Os ydych yn rhentu gan landlord preifat, mae’n bosib y gallech gael cymorth ariannol os ydych yn ei chael yn anodd talu eich rhent.

Os yw eich landlord preifat eisiau cynyddu eich rhent, mae’n bwysig gwybod pa fath o gytundeb tenantiaeth sydd gennych chi. Mae hyn oherwydd bod rheolau gwahanol ar sut y gellir cynyddu rhent.

Efallai y byddwch hefyd angen cyngor os ydych wedi methu talu eich rhent (dywedir bod gennyn ‘ôl-ddyledion rhent’).

Cymorth gyda thalu eich rhent

Os ydych chi ar incwm isel ac angen cymorth ariannol i dalu rhan o’ch rhent neu’ch rhent i gyd, mae’n bosib y gallech gael Credyd Cynhwysol (dolen gyswllt allanol) neu Fudd-Dal Tai.

Os ydych eisoes yn derbyn yr elfen dai o’r Credyd Cynhwysol / budd-dal tai

Mae’n bosib y gallech hawlio Taliad Tai Dewisol os ydych yn dal i’w chael yn anodd talu eich rhent i gyd. 

Cynnydd mewn rhent

Mae gan denantiaethau gwahanol reolau gwahanol o ran sut y gellir cynyddu rhent. Gallwch ddarllen am y mathau gwahanol o gytundebau tenantiaeth os nad ydych yn sicr o’r math sydd gennych chi.

Gydag unrhyw denantiaeth efallai y byddai’n werth siarad â’ch landlord os yw eisiau cynyddu eich rhent, i weld a fyddai’n fodlon trafod hynny.

Os yw eich tenantiaeth yn denantiaeth cyfnod penodol, gall eich landlord ond dewis cynyddu’r rhent wedi i’r cyfnod penodol ddod i ben (yr eithriadau i hyn yw os ydych yn cytuno i’r cynnydd neu os oes cymal yn eich cytundeb sy’n nodi y bydd y rhent yn cynyddu cyn diwedd y cyfnod penodol.

Os ydych yn denant sicr neu’n denant byrddaliad sicr bydd eich landlord yn codi ‘rhent y farchnad’ arnoch. Mae hyn yn golygu bod swm y rhent sy’n rhaid i chi ei dalu yn seiliedig ar argaeledd a chost llety tebyg yn yr ardal. 

Os ydych yn denant sicr, mae gennych fwy o siawns o allu dylanwadu ar amser a maint y cynnydd mewn rhent.

Os yw eich landlord eisiau cynyddu eich rhent ac rydych yn denant byrddaliad sicr, gallai hyn fod yn anoddach i’w herio. Y rheswm am hyn yw os oes gennych denantiaeth byrddaliad sicr, gall eich landlord eich troi allan yn eithaf hawdd os nad ydych yn cytuno i dalu’r rhent.

Os ydych chi’n meddwl bod cynnydd arfaethedig mewn rhent yn annheg o’i gymharu â rhent y farchnad, mae’n bosib y gallech apelio i’r Pwyllgor Asesu Rhenti (drwy’r Tribiwnlys Eiddo Preswyl).

Gofyn am gynnydd mewn taliadau Credyd Cynhwysol neu Fudd-Dal Tai

Os ydych yn derbyn yr elfen gostau tai o Gredyd Cynhwysol (neu Fudd-Dal Tai) mae’n bosib y gallech gael arian ychwanegol i ddelio â chynnydd mewn rhent yn y dyfodol. Bydd yn rhaid i chi roi gwybod am y newid mewn amgylchiadau cyn i’r rhent gynyddu.

O ran Budd-Dal Tai, bydd yn rhaid i chi ddweud wrthym am y newid mewn amgylchiadau.

Ôl-ddyledion rhent

Os ydych yn methu taliadau rhent, dywedir bod gennych ‘ôl-ddyledion rhent’.

Siarad â'ch landlord

Gallai siarad â’ch landlord cyn gynted â phosib ac egluro eich sefyllfa fod o gymorth. Gallwch ofyn a fyddai’n fodlon cytuno ar gynllun ad-dalu er mwyn i chi allu talu eich ôl-ddyledion rhent. Mae hyn fel arfer yn golygu eich bod yn talu’r arian sy’n ddyledus yn ôl ond mewn symiau llai (telir y symiau llai hyn ar ben eich rhent arferol am gyfnod cytunedig tan eich bod wedi talu’r ôl-ddyledion).

Didyniadau Credyd Cynhwysol

Os ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol, gall eich landlord ofyn bod yr ôl-ddyledion yn cael eu talu’n ôl drwy ddidyniadau o’ch taliadau Credyd Cynhwysol yn lle (dim ond os oes gennych ôl-ddyledion rhent o ddau fis neu fwy). Bydd y swm y gellir ei dynnu o’r taliadau yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Mae’n bwysig peidio ag anwybyddu ôl-ddyledion rhent, os nad ydych yn talu eich rhent, gall eich landlord ddwyn achos llys yn eich erbyn er mwyn eich troi allan.

Dolenni defnyddiol