Mae Polisi Taliadau Uniongyrchol Rhanbarthol Gogledd Cymru yn nodi sut y bydd awdurdodau lleol Cymru yn cyflawni eu dyletswyddau i ddarparu taliadau uniongyrchol i bobl cymwys.

Mae ein Polisi a Thelerau Gweithredol yn darparu gwybodaeth am y cefndir cyfreithiol a’r broses sy’n ymwneud â thaliadau uniongyrchol.

Fe welwch delerau cyffredinol y cynnig taliad uniongyrchol rhyngom ni (Cyngor Wrecsam) a’r sawl sy’n derbyn y taliad uniongyrchol a / neu eu cynrychiolydd yn y Cytundeb Taliadau Uniongyrchol Telerau Cyffredinol.

Rheoliadau Perthnasol Llywodraeth Cymru

Os ydych yn cyflogi eich cynorthwy-ydd (cynorthwywyr) personol eich hun, dylech gysylltu â’ch cwmni yswiriant am gyngor ynglŷn â chyfraith cyflogaeth.