Mae disgybl lywodraethwr cyswllt yn ddisgybl cofrestredig a enwebwyd gan ei gyngor ysgol i fod yn aelod o’r corff llywodraethu.

Gall cynghorau ysgol mewn ysgolion uwchradd a gynhelir enwebu hyd at ddau ddisgybl o flwyddyn 11, 12 a 13 o aelodau cyngor yr ysgol.  Mae ysgolion a gynhelir yn ysgolion sydd wedi’u hariannu a’u rheoli gan yr awdurdod lleol.

Mae’n rhaid i’r corff llywodraethu dderbyn unrhyw ddisgyblion a enwebwyd gan y cyngor ysgol a’u penodi fel disgybl lywodraethwyr cyswllt (cyn belled â’u bod yn ddisgyblion cofrestredig o flwyddyn 11, 12 a 13).

Rôl y disgybl lywodraethwyr cyswllt

Fel rhan o’r corff llywodraethu, rôl y disgybl lywodraethwyr cyswllt yw cynrychioli ‘llais y disgyblion’.

Mae’n rhaid i gyrff llywodraethu ystyried unrhyw faterion a gyfathrebwyd iddynt gan eu cyngor ysgol.

Fel disgybl lywodraethwyr cyswllt gallwch wneud yn siŵr bod eich barn yn cael ei ystyried yn ystyrlon drwy gymryd rhan mewn sgyrsiau pwysig am yr ysgol.

Gall disgybl lywodraethwyr cyswllt ddylanwadu ar sawl agwedd ar fywyd a pholisi’r ysgol, fel:

  • gwisg ysgol
  • gwrth-fwlio
  • addysg ryw
  • y cwricwlwm
  • safonau addysgu a dysgu 
  • iechyd meddwl a lles disgyblion 
  • ysgolion iach 
  • mentrau a phrosiectau ysgol gyfan eraill

Gall disgybl lywodraethwyr cyswllt gael eu heithrio o drafodaethau’r corff llywodraethu ar gyfer rhai pynciau, er enghraifft ynglŷn â: phenodiadau staff, disgyblu staff, disgyblu disgyblion, y gyllideb ac ymrwymiadau ariannol y corff llywodraethu.

Cyfarfodydd

Gall disgybl lywodraethwyr cyswllt fynychu holl gyfarfodydd y llywodraethwyr lle nad ydynt yn cael eu hystyried yn gyfrinachol.

Mae pob corff llywodraethu yn gosod ei amserlen cyfarfodydd ei hun, fodd bynnag, y gofyniad isaf yw un cyfarfod y corff llywodraethu llawn bob tymor.

Er na all disgyblion bleidleisio yn y cyfarfodydd hyn, efallai bydd y corff llywodraethu’n penderfynu cynnwys disgybl lywodraethwyr cyswllt fel aelodau ar bwyllgorau anstatudol (gan olygu nad ydynt yn ofynnol yn ôl y gyfraith) a rhoi hawliau pleidleisio iddynt ar gyfer y rhain.

Bydd cyfarfodydd fel arfer yn cael eu cynnal gyda’r nos ar ôl ysgol; felly mae’n rhaid i ddisgyblion wneud yn siŵr eu bod yn gallu cyrraedd adref yn ddiogel yn dilyn y cyfarfod.

Gall rhai ysgolion greu dull cymysg i gyfarfodydd, lle gall llywodraethwyr ymuno ar-lein (gwiriwch gyda phennaeth eich ysgol  – ewch ar ein rhestr ysgol i gael y manylion cyswllt).

Hyfforddiant

Gallwch anfon e-bost at governorsupport@wrexham.gov.uk i archebu lle hyfforddiant.

Fel disgybl lywodraethwyr cyswllt nid oes rhaid i chi gwblhau’r sesiwn gynefino Llywodraethwyr na’r hyfforddiant Data yn ôl y gyfraith, ond mae croeso i chi wneud hynny os ydych yn dymuno.

Y Cod Ymddygiad

Fel disgybl lywodraethwyr cyswllt mae disgwyl i chi gadw at God Ymddygiad y Llywodraethwyr ac efallai byddwch yn colli eich hawl i fod yn llywodraethwr os byddwch yn torri’r cod, neu ddyletswyddau eraill.

Am faint gallwch chi fod yn ddisgybl lywodraethwyr cyswllt?

Mae disgyblion sy’n llywodraethwyr cyswllt yn y swydd am flwyddyn, ond gallwch gael eich ail-benodi am dymor ychwanegol (sy’n golygu un flwyddyn ysgol) cyn belled â’ch bod yn dal yn aelod o’r cyngor ysgol.

Dolenni perthnasol