Cipolwg gan y sawl sydd wedi derbyn rolau llywodraethwr ysgol yn Wrecsam.

Rob Maurice-Jones – Llywodraethwr Awdurdod Lleol yn Ysgol Sant Christopher 

Cefndir

Dechreuais gyfrannu at Ganolfan Eco’r Mileniwm yn Chwarel Borras (rhan o Ysgol  St Christopher) pan oeddwn yn reolwr yn 2009.  Roeddwn yn aelod o’r pwyllgor cyswllt ac roeddwn yn gwirfoddoli gymaint â phosibl. Mae’r Ganolfan Eco yn lle mor wych ac yn darparu cyfleoedd gwych i blant ac oedolion. Gadewais Borras yn 2012 i reoli chwarel calchfaen yn Yr Wyddgrug, ond roeddwn yn dal eisiau bod yn rhan o’r gwaith anhygoel yn Sant Christopher a helpu gymaint ag y gallwn. Gofynnodd Cadeirydd y Llywodraethwyr os hoffwn fod yn llywodraethwr. Roedd hwn yn anrhydedd mawr na allwn ei wrthod.  Yn 2013 cefais fy mhenodi fel llywodraethwr ALl.

Rôl

Ar hyn o bryd rydym yn edrych ar y Cwricwlwm Cymru newydd a’i weithrediad. Fy rôl yw rheoli’r newid a sicrhau bod yr ysgol yn y safle gorau posibl. Fel llywodraethwyr rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r pennaeth. Fy nghyfrifoldebau yw adolygu polisïau ac ymweld â gwersi yn ogystal â bod yn rhan o’r pwyllgor cyllid a chynghori ar iechyd a diogelwch.

Fel Llywodraethwr Awdurdod Lleol, rydych yn cael eich enwebu a’ch cymeradwyo gan yr Awdurdod Lleol. Rydym yn sicrhau bod tîm arwain ysgolion yn gosod safonau uchel ac yn gwneud penderfyniadau pwysig ar bolisïau, cyllideb a’r cwricwlwm. Mae’n gyfle gwych i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned. 

Ruth Coates - Llywodraethwr Cymunedol yn Ysgol Clywedog, Wrecsam 

Cefndir

Ymunais â’r Llywodraethwyr ar ôl i fy mab ieuengaf adael Blwyddyn 11.  Roeddwn yn rhiant sengl i ddau o feibion ym Mlwyddyn 7 a Blwyddyn 11 ac yn gweithio.  Roeddwn eisiau rhoi rhywbeth yn ôl am y gefnogaeth a’r addysg yr oeddent wedi’i dderbyn yn y pum mlynedd yna. 

Rôl 

Rwy’n Llywodraethwr Cymunedol ac rwy’n aelod o’r pwyllgorau Cyllid a Phersonél. Rwyf hefyd ar y pwyllgor Disgyblu a Gwahardd Disgyblion pan wyf ar gael.

Rwy’n cefnogi’r Pennaeth a’r staff addysgu fel bod pob plentyn unigol yn yr ysgol yn cyflawni’r deilliannau gorau, boed yn addysgol, ymarferol neu fugeiliol.

Arall

Rwyf wedi bod yn llywodraethwr ers dros pum mlynedd ac nid yw’n dasg galed. Gallwch gyfrannu yn y cyfarfodydd neu wrando; nid ydych yn cael eich gwthio mewn unrhyw ffordd.  Rwyf wedi cwblhau digwyddiadau hyfforddiant diddorol iawn dros y blynyddoedd, sy’n cael eu cynnal fin nos fel arfer am ychydig oriau mewn ysgol/lleoliad lleol.

Angharad Veneklaas – Llywodraethwr Sefydledig yn  Ysgol yr Eglwys yng Nghymru y Santes Fair, Owrtyn

Cefndir

Cefais fy magu ar aelwyd oedd yn siarad Cymraeg ac yn mynd i’r capel Wesleaidd Methodistaidd yn rheolaidd. Roeddwn wedi cymhwyso i fod yn filfeddyg yn 2002, rwy’n briod gyda dau o blant. Roeddwn yn helpu gyda’r cylch chwarae o dan arweiniad yr eglwys pan oedd fy mhlentyn ieuengaf yn blentyn bach, a arweiniodd at y ficer (yr aelod yn rhinwedd ei swydd fel aelod o gorff llywodraethu’r ysgol) yn cysylltu â mi i ofyn os byddwn yn ystyried bod yn llywodraethwr sefydledig.

