Blaendaliadau tenantiaeth a chyfrifoldeb y landlord

Cyn i chi ddechrau rhentu eiddo, bydd y rhan fwyaf o landlordiaid neu asiantaethau gosod tai yn gofyn i chi dalu blaendal. Ar ddiwedd eich tenantiaeth dylech gael y blaendal hwn yn ôl (er gall landlordiaid ddidynnu arian os ydych wedi achosi difrod i’r eiddo neu os oes rhent yn ddyledus). 

Pan rydych yn talu blaendal ar gyfer tenantiaeth fyrddaliad sicr (y cytundeb tenantiaeth preifat mwyaf cyffredin), mae’n rhaid i’ch landlord, neu asiantaeth gosod tai, ddiogelu eich blaendal drwy gynllun diogelu a gymeradwyir gan y llywodraeth. Mae hyn yn berthnasol i bob tenantiaeth fyrddaliad sicr a ddechreuodd, neu a gafodd ei hadnewyddu, ar neu ar ôl 6 Ebrill, 2007. 

Beth mae cynlluniau blaendal tenantiaeth yn eu darparu?

Mae’r cynlluniau diogelu’n sicrhau bod yr arian yr ydych yn ei dalu fel blaendal tenantiaeth yn cael ei gadw’n ddiogel. 

Maent yn sicrhau y byddwch yn cael eich blaendal yn ôl os ydych: 

  • yn bodloni telerau eich cytundeb tenantiaeth
  • yn sicrhau nad ydych yn difrodi’r eiddo
  • yn talu eich rhent a’ch biliau

Os ydych mewn dadl â’ch landlord / asiant ar ddiwedd eich tenantiaeth, bydd eich blaendal wedi’i ddiogelu yn y cynllun nes bod y mater wedi’i ddatrys. 

Sut ddylai landlordiaid / asiantiaid ddiogelu blaendaliadau tenantiaeth?

Mae’n rhaid i’ch landlord / asiant roi eich blaendal mewn cynllun a gymeradwywyd o fewn 30 diwrnod o’i dderbyn. 

Mae’n rhaid iddo ddefnyddio un o’r tri chynllun blaendaliadau tenantiaeth a gymeradwyir gan y llywodraeth. Os caiff unrhyw gynllun arall ei ddefnyddio, nid yw’r blaendal wedi’i ddiogelu gan y gyfraith. 

Y tri chynllun cymeradwy yw:

Os nad yw eich blaendal wedi’i ddiogelu yn un o’r cynlluniau hyn, gallwch ddewis mynd â’ch landlord i’r llys sirol. Gallai eich landlord gael ei orfodi i ad-dalu’r blaendal i chi neu ei dalu i gynllun a gymeradwywyd o fewn 14 diwrnod. 

Sut fyddaf yn gwybod os yw fy mlaendal wedi cael ei ddiogelu?

Pan fo landlord neu asiant yn diogelu eich blaendal, mae’n rhaid iddo roi manylion penodol i chi, a elwir yn ‘wybodaeth ragnodedig’. 

Dylid darparu’r wybodaeth hon o fewn 30 diwrnod o dalu’r blaendal a dylai gynnwys:

  • manylion cyswllt ar gyfer eich landlord neu asiantaeth gosod tai 
  • manylion cyswllt y cynllun blaendal tenantiaeth a ddefnyddir
  • eitemau neu wasanaethau sydd wedi’u cynnwys o fewn y blaendal    
  • yr amgylchiadau y mae’r awdurdod yn gallu cadw rhywfaint o’r blaendal neu’r blaendal cyfan
  • sut i wneud cais i gael y blaendal yn ôl ar ddiwedd eich tenantiaeth 
  • beth allwch chi ei wneud os oes anghydfod ynglŷn â’r blaendal

Dylech hefyd gael copi o’r dystysgrif diogelu blaendal, a ddylai gynnwys llofnod eich landlord. 

Dylech gael cyfle i wirio a llofnodi’r ddogfen yn cynnwys y wybodaeth ragnodedig, i gadarnhau bod ei chynnwys yn gywir.

Eithriadau

Mae’r rheoliadau hyn yn golygu y dylai’r mwyafrif o flaendaliadau ar gyfer tenantiaethau byrddaliad sicr newydd fod yn ddiogel, fodd bynnag, mae rhai eithriadau. 

Nid yw’n ofynnol i landlordiaid gofrestru blaendal gydag un o’r cynlluniau diogelu os: 

  • yw’r landlord yn landlord preswyl (yn byw yn yr un eiddo â’r tenant) 
  • yw’r denantiaeth â gwerth rhenti o dros £100,000 y flwyddyn
  • yw’r landlord yn gosod eiddo drwy gwmni 
  • yw’r eiddo yn llety i fyfyrwyr sy’n cael ei osod yn uniongyrchol gan brifysgol neu goleg