Gall Taliad Tai Dewisol roi arian ychwanegol i chi pan fyddwch angen help i fodloni costau tai.

Mae’r cyllid yn dod o grant llywodraeth, ac ar ôl i’r grant ar gyfer y flwyddyn ariannol gael ei wario, ni allwn yn gyfreithiol gwneud unrhyw daliadau ychwanegol.

A allaf i hawlio Taliad Tai Dewisol?

Nid yw’r Taliad Tai Dewisol yn rhan o’r cynllun Budd-Dal Tai, ond mae’n rhaid i chi fod yn cael Budd-Dal Tai neu elfen Costau Tai Credyd Cynhwysol i’w hawlio.

Bydd arnoch angen dangos nad yw eich Budd-Dal Tai neu elfen Costau Tai Credyd Cynhwysol yn cyflenwi eich holl gostau tai.

Sut wyf yn hawlio Taliad Tai Dewisol?

Bydd arnoch angen cysylltu â ni, gan egluro pam y dylech gael eich ystyried am Daliad Tai Dewisol.

Hefyd bydd arnoch angen cynnwys cyfriflen ariannol cyflawn sy'n dangos eich incwm a thaliadau allan.

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hyn i weld a ydych angen cymorth ariannol pellach i fodloni eich costau tai.

Faint fyddai’n ei gael?

Mae’n ddibynnol ar eich amgylchiadau, fodd bynnag ni all swm fod yn fwy na swm eich rhent pan fydd yn cynnwys eich Budd-Dal Tai neu Gostau Tai Credyd Cynhwysol.

Am ba mor hir y gallaf wneud cais amdano?

Gallwn ddyfarnu Taliad Tai Dewisol am gyn hired a theimlir ei fod yn angenrheidiol, er bod hyn yn ddibynnol ar y swm o’r grant sydd ar ôl.

Gallai fod am gyfnod byr, neu am gyfnod hirach – nes bydd newid yn eich amgylchiadau.

Byddwn bob amser yn dweud wrthych pryd fydd yn dechrau ac yn dod i ben, er dim ond tan ddiwedd y flwyddyn ariannol y gellir ei ddyfarnu. Byddai angen gwneud cais newydd os byddai angen dyfarniad am gyfnod hirach.

Gellir ôl-ddyddio Taliadau Tai Dewisol, yn ddibynnol ar eich amgylchiadau.

Sut y byddaf yn cael gwybod am fy hawliad?

Byddwn yn ysgrifennu atoch yn egluro’r penderfyniad yr ydym wedi cyrraedd.

Byddwn yn dweud wrthych faint y cewch eich dyfarnu, am ba mor hir, a’r trefniadau i adolygu’r penderfyniad a'ch cyfrifoldebau.

Sylwch nid yw hawliau’r apêl am Fudd-Dal Tai a gostyngiad Treth y Cyngor yn bodoli ar gyfer Taliad Tai Dewisol.

Nid oes gennym oblygiad cyfreithiol i hysbysu landlordiaid o benderfyniad am Daliad Tai Dewisol.

Beth os yw fy amgylchiadau’n newid?

Os ydych yn cael Taliad Tai Dewisol, mae’n rhaid i chi ddweud wrthym am unrhyw newid mewn amgylchiadau a allai effeithio eich Taliadau Tai Dewisol.

Os yw’r newid yn golygu nad ydych yn gymwys mwyach, mae gennym yr hawl i'w derfynu’r budd-dal o ddiwedd yr wythnos y mae eich amgylchiadau wedi newid.

Beth os oes gormod o Daliadau Tai Dewisol yn cael ei dalu imi?

Byddwn ond yn adfer gordaliad o Daliadau Tai Dewisol:

  • Os yw’r wybodaeth a roesoch i ni yn anghywir neu’n gamarweiniol.
  • Neu, bod gwall wedi’i wneud pan wnaethom benderfynu ar eich hawliad.

Sut wyf yn apelio penderfyniad?

Os ydych yn anghytuno gyda’n penderfyniad, ysgrifennwch atom gan amlinellu’r rheswm – neu os ydych yn teimlo bod ychydig o wybodaeth wedi ei adael allan o’ch cais, llenwch ffurflen incwm a gwariant newydd.

Os na allwn ei newid, byddwn yn rhoi gwybod i chi pa hawliau sydd gennych. Sylwch nid yw hawliau’r apêl am Fudd-Dal Tai yn bodoli ar gyfer Taliadau Tai Dewisol.