Mae adeiladau’n rhestredig pan maent yn cael eu hystyried o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.

Mae hyn yn golygu nid yn unig bod eich adeilad rhestredig yn bwysig i chi, ond mae’n bwysig i’ch cymuned leol hefyd ac mae’n cyfrannu at dreftadaeth ddiwylliannol Cymru.

Unwaith y bydd adeilad wedi’i restru, caiff ei warchod dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a Deddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016.

Mae newidiadau i adeiladau rhestredig yn cael eu rheoli drwy ganiatâd adeilad rhestredig, sy’n rhan o’r system gynllunio. Diben caniatâd adeilad rhestredig yw diogelu’r adeilad, ei leoliad a’i nodweddion o waith a allai ddifrodi ei ddiddordeb arbennig. 

Adeiladau rhestredig yn Wrecsam

Mae yna dros 1,040 adeilad rhestredig ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys cestyll, plastai, bythynnod, siopau, adeiladau fferm, pontydd, eglwysi, adeiladau diwydiannol, cofebau, cerrig milltir, cerrig beddi a mwy.

Gallwch chwilio am adeiladau rhestredig ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam ar y gwefannau canlynol:
 

Sut mae adeiladau wedi eu rhestru?

Llywodraeth Cymru sy’n penderfynu pa adeiladau sy'n rhestredig yng Nghymru. Mae Cadw yn cynghori Llywodraeth Cymru (gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru) wrth wneud penderfyniadau. Gall unrhyw un wneud cais i adeilad gael ei ystyried ar gyfer ei restru os ydynt yn credu bod yna ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.

Mae gofynion o dan Ddeddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 yn sicrhau yr ymgynghorir yn ffurfiol gyda pherchnogion pan fydd adeilad neu strwythur yn cael ei ystyried ar gyfer ei restru.  Bydd adeiladau a strwythurau a ystyrir ar gyfer eu rhestru yn cael eu gwarchod dros dro a fwriadwyd i ddiogelu asedau hanesyddol rhag difrod neu ddinistr yn ystod y cyfnod ymgynghori.

Mae adeiladau rhestredig yn cael eu cynnwys mewn un o dair gradd:

  • Gradd I (un) - adeiladau o ddiddordeb eithriadol
  • Gradd II* (dwy seren) - adeiladau pwysig o fwy na diddordeb arbennig
  • Gradd II (dau) - adeiladau o ddiddordeb arbennig sy’n gwarantu pob ymdrech i’w cadw

Beth bynnag fo’r gradd, mae holl adeiladau rhestredig yn cael eu trin yn gyfartal o dan reolaethau adeilad rhestredig.

Caniatâd Adeilad Rhestredig

Unwaith mae adeilad yn rhestredig mae’n cael ei ddiogelu gan ddeddfwriaeth genedlaethol ac mae’n bosibl y bydd angen caniatâd adeilad rhestredig ar gyfer gwneud unrhyw waith ar yr adeilad. Mae hwn yn fath o reolaeth sydd yn ogystal ag unrhyw reoliadau cynllunio fyddai fel arfer yn berthnasol. Mae’n bosibl y bydd angen caniatâd cynllunio hefyd ar gyfer rhai mathau o waith ar adeiladau rhestredig ble na fyddai ei angen fel arfer.

Mae’r rheolaethau yn golygu bod unrhyw newid i adeilad rhestredig, a fyddai’n effeithio ar ei gymeriad fel adeilad â diddordeb hanesyddol neu bensaernïol arbennig, angen caniatâd adeilad rhestredig Gall newid fod yn ddymunol neu’n angenrheidiol, ond mae angen ei reoli’n dda.

Mae’n drosedd gwneud gwaith heb awdurdod ar adeilad rhestredig sy’n gallu cynnwys dirwy, dedfryd neu'r ddau. Mae hefyd yn drosedd peidio cydymffurfio ag unrhyw amodau caniatâd adeilad rhestredig hefyd.

Pa fathau o waith sydd angen caniatâd adeilad rhestredig?

Bydd angen caniatâd adeilad rhestredig ar gyfer:

  • Addasiadau (gan gynnwys dymchwel yn rhannol) ac estyniadau
  • Dymchwel
  • Atgyweirio’r ffabrig hanesyddol sy’n union yr un fath â’r gwreiddiol
  • Atgyweiriadau ar sail debyg at ei debyg sydd angen tynnu llawer o ffabrig hanesyddol 

Mae’r adeilad cyfan yn cael ei ddiogelu ac mae’r tu mewn (gan gynnwys gosodiadau) a’r tu allan i’r adeilad yn cael eu diogelu, beth bynnag fo’r gradd na'r rheswm dros restru.

