefydlwyd rhyngom ni (Cyngor Wrecsam) a Chatalyddion Cymunedol. 

Mae Catalyddion Cymunedol yn cefnogi microfentrau i gyflawni safonau ‘Ei Wneud yn Iawn’. Mae’r safonau hyn wedi cael eu llunio i sicrhau bod perchennog y busnes yn gwbl barod i sefydlu ei fusnes bach ei hun yn y gymuned leol.

Dod o hyd i ficrofenter

Mae Catalyddion Cymunedol hefyd yn cynnal y cyfeiriadur canlynol:

Beth i’w wneud cyn dewis microfenter

Cyn gwneud penderfyniad terfynol wrth ddewis microfenter i ddarparu eich gofal, dylech: 

  • Wirio bod gan y microfenter dystysgrif Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) Uwch ddilys mewn lle.
  • Gwirio bod gan y microfenter yswiriant cyflogwyr ac atebolrwydd cyhoeddus mewn lle.
  • Llofnodi contract cyn i unrhyw ofal neu gefnogaeth gael eu darparu. Dylai’r contract nodi eich disgwyliadau chi a disgwyliadau’r microfenter yn glir. 

Dylai’r contract ystyried cyfnodau rhybudd, gwyliau blynyddol a salwch. 

Pa gyfradd gallaf dalu fy microfenter? 

Y gyfradd rydym yn eich talu chi’r awr i gyflogi microfenter yw £16.73 ar gyfer 2023-24. Fe allai rhai microfentrau ddewis codi mwy na hyn yr awr. 

Os ydych yn dymuno defnyddio microfenter sy’n codi mwy na’r gyfradd sefydlog, bydd yn rhaid i chi dalu’r costau ychwanegol yn defnyddio eich arian eich hun. Mae’n rhaid i hwn gael ei wneud drwy daliad ar wahân i unrhyw gyfraniad cleient ar gyfer pwrpas archwilio.

Dolenni perthnasol