Mae’r rheoliadau Safonau Effeithlonrwydd Ynni Gofynnol (MEES) yn golygu bod yn rhaid i eiddo a rentir yn breifat gyflawni Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) cyfradd E o leiaf. 

Os ydych yn berchennog ac/neu yn landlord ar eiddo a rentir nad yw’n cydymffurfio ac sy’n torri Rheoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Cymru a Lloegr), gallech fod yn agored i gosb ariannol  o hyd at £5,000 am bob achos o dorri’r rheoliadau a/neu bob eiddo.

Eithriadau

Dim ond pe bai cydymffurfio â’r gofynion sylfaenol yn arwain at newid cymeriad neu ymddangosiad i raddau annerbyniol y caiff adeiladau rhestredig neu adeiladau o fewn ardal gadwraeth eu heithrio o’r gofynion i gael tystysgrif perfformiad ynni. 

Nid yw hwn yn eithriad cyffredinol ac mae nifer o adeiladau yn gallu gosod mesurau effeithlonrwydd ynni na fydd yn effeithio yn andwyol ar gymeriad nac ymddangosiad yr adeilad.

Os yw’ch eiddo yn gymwys i fod yn eithriedig, mae’n rhaid i chi gofrestru eithriad os yw’n cael ei rentu ar hyn o bryd.

I gofrestru eithriad, efallai y bydd angen i chi brofi neu ddangos tystiolaeth y byddai’r mesurau a argymhellir yn newid cymeriad neu ymddangosiad yr adeilad mewn modd annerbyniol. Byddai angen i chi ddangos i ni fod mesurau effeithlonrwydd ynni a argymhellir yn anaddas ar gyfer y math o eiddo sydd gennych chi.

Cefndir adeiladau hanesyddol ac effeithlonrwydd ynni

Cafodd adeiladau hanesyddol eu dylunio i sugno lleithder a’i ryddhau’n raddol drwy ddeunyddiau anadladwy. Ar y llaw arall, mae adeiladau cyfoes yn gyffredinol yn cael eu dylunio i fod yn anhydraidd . 

Roedd adeiladau hanesyddol yn cael eu gwresogi gan danau agored ac roedd angen lefelau da o awyriad naturiol arnynt. Yn gyffredinol mae angen cael gwared ar unrhyw ddrafft mewn adeiladau cyfoes er mwyn i’w systemau gwresogi weithio’n effeithiol.

Risgiau posibl gyda gwelliannau effeithlonrwydd ynni

Mae gwaith wedi’i wneud ar nifer o adeiladau hanesyddol er mwyn gwella eu lefelau effeithlonrwydd ynni (gan amlaf trwy osod ffenestri gwydr dwbl).  

Er y gall y newidiadau hyn arwain at filiau ynni is, gall defnyddio deunyddiau anhydraidd arwain at greu bocs ‘wedi'i selio'n aerglos’, a gall hynny fod yn broblem i’r adeilad dros gyfnod o amser. Gall cyddwysiad gwagleol gronni y tu ôl i waliau sydd wedi’u leinio’n sych. Gall hyn achosi i lwydni dyfu a gall diffyg awyru niweidio pren a gwneud iddo chwysu ac arwain at bydredd sych.

Fe all hyn gael effaith niweidiol ar adeilad rhestredig sydd o bosibl â gwarchodaeth statudol o ganlyniad i ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol. Bydd angen ystyried unrhyw fanteision cadarnhaol i’r adeilad rhestredig sydd ynghlwm wrth y mesurau arbed ynni yn erbyn y niwed i’r adeilad. 

Mae hyn yn cynnwys unrhyw niwed:

  • gweledol 
  • sy’n cynnwys colli deunydd yr adeilad
  • sy’n  peryglu’r adeiladwaith mewn unrhyw ffordd

Byddai’n rhaid i chi gael asesiad o’r mesurau mwyaf ymwthiol trwy wneud cais am gyngor ynglŷn â chaniatâd adeilad rhestredig (cyflwyno ymholiad cyn gwneud cais). Mae’n bosibl y byddwn yn gwrthod eich cais os ydym yn meddwl y byddai mesur arfaethedig yn achosi niwed i ddiddordeb arbennig yn yr adeilad.

Dewis addasiadau i wella effeithlonrwydd ynni 

Fel perchennog neu landlord mae’n rhaid i chi gymryd pob cam angenrheidiol i wella’r gyfradd EPC fel ei bod mor agos ag sy’n bosibl at gyfradd E. Gellir gwneud hyn trwy gyllid trydydd parti neu gyfraniad personol, sydd wedi’i gapio i £3500 ar hyn o bryd.

Enghreifftiau o addasiadau sy’n annerbyniol yn y mwyafrif o adeiladau rhestredig yw:

  • Gwydr dwbl
  • Drysau a ffenestri newydd
  • Inswleiddio waliau allanol
  • Ffliwiau boeler allanol

Mesurau i’w hystyried

Ni fyddai’r rhan fwyaf o’r mesurau canlynol yn gofyn am ganiatâd adeilad rhestredig oni bai eu bod yn ymwneud ag aflonyddu ar ddeunydd hanesyddol a gallent gael graddfa ynni derbyniol ar Dystysgrif Perfformiad Ynni. 

Gosod deunydd insiwleiddio mewn gwagle yn y to

  • Gofalwch nad ydych yn atal awyru’r pren yn y to

Gwneud ffenestri a drysau yn wrth-ddrafft

  • Gofalwch bod modd eu defnyddio er mwyn awyru yn yr haf

Gwydr eilaidd

  • Gellir ychwanegu hwn cyn belled a nad yw’n difrodi nodweddion mewnol hanesyddol fel caeadau ffenestri neu waith plastro manwl

Gwresogi

  • Os oes un system yn gwasanaethu’r adeilad cyfan, ystyriwch a fyddai systemau unigol yn fwy effeithiol
  • Os yw’n system nwy, ystyriwch pa mor hawdd fyddai newid i drydan 
  • Ystyriwch a yw’n ymarferol i ddarparu/ddisodli system gwresogydd gwlyb gyda gwres trydan neu wresogyddion stôr 
  • Ystyriwch a oes modd defnyddio tanau agored presennol

Dŵr Poeth 

  • Os oes tanc storio, ystyriwch a fyddai modd arbed ynni trwy gael dŵr wedi’i wresogi yn uniongyrchol yn lle
  • Ystyriwch a oes modd rheoli’r system ddŵr yn fwy effeithlon

Goleuadau

  • Defnyddiwch fylbiau ynni isel
  • Gofalwch bod y gosodion golau yn y safleoedd gorau i oleuo’r ystafell 

Fodd bynnag, os nad yw’r holl fesurau hyn gyda’i gilydd yn ateb y gofynion sylfaenol efallai y byddai’r adeilad yn gymwys i’w eithrio. 

Cyngor

Gall ein Swyddog Cadwraeth roi arweiniad ynglŷn â pha waith a ganiateir a’r caniatâd adeilad rhestredig perthnasol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch anfon ymholiad cyn gwneud cais

Rydym yn eich cynghori i anfon ymholiad cyn gwneud cais cyn i chi ddechrau unrhyw waith.

Gall ein Swyddog Cadwraeth gysylltu â chi i drafod eich ymholiad ymhellach.