Gallwch ddewis defnyddio darparwr gofal i ddarparu eich gofal a chymorth drwy’r taliadau uniongyrchol

Dod o hyd i ddarparwr 

Mae’n rhaid i bob darparwr gofal yng Nghymru fod wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

Beth i’w wneud cyn dewis darparwr gofal

Cyn gwneud penderfyniad terfynol wrth ddewis darparwr gofal, dylech: 

  • Wirio’r gyfradd yr awr y mae’r darparwr gofal yn ei chodi rhag ofn bod ffioedd ‘ychwanegol’ yn berthnasol (gweler y wybodaeth am gyfraddau isod).
  • Llofnodi contract gyda nhw cyn i unrhyw ofal neu gefnogaeth gael eu darparu. Dylai’r contract nodi eich disgwyliadau chi a disgwyliadau’r darparwr gofal yn glir. 

Dylai’r contract ystyried cyfnodau rhybudd, gwyliau blynyddol a salwch.

Pa gyfradd gallaf dalu fy narparwr gofal? 

Y gyfradd rydym ni’n eich talu chi’r awr i gyflogi darparwr gofal yw £23.73 ar gyfer 2023-24. Gallai rhai darparwyr gofal ddewis codi mwy na hyn yr awr. 

Os ydych yn dymuno defnyddio darparwr gofal sy’n codi mwy na’r gyfradd sefydlog, bydd yn rhaid i chi dalu’r costau ychwanegol yn defnyddio eich arian eich hun. Mae’n rhaid i hwn gael ei wneud drwy daliad ar wahân i unrhyw gyfraniad cleient ar gyfer pwrpas archwilio.

Eich cyfrifoldebau

Rydych yn llwyr gyfrifol am reoli eich gofal a chymorth, oherwydd eich bod yn derbyn arian yn uniongyrchol gennym ni er mwyn trefnu hyn.

Rydych yn gyfrifol am ddelio ag unrhyw faterion disgyblu, amserlenni wythnosol a chynlluniau wrth gefn. Mae cynllunio wrth gefn yn golygu y dylech fod â chynllun yn ei le rhag ofn bod eich darparwr gofal yn absennol / nad yw’n gallu darparu cefnogaeth i chi (oherwydd tywydd garw neu salwch staff, er enghraifft).