Mae ein Tîm Cymorth Chwarae ac Ieuenctid yn cynnwys dau dîm o weithwyr chwarae a gweithwyr ieuenctid profiadol.

Ein bwriad yw darparu cyfleoedd o safon ar gyfer gwaith chwarae a gwaith ieuenctid i gymunedau yn Wrecsam.

Cofrestru Ieuenctid a Chwarae

Os ydych yn berson ifanc sydd eisiau ymuno â gweithgaredd gwaith ieuenctid, bydd raid i chi gofrestru. Mae hyn er mwyn sicrhau bod yr holl fanylion cyswllt (gan gynnwys eich manylion cyswllt mewn argyfwng) ar gael pe bai angen.

Os ydych eisiau i’ch plentyn ddod i un o’n sesiynau gwaith chwarae, bydd raid i chi gofrestru.

Gellwch gofrestru eich manylon ar gyfer darpariaeth gwaith ieuenctid neu sesiynau chwarae drwy lenwi ein ffurflen ar-lein.

Dechrau rŵan 

 

Cysylltu â’r Tîm Cymorth Chwarae ac Ieuenctid

E-bost: play@wrexham.gov.uk neu youthservice@wrexham.gov.uk

Tîm Cymorth Chwarae ac Ieuenctid Wrecsam, Canolfan Ragoriaeth Rhiwabon, Llwyn Stanley, Rhiwabon, LL14 6AH.