Mae gan bob ysgol gorff llywodraethu sy’n chwarae rhan bwysig ym mywyd yr ysgol.

Mae cyrff llywodraethu yn cynnwys bobl leol ac maent yn cynnwys rhieni, pobl a benodwyd gan yr awdurdod lleol, staff ysgol a’r pennaeth. Gallant hefyd gynnwys cynrychiolwyr o’r gymuned leol a chynrychiolwyr o’r eglwys.  Bydd y nifer o aelodau yn dibynnu ar faint yr ysgol.

Mae llywodraethwyr ysgol yn rhoi eu hamser, sgiliau ac arbenigedd fel gwirfoddolwyr i helpu eu hysgolion i ddarparu’r addysg orau posibl i blant.  

Beth mae corff llywodraethu yn ei wneud?

Dyletswyddau a phwerau corff llywodraethu

Mae gan gyrff llywodraethu ystod o ddyletswyddau a phwerau o fewn deddfwriaeth, gan gynnwys:

  • hybu safonau uchel o gyflawniad addysgol ac ymddygiad
  • gosod targedau ysgol priodol ar gyfer cyflawniad disgyblion Cyfnod Allweddol 2, 3 a 4
  • derbyn cyfrifoldeb dros weithrediad yr ysgol – mae hyn yn golygu creu polisi a sut, mewn termau strategol cyffredinol y dylai’r ysgol gael ei rhedeg.
  • rheoli cyllideb yr ysgol, gan gynnwys penderfynu ar nifer y staff a gwneud penderfyniadau ar gyflog staff yn unol â Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (STPCD)
  • sicrhau bod y cwricwlwm ar gyfer yr ysgol yn gytbwys ac yn gyffredinol yn eang ac yn benodol bod y Cwricwlwm Cenedlaethol ac addysg grefyddol yn cael eu dysgu.
  • darparu adroddiad i rieni bob blwyddyn sy’n cynnwys gwybodaeth am asesiadau Cwricwlwm Cenedlaethol a chanlyniadau arholiad
  • penodi’r pennaeth a’r dirprwy bennaeth (gyda chyngor gan yr awdurdod lleol ac yn achos ysgolion a reolir yn wirfoddol a gwirfoddol a gynorthwyir yn yr Esgobaeth) a staff eraill a rheoli ymddygiad a disgyblu staff
  • llunio cynllun gweithredu yn dilyn arolwg Estyn

Gwybodaeth ar gyfer darpar lywodraethwyr

Mae gwirfoddoli fel llywodraethwr ysgol yn rhoi cyfle i chi helpu i osod cyfeiriad strategol ysgol, ehangu eich sgiliau a’ch rhwydwaith, gan adeiladu profiad ar lefel bwrdd.  Mae’n gyfle i weld effaith eich penderfyniadau’n uniongyrchol. 

Gofynion ar gyfer bod yn llywodraethwr ysgol

Mae rheoliadau Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol bod yn rhaid i lywodraethwr:

  • Fod yn 18 oed neu drosodd adeg ei e/hethol neu benodiad, gall disgyblion fod yn llywodraethwyr ond ychydig sy’n debyg o fod yn gymwys
  • Ddim yn llywodraethwr mewn mwy na dwy ysgol (heblaw yn rhinwedd ei swydd neu’n lywodraethwr dros dro neu lywodraethwr ychwanegol mewn ysgol sy'n peri pryder)
  • Ddim yn llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd a nodwyd yn yr offeryn llywodraethu mewn mwy na dwy ysgol
  • Ddim yn fethdalwr neu wedi’i anghymhwyso o dan y Ddeddf Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmni 1986 neu orchymyn a wnaed o dan adran 429(2)(b) o’r Ddeddf Ansolfedd 1986
  • Heb ei symud o swydd ymddiriedolwr elusen neu ymddiriedolwr elusen gan Gomisiynwyr Elusen yr Uchel Lys ar sail unrhyw gamymddwyn neu gamreolaeth, neu o dan adran 7 o’r Ddeddf Diwygio (Darpariaethau Amrywiol)(Yr Alban) 1990 rhag bod yn ymwneud â rheoli neu reolaeth unrhyw gorff 
  • Heb ei gynnwys yn y rhestr o athrawon neu weithwyr sydd wedi eu gwahardd neu eu cyfyngu rhag gweithio gyda phlant a phobl ifanc (a elwir ar hyn o bryd yn Restr 99)
  • Ddim yn agored i gael eu cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl 1983
  • Ddim wedi'u hanghymhwyso rhag bod yn athro, gweithiwr arall yn yr ysgol neu’n berchennog ysgol annibynnol
  • Ddim wedi eu dedfrydu i dri mis neu fwy o garchar (heb y dewis o ddirwy) yn y pum mlynedd cyn dod yn llywodraethwr neu ers dod yn llywodraethwr
  • Heb dderbyn dedfryd carchar o ddwy flynedd a hanner neu fwy yn yr 20 mlynedd cyn dod yn llywodraethwr
  • Heb dderbyn dedfryd o bum mlynedd neu fwy ar unrhyw adeg 
  • Heb dderbyn dirwy am achosi niwsans neu aflonyddwch ar eiddo ysgol yn ystod y pum mlynedd cyn neu ers penodiad neu ethol fel llywodraethwr.

Byddwch angen ymgeisio am wiriad GDG i fod yn llywodraethwr ysgol. Cysylltwch â governorsupport@wrexham.gov.uk am fwy o fanylion.

Mae’n ofynnol i lywodraethwyr ysgol hefyd gwblhau cyrsiau hyfforddi gorfodol.