Rôl

Rwyf wedi bod yn llywodraethwr sefydledig ers pedair blynedd, ac ers y chwe mis diwethaf (oddeutu) yn is-gadeirydd y corff llywodraethu. Rwy’n lywodraethwr cyswllt ar gyfer y Gymraeg, Diogelu ac Olrhain ac ar y pwyllgorau cyllid, derbyniadau a lles.

Rwyf hefyd yn rhiant yn yr ysgol. Mae gennyf ddiddordeb mawr yn y ffordd mae’r ysgol yn cael ei rhedeg a’r defnydd o’r Gymraeg yn yr ysgol. Rwy’n ceisio mynychu holl wasanaethau eglwys yr ysgol ac rwyf wedi bod ar gyrsiau llywodraethwr o dan arweiniad yr Esgobaeth yn ogystal â chyrsiau eraill o dan arweiniad yr awdurdod lleol a Llywodraethwyr Cymru. 

Arall

Roeddwn wedi gorfod rhoi’r gorau i fy swydd oherwydd salwch, ond mae hyn wedi rhoi mwy o amser imi gyflawni fy rôl fel llywodraethwr. Mae’n golygu fy mod yn aml yn rhydd i fynychu cyfarfodydd ac ati yn ystod oriau ysgol, sy’n rhoi cyfle i mi gael cysylltiad agosach gyda’r ysgol a gwell dealltwriaeth o’r hyn sy’n digwydd “y tu ôl i’r llenni”. Mae fy argaeledd wedi arwain at fod ar sawl pwyllgor a hefyd paneli cyfweld ar gyfer aelodau newydd o staff ble mae angen llywodraethwr yn bresennol. Roedd fy ngyrfa flaenorol yn rhoi’r sgiliau imi ddadansoddi gwybodaeth, datrys problem a gwneud penderfyniadau o dan bwysau. 

Andrea Evans - Cadeirydd y Llywodraethwyr, Ysgol Gynradd Fictoria, Wrecsam

Cefndir 

Dechreuais ymwneud â’r ysgol i ddechrau pan oeddwn yn aelod gwirfoddol o dîm Wrecsam/Cymru yn ei Blodau. Mae gennyf fy musnes garddio fy hun ac ar y pryd roeddwn yn Ysgrifennydd Cymdeithas Rhandir Wrecsam.  Roedd y gystadleuaeth RHS yn cynnwys llwybr penodol o amgylch Wrecsam mewn lleoliadau allweddol bob blwyddyn e.e. rhandiroedd, parciau, priffyrdd ac ysgolion. Gan fod Ysgol Fabanod Fictoria ar y llwybr, cysylltais â’r Pennaeth Ysgol Fabanod ar y pryd a chyfrannu fel gwirfoddolwr yn paratoi’r tir ar gyfer tyfu llysiau.    Yna, derbyniais wahoddiad i fod yn llywodraethwr ar y corff llywodraethu ysgol fabanod ac o hynny, cadeirydd corff llywodraethu interim drwy uno’r ddwy ysgol ac yna cadeirydd corff llywodraethu’r ysgol gynradd newydd a sefydlwyd yn 2010.

Rôl

Ers ymwneud ag ysgol Fictoria rwyf wedi cael profiad o dri arolygiad Estyn pob un yn wahanol iawn a phob un wrth gwrs yn mynd â llawer o amser pawb.

Yn Ysgol Fictoria rydym yn dîm o lywodraethwyr hynod brofiadol a chefnogol sy’n mynychu cyfarfodydd yn rheolaidd ac yn ymgymryd â hyfforddiant pan fo’r angen.  Mae llawer o’n llywodraethwyr wedi bod yn llywodraethwyr cymunedol neu ALl ers blynyddoedd a chyn hynny mae’n bosibl eu bod wedi bod yn rhiant-lywodraethwr ers pedair blynedd.  Mae’r hirhoedledd hwn yn galluogi’r ysgol i gael cymysgedd da o brofiad a llywodraethwyr newydd a etholwyd sy’n cydweithio er budd yr ysgol.

