Mae gan bob ysgol gorff llywodraethu sy’n chwarae rhan bwysig ym mywyd yr ysgol. Mae cyrff llywodraethu yn cynnwys mathau gwahanol o lywodraethwyr, sy’n dod â gwahanol safbwyntiau i’w rôl.

Rhiant-lywodraethwyr

Mae pob corff llywodraethu ysgol yn cynnwys rhiant-lywodraethwyr sy’n cynrychioli cysylltiad rhieni disgyblion a gofrestrwyd yn yr ysgol ac fel arfer yn cael eu penodi drwy broses ethol. Byddwch angen cysylltu â’r ysgol yn uniongyrchol i gael gwybodaeth ynglŷn â bod yn rhiant-lywodraethwr. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt drwy ein rhestr o ysgolion.

Llywodraethwr awdurdod lleol

Dylai unigolion a enwebwyd fel llywodraethwyr awdurdod lleol allu dangos:

  • Ymrwymiad a diddordeb mewn addysg 
  • dymuniad i gefnogi’r ysgol dan sylw
  • parodrwydd i wasanaethu’r gymuned leol
  • Sgiliau a phrofiad fydd yn cefnogi gwaith yr ysgol 
  • gallu gweithio fel aelod o dîm
  • Graddau gofynnol o ddisgresiwn a chyfrinachedd 
  • parodrwydd i roi’r amser gofynnol i gyflawni eu rhwymedigaethau i’r corff llywodraethu
  • Empathi gydag amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol y fwrdeistref sirol, yn arbennig cefnogi’r iaith Gymraeg.
  • parodrwydd i gefnogi dyheadau a bwriad strategol y fwrdeistref sirol
  • Ymrwymiad i fynychu hyfforddiant llywodraethwr

Yn ogystal, ni ddylai enwebai llywodraethwr awdurdod lleol:

  • gael ei anghymhwyso rhag gwasanaethu fel llywodraethwr ysgol
  • bod yn weithiwr yn yr ysgol 

Mae yna ystod o swyddi gwag o fewn awdurdod lleol ac rydym yn penodi llywodraethwyr awdurdod lleol bob mis. Gallwch wybod sut i ymgeisio drwy fynd i’n prif dudalen llywodraethwyr ysgol.

Llywodraethwr Cymunedol

Mae llywodraethwyr cymunedol fel arfer yn byw neu’n gweithio yn y gymuned yn ardal yr ysgol. Maent yn cael eu penodi gan y corff llywodraethu ei hun.

Mathau eraill o lywodraethwyr

Bydd cyrff llywodraethu hefyd yn cynnwys rhai o’r llywodraethwyr canlynol, yn dibynnu ar y math o ysgol:

  • Llywodraethwyr cymunedol ychwanegol – cynrychioli’r gymuned leol 
  • Cynrychiolwyr-lywodraethwyr – mewn Ysgolion Arbennig yn unig
  • Llywodraethwyr Sylfaen – penodir gan y Sefydliad sy’n gysylltiedig â’r ysgol, yr Eglwys yn aml 
  • Athro-lywodraethwyr – etholwyd gan staff addysgu yn yr ysgol
  • Staff-lywodraethwyr – etholwyd gan staff nad ydynt yn addysgu yn yr ysgol
  • Disgyblion sy’n lywodraethwyr cyswllt – mewn ysgolion uwchradd yn unig a phenodir gan y cyngor ysgol