Ym mhle allaf chwilio am eiddo? 

Mae sawl ffordd y gallwch chwilio am eiddo i’w rentu yn breifat, mae’r rhain yn cynnwys: 

Asiantaethau gosod tai 

Mae llawer o landlordiaid yn defnyddio asiantaethau gosod tai i reoli a gosod eu heiddo. Mae’n bosib bod yr asiantaeth gosod tai yn hysbysebu eu heiddo ar wefan, yn eu ffenestr neu mewn papurau newydd lleol. 

Papurau newydd 

Mae papurau newydd lleol yn aml yn hysbysebu’r eiddo sydd ar gael i’w rhentu yn wythnosol. 

Ffenestri siopau / hysbysfyrddau 

Yn aml, gall hysbysebion mewn ffenestri siopau fod yn agos at leoliad yr eiddo felly gallech geisio cerdded o amgylch ardal sydd o ddiddordeb i chi. 

Ar lafar

Gall clywed am brofiadau uniongyrchol gan ffrind neu aelod o’r teulu fod yn opsiwn da ar gyfer dod o hyd i landlord dibynadwy. 

Undeb Myfyrwyr a Phrifysgol Wrecsam

Os ydych yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Glyndŵr, gallwch gael cyngor drwy’r undeb myfyrwyr neu’r brifysgol am ganfod rhywle i fyw.

Mae Shelter Cymru hefyd yn darparu canllaw ar ganfod eiddo i’w rentu.

Rhentu gan landlord neu asiantaeth gosod tai

Os ydych yn rhentu’n breifat, fe allech chi fod yn rhentu gan landlord neu asiantaeth gosod tai.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng landlord ac asiantaeth gosod tai?

Os yw landlord yn llwyr reoli eiddo y mae’n ei rentu allan , mae hyn yn golygu y bydd yn cyflawni’r holl dasgau sy’n gysylltiedig â rheoli’r eiddo. Mae hyn yn cynnwys marchnata’r eiddo, chwilio am denantiaid, casglu blaendaliadau, sefydlu cytundebau tenantiaeth, cynnal rhestrau eiddo, casglu rhent, trefnu gwaith cynnal a chadw ar yr eiddo ac adnewyddu / terfynu tenantiaethau. 

Mewn rhai achosion, gall y landlord benderfynu talu asiantaeth gosod tai i weithredu ar ei ran. Gall y landlord ddewis gofyn i asiantaeth osod yr eiddo yn unig, casglu’r rhent neu i reoli’r eiddo yn llwyr. Pwy bynnag sydd yn gyfrifol am reoli’r eiddo fydd fel arfer mewn cyswllt uniongyrchol â chi yn ystod eich tenantiaeth (er enghraifft dylech roi gwybod i’r unigolyn hwn am unrhyw atgyweiriadau sydd angen eu gwneud). 

Mae gan y landlord bob amser gyfrifoldebau cyfreithiol i’w cadw hyd yn oed os yw asiantaeth yn rheoli’r eiddo. Os yw’r asiantaeth gosod tai yn achosi problemau yn ystod eich tenantiaeth, gallwch gysylltu â’r landlord yn uniongyrchol i roi gwybod iddo.

Mae gennych yr hawl i ofyn i’r asiantaeth ddarparu enw a manylion cyswllt eich landlord os nad yw’r manylion hyn wedi’u cynnwys yn eich cytundeb tenantiaeth. Rhaid i’r asiantaeth ddarparu’r wybodaeth o fewn 21 diwrnod o'ch cais. 

Mae Shelter Cymru yn darparu mwy o wybodaeth am asiantaethau gosod tai.

Beth i'w wneud cyn rhentu

Gwirio bod y landlord neu'r asiant gosod yn gofrestredig / trwyddedig

Mae’n rhaid i bob landlord sydd ag eiddo yng Nghymru gofrestru eu hunain a’u heiddo gyda Rhentu Doeth Cymru.

