Yng Nghyngor Wrecsam, nid ydym yn darparu’r holl wasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n cael eu hariannu gennym ni. Mae rhai gwasanaethau yn cael eu darparu gan sefydliadau eraill ar ein rhan.

Pan mae ein Hadran Gwasanaethau Plant eisiau i sefydliad arall (neu adran arall o’r cyngor) i ddarparu gwasanaeth ar ei ran, mae’n comisiynu’r gwasanaeth hwnnw. Mae comisiynu yn golygu:

  • penderfynu pa wasanaeth sydd ei angen
  • dewis sefydliad i’w ddarparu
  • gwneud yn siŵr mai’r gwasanaeth a ddarperir yw’r hyn a fwriadwyd a’i fod o ansawdd da
  • cael gwybod pa wahaniaeth mae'r gwasanaeth wedi ei wneud

Mae’r Strategaeth Comisiynu Plant a Phobl Ifanc yn egluro ein proses gomisiynu ar gyfer gwasanaethau sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc.

Mae ein Hadran Gwasanaethau Plant yn comisiynu dwy raglen gwrth-dlodi a ariennir gan grant: Dechrau’n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf sy’n cefnogi plant a’u teuluoedd.

Mae rhai gwasanaethau plant hefyd wedi’u comisiynu gan gyllideb ‘craidd’ y cyngor (gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y gyllideb o dan dogfennau ariannol).