Pa brofiad ydych ei angen i fod yn llywodraethwr ysgol?

Mae ysgolion angen gwirfoddolwyr gydag amrywiaeth o brofiadau. Er nad ydych angen cymwysterau i fod yn llywodraethwr, mae’r canlynol yn bwysig:

  • Ymrwymiad i fynychu cyfarfodydd y corff llywodraethu ac unrhyw bwyllgorau y cawsoch eich penodi arnynt. 
  • Dymuniad i godi safonau addysg o fewn yr ysgol 
  • Parodrwydd i rannu sgiliau a phrofiad er budd y corff llywodraethu a’r ysgol

Os ydych yn rhiant byddwch yn deall pryderon rhieni. Fel aelod o’r gymuned gallwch rannu eich gwybodaeth am yr ardal leol.

Faint o amser sydd angen ei ymrwymo i fod yn llywodraethwr ysgol?

Yn nodweddiadol mae cyfarfodydd corff llywodraethu llawn yn cael eu cynnal unwaith y tymor (er bod rhai ysgolion yn eu cynnal yn fwy aml). Mae’n bosibl y bydd gan eich ysgol bwyllgorau y gallwch fod yn aelod ohonynt hefyd (er enghraifft, pwyllgorau cyllid, safonau a chyflawniad, neu les). Bydd yna bwyllgorau ychwanegol y gallwch fod yn rhan ohonynt, fel disgyblu a gwahardd disgyblion neu gwynion.

Mae llywodraethwyr ysgol mewn gwaith llawn amser. Gall cyfarfodydd llywodraethwyr gael eu cynnal yn ystod y diwrnod gwaith, ond yn aml iawn byddant yn cael eu cynnal min nos.

Am faint allwch chi fod yn llywodraethwr ysgol?

Mae tymor llywodraethwr ysgol yn bedair blynedd. Mae disgyblion sy’n llywodraethwyr cyswllt ar gorff llywodraethu ysgol uwchradd yn y swydd am flwyddyn. Os bydd unrhyw lywodraethwr cymwys â diddordeb mewn ymgymryd â thymor o bedair blynedd arall, gallant gynnig eu hunain ar gyfer eu hail-benodi/ail-ethol.

Beth yw rôl llywodraethwr cyswllt?

Mae cyrff llywodraethu yn dewis llywodraethwr cyswllt ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Amddiffyn Plant i sicrhau bod ysgolion yn diwallu gofynion statudol yn y meysydd pwysig hyn o fywyd ysgol. Gall cyrff llywodraethu ddewis penodi llywodraethwyr cyswllt ychwanegol yn dibynnu ar anghenion yr ysgol – er enghraifft gallant fod wedi cysylltu â rhannau o’r cwricwlwm neu elfennau o’r Cynllun Datblygu Ysgol.

Dod yn llywodraethwr awdurdod lleol

Rydym yn gweithio gyda’r elusen addysg Governors for Schools i helpu mwy o bobl yn ein cymunedau i gefnogi addysg leol trwy’r rôl hanfodol hon. 

Mae Governors for Schools yn ymrwymo i helpu sicrhau fod addysg ragorol yn cael ei ddarparu i blant mewn ysgolion trwy lywodraethu effeithiol.  

Gwnewch gais drwy Governors for Schools

Bydd angen i chi greu cyfrif gyda’r elusen i allu gwneud cais. 

Gallwch hefyd ganfod mwy am rôl llywodraethwyr ysgol a rhagor o adnoddau ar wefan yr elusen. 

Gwybodaeth i lywodraethwyr

Hyfforddiant

Mae’n rhaid i holl lywodraethwyr gwblhau ‘Cyfarfod Sefydlu’ a chyrsiau hyfforddiant ‘Deall Data Ysgol’. Cynigir hyfforddiant pellach hefyd, gan gynnwys testunau fel: cyllidebau ysgol, Anghenion Dysgu Ychwanegol a lles.  

Mae’n rhaid i Gadeiryddion newydd a benodwyd ar y corff llywodraethu hefyd gwblhau hyfforddiant ‘Cadeirydd y Llywodraethwyr’ gorfodol.  

E-Ddysgu

Mae hyfforddiant ar-lein ar gael drwy wefan e-ddysgu i Lywodraethwyr Ysgol yng Nghymru (dolen gyswllt allanol).

Os byddwch angen mewngofnodi ar gyfer yr hyfforddiant ar-lein, gofynnwch i’ch clerc gysylltu â governorsupport@wrexham.gov.uk gyda’ch enw, cyfeiriad e-bost a math o lywodraethwr.

Eich helpu chi yn eich rôl

Fel llywodraethwr, byddwch yn derbyn tanysgrifiad am ddim i gael mynediad i blatfform digidol Hwb gan Lywodraeth Cymru ble gallwch gael mynediad diogel i bapurau ar gyfer cyfarfodydd. Mae’r platfform hefyd yn rhoi mynediad i Office 365 sy’n cynnwys e-bost Outlook ar gyfer cyfathrebu gydag aelodau eraill o’ch corff llywodraethu, ynghyd ag ystod eang o gymwysiadau ac adnoddau dysgu eraill.

Os ydy eich ysgol yn defnyddio Hwb ar gyfer llywodraethwyr, byddant yn anfon eich enw defnyddiwr a chyfrinair atoch.

Canllawiau ar rolau a chyfrifoldebau llywodraethwyr 

Cysylltwch â ni

Am fwy o wybodaeth anfonwch neges i governorsupport@wrexham.gov.uk.