Mae bod yn aelod o unrhyw gorff llywodraethu yn rhywbeth sy’n rhan fawr o’ch bywyd yn arbennig fel cadeirydd os ydych yn dymuno ymgymryd â’r rôl fel y dylid ei wneud.

Byddwch angen gwneud amser i baratoi ar gyfer cyfarfodydd, darllen dogfennau, diweddaru eich gwybodaeth ar bolisïau a dogfennau pwysig eraill sy’n hanfodol i redeg yr ysgol, byddwch angen rhoi amser i fynychu cyfarfodydd, fel arfer llywodraethwyr llawn unwaith y tymor, cyfarfodydd eraill o leiaf unwaith y tymor ar gyfer cyllid neu ddogfennaeth yn ein hysgol benodol.

Byddwch angen gweithio fel tîm, mae’r corff llywodraethu ond yn effeithiol os bydd pawb yn cael gwneud sylwadau a holi a bod yn ‘gyfaill beirniadol’ y gofynnir i ni fod – ond er mwyn gwneud hynny mae’n rhaid i chi ddeall yr ysgol yn llwyr, y Cynllun Datblygu Ysgol a’i blaenoriaethau.

Mae bod yn llywodraethwr yn gyfle gwych i roi profiad, gwybodaeth a chefnogaeth i’ch ysgol.  

Jeremy Kent – Llywodraethwr Awdurdod Lleol yn Ysgol Bryn Alyn, Gwersyllt 

Cefndir

Rwyf bob amser naill ai wedi gwirfoddoli neu weithio mewn lleoliadau yn helpu pobl ifanc ac mae hwn yn rhywbeth rwyf yn hynod falch ohono. Bum yn gweithio mewn ysgol uwchradd am dros bedair blynedd, ac roeddwn bob amser yn teimlo y gallwn gynnig ystod eang o brofiad a sgiliau i gorff llywodraethu.

Rôl

Ar y corff llywodraethu, rwy’n gadeirydd yr is-bwyllgor Lles Myfyrwyr a Staff a hefyd ar yr is-bwyllgorau eraill. Fy rôl fel cadeirydd yw sicrhau bod y cyfarfodydd sy’n gyfrifol am bresenoldeb, ymddygiad a datblygiad staff yn rhedeg yn llyfn a bod tîm arweinyddiaeth yr ysgol yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor ar pa gamau i’w cymryd, ac mae gan lywodraethwyr y cyfle i ofyn cwestiynau a chynnig craffu’r data i sicrhau ein bod i gyd yn gweithio er budd gorau’r disgyblion.

Arall

Er nad oeddwn yn siŵr beth i ddisgwyl yn ystod y cyfarfod cyntaf gwnaed i mi deimlo’n gyfforddus yn fuan iawn. Darparwyd ystod o hyfforddiant y gallwn ei gwblhau i wirioneddol wneud yn siŵr fy mod yn gwybod beth y disgwylir gennyf.   

Mae wedi bod yn broses gyffrous iawn ac rwy’n gwybod bod gwerth fy amser yn gwneud gwahaniaeth a byddwn yn argymell bod unrhyw un yn cyfrannu ac yn cefnogi ysgol fel Llywodraethwr. 

Linda Subacchi - Llywodraethwr Cymunedol Ychwanegol yn Ysgol Bodhyfryd, Wrecsam

Cefndir

Cefais fy ethol fel llywodraethwr y tro cyntaf yn Ysgol Plas Coch pan agorodd.  Bryd hynny, nid oedd gennyf unrhyw syniad beth oedd rôl llywodraethwr. Roeddwn yno am tua 15 mlynedd ac roeddwn yn Gadeirydd y Llywodraethwyr.

Rôl

Rwy’n gynghorydd lleol Cymuned Offa, a dyna pam y cefais fy ethol ar Gorff Llywodraethu Bodhyfryd oherwydd fy mod yn siarad Cymraeg ac mae gennyf ddiddordeb wrth gwrs oherwydd fy mod yn gweithio yno ac yn teimlo fod gennyf ddigon o brofiad.