Fel tenant preifat, mae gennych yr hawl i:
- wybodaeth am eich tenantiaeth, yn cynnwys copi o unrhyw gytundeb tenantiaeth a manylion y landlord
- byw mewn eiddo sydd yn ddiogel ac mewn cyflwr da
- byw yn yr eiddo heb unrhyw ymyrraeth (a chael o leiaf 24 awr o rybudd o ymweliad i arolygu neu atgyweirio’r eiddo ar amser rhesymol, oni bai bod argyfwng sy’n golygu bod rhaid cael mynediad i’r eiddo ar unwaith)
- cael eich blaendal yn ôl pan fo’r denantiaeth yn dod i ben a, mewn rhai amgylchiadau, cael ei gynnwys o fewn cynllun diogelu
- gweld Tystysgrif Perfformiad Ynni ar gyfer yr eiddo
- cael rhybudd o unrhyw newid i gost y rhent
- os ydych yn talu eich rhent yn wythnosol, mae’n ofynnol bod eich landlord yn darparu llyfr rhent
- diogelwch rhag troi allan annheg
Os ydych yn methu talu rhent neu’n torri telerau eraill yn eich cytundeb tenantiaeth, gall hyn effeithio ar eich hawliau fel tenant.
Mae mathau gwahanol o gytundebau tenantiaeth – sy’n pennu’r hawliau mwy penodol sydd gennych chi (megis sut y gellir dod â’r denantiaeth i ben).
P'un a oes cytundeb tenantiaeth mewn lle neu beidio, mae gan landlordiaid a thenantiaid hawliau a rhwymedigaethau penodol o dan y ddeddfwriaeth tai.
Mae rhai hawliau’n parhau hyd yn oed os yw’r cytundeb tenantiaeth yn dweud fel arall (er enghraifft fel arfer, ni all eich cytundeb tenantiaeth nodi mai chi sy’n gyfrifol am atgyweirio strwythur yr eiddo).