Mae unrhyw wrthrych neu strwythur ar adeiladau rhestredig hefyd yn cael ei ddiogelu a gall hyn gynnwys estyniadau (gan gynnwys ychwanegiadau modern), waliau, cyntedd a thai allan.

Mae strwythurau neu wrthrychau ychwanegol o fewn cwrtil adeilad rhestredig sydd wedi bod yn bresennol ar y tir ers cyn 1 Gorffennaf 1948 hefyd yn cael eu diogelu.

Cyngor

Byddem bob amser yn cynghori i wirio gyda’n hadran gynllunio i weld os oes angen caniatâd adeilad rhestredig ar gyfer unrhyw waith rydych yn ei gynllunio.

Os ydych yn meddwl am wneud gwaith ar adeilad rhestredig, gallwch gysylltu â’n hadran gynllunio am arweiniad.

Paratoi cais ar gyfer caniatâd adeilad rhestredig

Deall eich adeilad

Mae deall eich adeilad rhestredig a’i arwyddocâd yn sail ar gyfer gwneud penderfyniad cadarn. Bydd hyn yn caniatáu i chi asesu effaith posibl unrhyw newidiadau arfaethedig ar yr adeilad a chynllunio ar gyfer atgyweiriadau a chynnal a chadw.

Mae’r disgrifiad o’r rhestriad yn fan cychwyn defnyddiol i ddeall adeilad. Gallwch chwilio am adeiladau rhestredig a’u disgrifiadau drwy’r gwefannau canlynol:

Mae’r Egwyddorion Cadwraeth ar gyfer Rheoli Amgylchedd Hanesyddol Cymru mewn ffordd Gynaliadwy gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys 4 cam ar gyfer asesu arwyddocâd. Mae’r dull hwn yn seiliedig ar werthoedd 4 treftadaeth: tystiolaethol, hanesyddol, esthetig a chymunedol.

Bydd crynhoi’r gwerthoedd hyn yn helpu i ddatblygu datganiad ar arwyddocâd cyffredinol yr adeilad ac yn galluogi i nodi’r elfennau pwysicaf a all fod yn fwy sensitif i newid nag eraill.

Gofyn am gyngor gan ein hadran gynllunio

Argymhellir gwirio bod eich cynlluniau neu gynigion yn debyg o fod yn dderbyniol a gall arbed amser ac arian i chi. Gall cyfarfod safle gydag aelod o’r Tîm Cadwraeth eich cynorthwyo i ddatblygu cynllun sy’n parchu arwyddocâd arbennig yr adeilad.

Defnyddio gweithiwr proffesiynol profiadol

Cynghorir eich bod bob amser yn cyflogi pensaer neu weithiwr proffesiynol tebyg sydd â phrofiad blaenorol o weithio gydag adeiladau rhestredig. Mae’n bosibl y bydd gan weithwyr proffesiynol o’r fath achrediad mewn cadwraeth adeiladau gan gorff proffesiynol.

Ymholiadau cyn-ymgeisio

Ar gyfer cynlluniau sylweddol adeiladau rhestredig sy’n cynnwys newid defnydd, estyniadau a gwaith sy’n effeithio ar safle ehangach yr adeilad byddem yn cynghori eich bod yn cyflwyno ymholiad cyn-ymgeisio.

Mae hyn er mwyn gallu asesu’r gwaith arfaethedig o fewn cyd-destun cynllunio ehangach.

Cyflwyno cais ar gyfer caniatâd adeilad rhestredig

Ffurflen Gais

Gallwch ymgeisio drwy lenwi ffurflen gais Llywodraeth Cymru a’i e-bostio i planning@wrexham.gov.uk. Neu gallwch hefyd ymgeisio yn defnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.

Nid oes yna ffi cynllunio ar gyfer cyflwyno cais am ganiatâd adeilad rhestredig.

Bydd y wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer caniatâd adeilad rhestredig yn amrywio yn ôl maint y gwaith a fwriedir ei wneud. 

Tystysgrif Perchnogaeth

Mae hon ar y ffurflen gais a dylid ei llofnodi a’i dyddio.

