Cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelwch nwy

Dylai’ch landlord sicrhau bod y cyflenwad nwy a’r offer nwy a ddarperir yn eich eiddo:

  • mewn cyflwr diogel
  • wedi’u gosod neu’u trwsio gan beiriannydd Gas Safe cofrestredig

Gwiriadau diogelwch nwy

Eich landlord sy’n gyfrifol am sicrhau bod yr offer nwy a ddarperir yn yr eiddo yn cael eu gwirio a’u gwasanaethau o leiaf unwaith y flwyddyn. Enghreifftiau o’r offer nwy mwyaf cyffredin yw boeleri nwy, popty / hob, tân neu wresogydd wal.

Mae’n rhaid i’r gwiriadau hyn gael eu gwneud gan beiriannydd Gas Safe cofrestredig a dylech gael copi o’r dystysgrif / cofnod diogelwch nwy (sy’n rhoi manylion am y gwiriad diogelwch). Dylai eich landlord ddarparu’r cofnod o fewn 28 diwrnod o’r gwiriad diogelwch.

Os ydych chi’n berchen ar unrhyw offer nwy yn yr eiddo, eich cyfrifoldeb chi yw gofyn i beiriannydd nwy cofrestredig ddod i wirio’r rhain bob blwyddyn hefyd.

Osgoi perygl gydag offer nwy

I sicrhau eich bod yn defnyddio offer nwy yn ddiogel, dylech...

  • Sicrhau nad yw offer nwy wedi’u gorchuddio ar unrhyw adeg a chadw tyllau aer, rhwyllau awyru, briciau awyru neu ffliwiau y tu allan yn rhydd rhag unrhyw rwystr.
  • Ddim ond defnyddio’r offer ar gyfer y diben a fwriadwyd (er enghraifft peidiwch â defnyddio popty nwy i gynhesu ystafell).
  • Peidio â defnyddio offer nwy os ydych yn credu eu bod yn ddiffygiol.

Os ydych chi’n credu bod offer nwy yn ddiffygiol, rhowch wybod i’ch landlord ar unwaith, neu os ydych chi’n berchen ar yr offer, gofynnwch i beiriannydd cofrestredig ei wirio.

Os ydych chi’n credu bod yr offer yn gollwng nwy, mae hyn yn fater mwy brys – mae canllaw ar y dudalen hon o’r hyn y dylech ei wneud os ydych yn amau bod pibell nwy yn gollwng.

Larymau carbon monocsid

Ar hyn o bryd, does ond rhaid i landlordiaid osod larwm carbon monocsid mewn ystafelloedd lle mae tân glo neu goed.

Mae’n bosib y bydd eich landlord yn gosod larymau carbon monocsid mewn ystafelloedd ag offer nwy, fodd bynnag, os nad yw’n gwneud hynny, dylech ystyried prynu a gosod un eich hun.

Arwyddion o beryglon nwy

Gall offer nwy fod yn anniogel os ydych yn sylwi ar...

  • fflam oren neu felyn yn lle glas
  • fflam beilot sy’n diffodd o hyd
  • unrhyw ran o’r offer sydd wedi troi’n frown neu’n ddu, neu’n dangos arwyddion o losgi
  • arwyddion o huddygl neu arogl llwydni
  • mwy o anwedd ar ffenestri 

Gall unrhyw offer nwy (er enghraifft tanau, gwresogyddion, boeleri gwres canolog, gwresogyddion dŵr neu boptai) sydd yn anniogel ollwng carbon monocsid.

Argyfyngau nwy

Beth ddylwn ei wneud os rwyf yn amau bod pibell nwy yn gollwng?

Os ydych yn amau bod pibell nwy yn gollwng, dylech ddiffodd yr offer a’r cyflenwad nwy os yn bosibl, a ffonio’r Rhif Argyfwng Nwy Cenedlaethol ar unwaith (mae’n rhad ac am ddim ac ar gael 24 awr o’r dydd).

Dylech ddefnyddio ffôn symudol i ffonio unwaith yr ydych y tu allan i’ch eiddo (neu ofyn i ddefnyddio ffôn llinell dir mewn eiddo arall).

Y Rhif Argyfwng Nwy Cenedlaethol yw 0800 111 999. Os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw gallwch ffonio 0800 371 787 ar minicom neu ffôn testun.

Os ydych chi’n meddwl bod pibell nwy yn gollwng...

  • peidiwch byth â diffodd neu droi unrhyw beth trydanol ymlaen yn eich eiddo - gallai daflu gwreichion ac achosi ffrwydrad (peidiwch â defnyddio switshis ac offer megis ffonau symudol, ffonau llinell dir, intercoms neu systemau mynediad drysau, a chlychau drws)
  • diffoddwch danau, fflamau agored a sigaréts gan y gallent hefyd achosi ffrwydrad
  • agorwch ffenestri a drysau er mwyn i nwy allu dianc, a gadael awyr iach i mewn
  • gadewch yr eiddo cyn gynted â phosib ac arhoswch tu allan i’r peiriannydd nwy gyrraedd

Os ydych yn amau bod carbon monocsid yn gollwng, dylech ddilyn y cyfarwyddiadau hyn, ond efallai y dylech hefyd geisio sylw meddygol.

Unwaith y bydd y peiriannydd Gas Safe yn cyrraedd, bydd yn ceisio canfod ym mhle mae’r carbon monocsid yn gollwng a chyflawni gwaith atgyweirio brys os oes modd ei wneud yn hawdd. Os bydd angen gwneud gwaith helaeth, bydd yn capio’r cyflenwad sy’n dod i mewn.

Gwenwyn carbon monocsid

Gall carbon monocsid gael ei gynhyrchu gan offer nwy sydd wedi cael eu gosod yn wael, ac nad ydynt wedi cael eu cynnal a’u cadw’n gywir neu sydd heb eu hawyru’n ddigonol.

Ni allwch flasu neu arogli carbon monocsid, ond gall fod yn angheuol. Gall hyd yn oed ychydig o garbon monocsid arwain at amrywiaeth o broblemau iechyd, yn cynnwys niwed i'r ymennydd.

Os ydych yn amau bod carbon monocsid yn gollwng, dylech ddilyn y cyfarwyddiadau ar gyfer gollyngiad nwy, ond efallai y dylech hefyd geisio sylw meddygol.