Mae adeiladau hanesyddol yn rhan werthfawr o’n treftadaeth ac yn cyfrannu at gymeriad ein tirwedd a’n trefluniau. Maen nhw’n darparu cysylltiad pwysig i’n gorffennol, yn ogystal â chynnig amgylchedd hynod i bobl fyw, gweithio ac ymweld ag ef.  

Mae gofal a gwaith cynnal a chadw cywir yn bwysig er mwyn sicrhau bod adeiladau hanesyddol yn parhau i gyfrannu at ein diwylliant lleol.

Os ydych chi’n berchen ar adeilad hanesyddol, sicrhewch eich bod yn deall sut cafodd ei adeiladu, yn ogystal â’r deunyddiau a’r technegau a ddefnyddiwyd. Bydd hyn yn helpu i lywio eich cynlluniau cynnal a chadw a’r dull gorau o atgyweirio.

Pam mae cynnal a chadw eich adeilad yn bwysig

Mae cynnal a chadw rheolaidd yn un o’r ffactorau pwysicaf i warchod eich adeilad hanesyddol. 

Heb gynnal a chadw rheolaidd, gall diffygion trafferthus a chostus ddigwydd. Mae’n bosibl y bydd y nodweddion hanesyddol a’r saernïaeth sy’n rhoi cymeriad arbennig i adeilad yn cael eu colli hefyd.

Dylech ddilyn dull wedi’i gynllunio o ran cynnal a chadw oherwydd:

  • mae cynhaliaeth reolaidd yn ymestyn ymddangosiad adeilad, sy’n gallu ychwanegu gwerth a chyfrannu at deimlad o falchder a lle o fewn cymuned
  • mae canfod problemau’n gynharach yn golygu bod mwy o’r saernïaeth wreiddiol yn cael ei gwarchod (mae hefyd yn cyfyngu ar angen am ddeunyddiau newydd ac sy’n gostus yn aml)
  • gallwch gyllidebu ar gyfer cynnal a chadw a mân waith o flaen llaw, gan arbed arian yn gyffredinol trwy osgoi taliadau mwy, annisgwyl am waith atgyweirio neu ddisodli mwy sylweddol
  • mae gennych fwy o amser i chi ddewis y crefftwyr a’r deunydd gorau ar gyfer yr adeilad

Tasgau rheolaidd

Trwy gyflawni’r tasgau syml ond hanfodol hyn, gallwch helpu i gynnal golwg eich eiddo a hefyd ymestyn oes saernïaeth yr adeilad:

Clirio dail a silt

Mae hyn yn arbennig o berthnasol i gafnau, landeri, cafnau bondo, pibelli, rhigolau a thoeon fflat.   

Mae’n un o’r tasgau pwysicaf ac mae methu â gwneud hyn yn gallu achosi diffygion mawr fel lleithder treiddiol a phydredd mewn pren adeileddol.

Rheoli twf planhigion

Mae angen rheoli twf planhigion ar neu wrth ymyl gwaith maen cyn y gall achosi difrod.  

Gall gwreiddiau gydio’n gyflym, yn enwedig gwreiddiau planhigion dringol fel eiddew. Gall y gwreiddiau dreiddio i waliau wedyn, gan ddifrodi’r gwaith maen ac uniadau mortar, gan arwain at leithder treiddiol. Gellir achosi difrod i orchudd to a gwteri hefyd.

Awyru

Cadwch systemau awyru ar agor, yn enwedig rhai sydd o dan loriau gwaelod pren. Sicrhewch eich bod yn osgoi rhwystro brics aer, rhwyllau a lwfrau hefyd. 

Mae awyriad da yn angenrheidiol i gael gwared â lleithder o’r adeilad gan atal anwedd a gwlyb-bydredd a phydredd sych.

Paentio

Mae nodweddion allanol yn fwy tebygol o bydru a rhydu os na chynhelir yn briodol. Mae paentio yn darparu addurn ac amddiffyniad.   

Dylid ailbeintio gwaith coed a gwaith haearn allanol yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn aros mewn cyflwr da.

Archwiliad rheolaidd

Bydd archwilio eich eiddo yn rheolaidd yn eich caniatáu i asesu ei gyflwr a nodi unrhyw broblemau sydd angen eu hatgyweirio.   

Dylech gysylltu â’n Hadran Gynllunio i wirio a oes angen caniatâd adeilad rhestredig ar gyfer y gwaith. 

Dylid cyflogi contractwr profiadol i wneud gwaith atgyweirio.  Dylai gwaith atgyweirio a newid ar raddfa sylweddol gael ei nodi a’i fonitro gan weithiwr proffesiynol cymwys fel arfer.  

Diogelwch

Pan fyddwch yn cynnal archwiliad o’ch eiddo, dylai diogelwch personol fod yn brif flaenoriaeth.  

Dylid bob amser defnyddio’r mynediad a’r offer diogelwch cywir.   Os bydd gennych unrhyw amheuaeth am ddiogelwch wrth gynnal archwiliad neu waith atgyweirio, cynghorir eich bod yn cyflogi crefftwr proffesiynol profiadol gydag enw da.

Am gyngor pellach, cysylltwch â’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (dolen gyswllt allanol).

Deunyddiau a thechnegau atgyweirio

Yn gyffredinol, dylid gwneud gwaith atgyweirio i’ch adeilad hanesyddol ar sail tebyg am debyg. Mae hyn yn golygu defnyddio deunyddiau a thechnegau sy’n cyfateb â’r rhai a ddefnyddiwyd yn wreiddiol. Bydd hyn yn sicrhau bod gwaith yn gydnaws o ran perfformiad yr adeilad, cymeriad ac ymddangosiad.

Mae defnyddio deunydd a thechnegau modern ar adeiladau hanesyddol yn aml yn gallu achosi mwy o broblemau difrifol i adeiladwaith yr adeilad yn y tymor hir.

Os nad yw eich eiddo wedi’i restru dylech gysylltu â’n Hadran Gynllunio am gyngor pellach ynglŷn â fydd angen caniatâd adeilad rhestredig ar gyfer unrhyw waith neu atgyweiriadau. 

Dolenni perthnasol