Mae’n rhaid i chi ddweud wrthym am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y swm o Fudd-dal Tai neu ostyngiad Treth y Cyngor yr ydych yn ei gael, ac mae’n rhaid i chi adrodd unrhyw newid cyn gynted ag y mae’n digwydd.

Er eich bod wedi adrodd eich newid mewn amgylchiadau i adran arall o'r llywodraeth, megis Cyllid Y Wlad, Canolfan Byd Gwaith, neu Adran Gwaith a Phensiynau, neu Adran arall o’r Cyngor megis Tai, mae’n rhaid i chi dal i’n hysbysu ni o’r newidiadau, megis:

  • Os ydych yn newid eich enw
  • Os ydych chi’n newid eich cyfeiriad - dywedwch wrthym beth oedd y dyddiad y symudasoch a'r cyfeiriad y gwnaethoch symud iddo.
  • Os ydych chi neu aelod o'ch aelwyd yn symud allan dros dro - er enghraifft, os ydynt wedi mynd i ffwrdd i ofalu am rywun, neu wedi mynd i ofal. Nid ydym eisiau gwybod am bobl sydd wedi mynd ar eu gwyliau
  • Os yw aelod o’ch teulu wedi mynd i’r carchar
  • Os yw aelod o’ch teulu yn gorfod mynd i'r ysbyty am fwy nag wythnos
  • Os oes aelod sy’n oedolyn yn eich teulu yn mynd yn fyfyriwr llawn amser neu’n gadael addysg llawn amser
  • Os ydych yn priodi, neu’n mynd mewn i bartneriaeth sifil

Sut wyf yn rhoi gwybod i chi am newid yn fy amgylchiadau?

Llenwch y ffurflen newid mewn amgylchiadau a’i hanfon atom dros e-bost ar housingbenefits@wrexham.gov.uk, neu at y cyfeiriad canlynol ‘Yr Adain Budd-daliadau, Yr Adran Gyllid, Swyddfeydd Stryt y Lampint, Wrecsam, LL11 1AY’.