Nod ein gweithwyr chwarae profiadol yw ei gwneud yn haws i blant Wrecsam gael cyfleoedd i chwarae.

Credwn fod gan bob plentyn yr hawl i gael chwarae, ond rydym yn cydnabod bod plant angen cefnogaeth weithiau i gael yr hawl yma. 

Rydym wedi ymrwymo i ganiatáu digon o amser, lle a chaniatâd i blant gael chwarae. 

Yr hyn ydym yn ei wneud

Rydym yn gweithio gyda phlant, rhieni, aelodau o’r gymuned, adrannau eraill o’r cyngor a sefydliadau eraill. Fel tîm, gallwn:

  • roi cyngor ar sefydlu darpariaeth chwarae a strydoedd chwarae
  • darparu cefnogaeth a chyngor ar wneud lleoliadau’n well ar gyfer chwarae 
  • cynnig cyngor a chefnogaeth i sefydliadau gofal plant a gwaith chwarae eraill

Rydym hefyd yn cynnal neu’n darparu’r canlynol:

Grant cyfleoedd chwarae digonol (cyllid ar gyfer lleoliadau)

Nodwch fod ceisiadau ar gyfer y grant cyfleoedd chwarae digonol wedi cau ar hyn o bryd.

Mae’r grant hwn yn agored i unrhyw sefydliadau neu grwpiau sy’n gweithio gyda phlant neu’n gweithio i’w cefnogi a chefnogi eu cyfleoedd i chwarae yn Wrecsam.

Gellwch wneud cais am hyd at £2,000 ar gyfer eich sefydliad neu grŵp. Fodd bynnag, bydd ein Tîm Cymorth Chwarae ac Ieuenctid yn penderfynu ar y swm a ddyfernir (yn dibynnu ar y galw am gyllid a pha mor addas yw’r ceisiadau a dderbynnir).

Gellwch wneud cais am y grant gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein.

Gwneud cais rŵan

Cymwysterau a hyfforddiant Gwaith Chwarae

Rydym yn cynnig ystod o gymwysterau gwaith chwarae ar gyfer gweithwyr chwarae gweithredol neu bobl sydd eisiau bod yn weithiwr chwarae. 

Cydnabyddir pob cymhwyster a gynigir gennym gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). 

Gall ein tîm gynnig hyfforddiant heb ei achredu hefyd ar bynciau megis ‘ailfynegi ymddygiad’ a ‘rheoli risg’. 

Rydym yn falch o gael cynorthwyo ac awgrymu pa gwrs fydd yn fuddiol i chi neu i’ch sefydliad.

Prosiect cynhwysiant

Mae’r prosiect hwn yn rhoi cefnogaeth ychwanegol i blant fel y gallant fynd i ddarpariaeth chwarae. 

Nid oes raid i blant gael diagnosis ffurfiol er mwyn derbyn cefnogaeth, a gall rhieni hunanatgyfeirio os ydynt yn dymuno. 

Dyrennir gweithiwr chwarae i bob plentyn, a fydd yn cadw llygad ar y plentyn ac yn cynnig cefnogaeth os oes angen. 

Gellwch gysylltu â’n Tîm Chwarae os ydych eisiau trafod anghenion unigol eich plentyn.

Gwneud cais am atgyfeiriad

Dechrau rŵan

Cefnogaeth i rieni

Mae’r tîm yn cynnwys gweithwyr chwarae profiadol wedi eu hyfforddi, ac mae nifer ohonynt yn rhieni hefyd. Mae aelodau’r tîm yn gyfeillgar a gallant roi cyngor ar anghenion chwarae plant, naill ai dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.

Mae’r tîm yn cynnal grwpiau rhieni’n aml hefyd.

Rydym yn barod i wrando ar awgrymiadau ac yn fodlon ymgymryd â phrosiectau newydd sy’n cefnogi plant i gael chwarae. Os ydych yn rhiant, yn weithiwr proffesiynol neu’n blentyn, a bod gennych syniad, mae croeso i chi gysylltu i roi gwybod i ni.