Bydd angen cyflwyno’r dogfennau canlynol hefyd gyda’r ffurflen gais:

Cynllun o leoliad y safle

Dylai hwn fod yn gynllun o’r safle wedi’i ddiweddaru a’r ardal gyfagos ar raddfa o 1:1250. Dylid amlinellu safle’r cais mewn coch ac amlinellu unrhyw dir arall yn yr un berchnogaeth mewn glas. 

Cynllun Bloc

Dylai hwn fod ar raddfa o 1:500 a dangos sut mae’r adeilad yn ymwneud ag adeiladau a strwythurau eraill ar y safle neu wrth ymyl y safle a nodi unrhyw adeiladau neu nodweddion i’w dileu a/neu unrhyw estyniad neu ychwanegiad newydd.

Datganiad Effaith Treftadaeth

Roedd Deddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 yn cyflwyno gofyniad i bob cais ar gyfer caniatâd adeilad rhestredig a gyflwynir ar neu ar ôl 1 Medi 2017 i gynnwys Datganiad o’r Effaith ar Dreftadaeth.

Dylai’r datganiad hwn fod yn ganlyniad wedi’i grynhoi o Asesiad o’r Effaith ar Dreftadaeth. Mae Asesiad o'r Effaith ar Dreftadaeth yn broses strwythuredig i sicrhau bod arwyddocâd adeilad rhestredig yn cael ei gymryd i ystyriaeth pan fydd cynigion ar gyfer newid yn cael eu datblygu a’u dylunio.

Mae’n rhan greiddiol o’r broses ddylunio a ddylai ddangos bod cynigion ar gyfer newid yn briodol drwy asesu eu heffaith ar arwyddocâd yr adeilad.

Mae Cadw wedi llunio canllawiau arfer orau ar Asesiadau o Effaith ar Dreftadaeth.

Lluniau

Mae’n rhaid i’r rhain gael eu diweddaru, mewn lliw a dangos rhannau o’r adeilad sy’n amodol ar y gwaith a chynnwys golwg agos o’r manylion. 

Lluniau presennol ac arfaethedig

Dylai’r rhain gynnwys drychiadau cywir, cynlluniau llawr ac adrannau i raddfa o leiaf 1:100, yn dangos yr adeilad cyfan neu ran(nau) yr effeithir arnynt gan y gwaith arfaethedig.

Manylion

Er enghraifft dylai’r rhain gynnwys manylion adeiladu ffenestri newydd, drysau, fframiau coed, blaen siop, grisiau a mowldin. Dylid dangos y rhain ar raddfa fawr ddigonol fel 1:5 neu 1:20 ar gyfer manylion maint llawn elfennau fel bariau gwydr, mowldin a manylion gwaith saer er enghraifft.

Efallai y bydd angen cyflwyno mwy o wybodaeth ar gyfer gwaith mwy sylweddol i ddangos bod yr adeilad yn gallu gwrthsefyll y cynigion neu roi cyfiawnhad ar gyfer ymyrraeth mwy sylweddol.  Gall y wybodaeth hon gynnwys:

  • Adroddiad Strwythurol – a ddylai nodi cyflwr strwythurol yr adeilad(au), gwneud argymhellion ynglŷn â pha waith angenrheidiol sy’n ofynnol a dylid ei baratoi gan arbenigwr achrededig ar gyfer cynnal tirfesuriad sydd â phrofiad blaenorol gydag adeiladau rhestredig
  • Datganiad Dull – dylai fanylu a disgrifio’r dulliau, technegau a deunydd i’w defnyddio mewn gwaith arfaethedig 
  • Adroddiad Ecolegol – cynnwys argymhellion i leihau a lliniaru unrhyw ddifrod posibl, sy’n angenrheidiol ble mae gwaith yn effeithio ar rywogaeth a warchodir

Sut i ymgeisio am ganiatâd adeilad rhestredig

Gallwch ymgeisio am ganiatâd adeilad rhestredig drwy lenwi ffurflen gais Llywodraeth Cymru a’i e-bostio i planning@wrexham.gov.uk  Neu gallwch ymgeisio yn defnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.

Amserlen

Mae'n bosibl y penderfynir ar ganiatâd adeilad rhestredig ar gyfer gwaith sy’n effeithio ar adeilad rhestredig gradd II o fewn 8 wythnos. Gall ceisiadau ar gyfer gwaith sy'n effeithio ar adeilad rhestredig gradd II* neu I gymryd hyd at 12 wythnos i wneud penderfyniad o ganlyniad i’r broses ymgynghori.