Rhaid i landlordiaid sy’n rheoli eu hunain ac asiantaethau gosod tai sy’n gweithredu ar ran landlord hefyd fod wedi eu trwyddedu gyda Rhentu Doeth Cymru. Mae landlordiaid ac asiantiaid yn derbyn hyfforddiant wedi’i gymeradwyo gan Rhentu Doeth Cymru cyn cael eu trwydded. 

Mae’r drwydded yn para am bum mlynedd ac mae’n rhaid i landlordiaid / asiantiaid ddilyn Cod Ymarfer er mwyn cadw eu trwydded.

Gallwch chwilio’r gofrestr gyhoeddus ar-lein i wirio a yw eiddo, landlord neu asiant yn gofrestredig (bydd arnoch angen enw’r landlord neu’r asiant a chyfeiriad yr eiddo).

Os byddwch yn darganfod nad ydynt yn gofrestredig, mae’n werth gofyn os ydynt wedi gwneud cais am drwydded (os nad ydynt, gallwch roi gwybod i Rhentu Doeth Cymru).

Ymweliadau â’r eiddo

Mae’n syniad da i ymweld â sawl eiddo gwahanol cyn i chi benderfynu rhentu. 

Os allwch gwrdd â’r landlord neu’r asiant gosod ym mhob eiddo bydd yn rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau. Gall roi cyfle i chi feirniadu pa mor dda fydd eich perthynas â’ch landlord neu’ch asiant gosod. Mae’n bosib y cewch hefyd y cyfle i holi tenantiaid eraill am eu profiadau. 

Beth i’w wirio a holi cwestiynau amdano wrth ymweld ag eiddo:

  • rhent (y swm y byddwch yn ei dalu, pa mor aml sy’n rhaid talu, a yw’r swm yn cynnwys biliau a Threth y Cyngor)
  • atgyweiriadau (beth yw’r weithdrefn ar gyfer rhoi gwybod am yr angen i atgyweirio)
  • diogelu blaendal tenantiaeth (pa gynllun diogelu blaendal fydd yn cael ei ddefnyddio os byddwch yn talu blaendal tenantiaeth)
  • sut y caiff yr eiddo ei reoli
  • Tystysgrif Perfformiad ynni'r eiddo
  • gwiriadau o’r holl offer nwy (gofynnwch i gael gweld y dystysgrif / cofnod diogelwch nwy a ddylai gynnwys y gwiriad blynyddol diweddaraf ar gyfer unrhyw offer nwy, os nad yw’r cofnod yn cael ei ddarparu yn ystod yr ymweliad, sicrhewch eich bod yn gweld copi cyn llofnodi cytundeb tenantiaeth)
  • lleoliad y synwyryddion mwg yn yr eiddo ac a oes ffordd o ddianc rhag tân

Gwirio’r cytundeb tenantiaeth

Darllenwch y cytundeb tenantiaeth yn drylwyr bob amser cyn penderfynu ei lofnodi.

Os ydych wedi gofyn cwestiynau am yr eiddo yn flaenorol, sicrhewch fod y cytundeb tenantiaeth yn cyd-fynd ag unrhyw atebion a gawsoch (er enghraifft swm y rhent a pha mor aml sy’n rhaid ei dalu).

Mae’r rhan fwyaf o denantiaethau yn gytundebau byrddaliad sicr sy’n para am 6 neu 12 mis. Ni ddylent gynnwys cyfrifoldeb am atgyweiriadau y byddai eich landlord yn gyfrifol amdanynt yn gyfreithiol. 

Os ydych yn ansicr am unrhyw un o’r telerau o fewn y cytundeb, ceisiwch gysylltu â Shelter Cymru am gyngor.

Mae Rhentu Doeth Cymru yn darparu rhestr wirio ddefnyddiol i denantiaid y gallwch gyfeirio ati wrth chwilio am le i’w rentu. Dewch o hyd iddi o dan ‘Gwybodaeth i Denantiaid’ yn llyfrgell adnoddau Rhentu Doeth Cymru (dolen gyswllt allanol).