Mae’r math o gytundeb tenantiaeth sydd gennych gyda’ch landlord yn hanfodol o ran pennu’r hawliau penodol sydd gennych chi (er enghraifft faint o rybudd y dylech ei gael os gofynnir i chi adael).

Os nad oes gennych gytundeb ysgrifenedig gyda’ch landlord, nid yw hyn yn golygu nad oes gennych unrhyw hawliau neu rwymedigaethau o gwbl, ond fe allai olygu bod eich hawliau yn gyfyngedig. 

Mathau o gytundebau tenantiaeth

Y math o gytundeb tenantiaeth mwyaf cyffredin ar gyfer tenantiaid sy’n rhentu’n breifat yw tenantiaeth fyrddaliad sicr. 

Tenantiaethau byrddaliad sicr 

Mae’r rhan fwyaf o denantiaethau newydd yn denantiaethau byrddaliad sicr. 

Rydych yn debygol o fod â thenantiaeth fyrddaliad sicr os yw’r canlynol yn berthnasol: 

  • fe symudoch i mewn ar neu ar ôl 28 Chwefror, 1997 
  • rydych yn talu rhent i landlord preifat 
  • nid yw eich landlord yn byw yn yr un adeilad â chi
  • mae gennych reolaeth dros eich cartref, fel nad yw eich landlord neu bobl eraill yn gallu mynd i mewn ac allan o’r eiddo fel y mynnent 

Byddwch hefyd yn denant byrddaliad sicr os bu i chi symud i mewn i’r eiddo rhwng 15 Ionawr, 1989 a 27 Chwefror, 1997 ac fe roddodd eich landlord rybudd i chi yn dweud bod gennych denantiaeth fyrddaliad cyn i’ch tenantiaeth ddechrau. 

Mathau eraill o denantiaethau

Tenantiaethau sicr

Rydych yn debygol o fod yn denant sicr os yw’r canlynol yn berthnasol: 

  • rydych yn talu rhent i landlord preifat
  • nid yw eich landlord yn byw yn yr un adeilad â chi (oni bai eich bod yn byw mewn bloc o fflatiau) 
  • mae gennych reolaeth dros eich cartref, fel nad yw eich landlord neu bobl eraill yn gallu mynd i mewn ac allan o’r eiddo fel y mynnent 
  • bu i chi symud i mewn i’r eiddo rhwng 15 Ionawr, 1989 a 27 Chwefror, 1997 ac ni wnaeth eich landlord roi rhybudd i chi yn dweud bod gennych denantiaeth fyrddaliad sicr. 

Mae’n bosib hefyd i chi fod yn denant sicr os gwnaethoch symud i mewn i’r eiddo ar ôl 27 Chwefror, 1997, ond prin yw’r achlysuron hyn. Byddai hyn ond yn berthnasol yn un o’r sefyllfaoedd canlynol: 

  • rhoddodd eich landlord rybudd ysgrifenedig i chi yn dweud bod gennych denantiaeth sicr cyn i’ch tenantiaeth ddechrau. 
  • roedd gennych denantiaeth sicr yn flaenorol gyda’r un landlord.

Tenantiaethau rheoledig

Rydych yn debygol o fod yn denant rheoledig os yw’r canlynol yn berthnasol: 

  • bu i chi symud i mewn i’r eiddo cyn 15 Ionawr 1989 
  • rydych yn talu rhent i landlord preifat 
  • mae gennych reolaeth dros eich cartref, fel nad yw eich landlord neu bobl eraill yn gallu mynd i mewn ac allan o’r eiddo fel y mynnent 
  • nid yw eich landlord yn byw yn yr un adeilad â chi 
  • nid ydych yn derbyn prydau bwyd neu wasanaethau eraill megis glanhau

Fel arfer mae gan denantiaid rheoledig fwy o hawliau na thenantiaid â mathau eraill o gytundebau tenantiaeth, yn cynnwys hawliau cryfach yn erbyn troi allan. 

Tenantiaethau gwaharddedig

Rydych yn debygol o fod yn feddiannydd gwaharddedig: 

  • os ydych yn rhannu llety â’ch landlord 
  • os ydych yn byw yn yr un adeilad â’ch landlord ac yn rhannu llety gydag aelod o deulu eich landlord 
  • os ydych yn byw yn eich llety am wyliau
  • os nad ydych yn talu rhent am eich llety. 

Fel arfer bydd gennych lai o ddiogelwch rhag cael eich troi allan gyda chytundeb tenantiaeth gwaharddedig.

Mae Shelter Cymru hefyd yn darparu gwybodaeth i esbonio beth yw ystyr bod yn is-denant neu’n lletywr. 

Gallech fod â thenantiaeth ‘cyfnod penodol’ neu ‘gyfnodol’ gydag unrhyw un o’r cytundebau tenantiaeth hyn. 

Beth yw ystyr tenantiaeth gyfnodol neu denantiaeth cyfnod penodol?

Mae tenantiaethau cyfnodol neu gyfnod penodol yn cyfeirio at hyd eich cytundeb tenantiaeth.  

Cyfnod penodol 

Mae tenantiaeth cyfnod penodol yn para am gyfnod penodol o amser (6 neu 12 mis fel arfer).

Os yw’r cyfnod penodol yn dod i ben ac nad ydych yn cytuno ar gyfnod penodol arall gyda’ch landlord, neu os nad yw’n terfynu’r cytundeb, byddwch yn newid i denantiaeth gyfnodol yn awtomatig. 

Cyfnodol

Mae cytundeb cyfnodol yn mynd o wythnos i wythnos, neu o fis i fis (yn dibynnu ar bryd yr ydych yn talu eich rhent).  Caiff math hwn o gytundeb ei alw’n ‘denantiaeth dreigl’ hefyd. 

Telerau tenantiaeth annheg

Mae’r gyfraith yn rhoi hawliau penodol i denantiaid a landlordiaid ac nid yw telerau unrhyw gytundeb tenantiaeth yn drech na’r hawliau hynny.

Os yw eich cytundeb tenantiaeth yn cynnwys cymalau annheg, (er enghraifft os yw’r landlord yn dweud eich bod yn gyfrifol am atgyweirio strwythur yr adeilad neu fod ganddo hawl i ddod i’r eiddo’n ddi-rybudd ar unrhyw adeg) nid yw’r telerau hyn yn eich rhwymo’n gyfreithiol.

Os yw eich landlord yn ceisio gweithredu ar sail cymalau annheg, gallwch gysylltu â’n tîm Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Tai i gael cyngor, drwy e-bostio healthandhousing@wrexham.gov.uk neu ffonio 01978 292040 (cysylltwch â ni dros e-bost os nad yw eich ymholiad yn un brys os gwelwch yn dda).