Mae’r Ganolfan Adnoddau Cymunedol yn adeilad newydd ei adeiladu ar safle’r hen Ganolfan Gymunedol a Llyfrgell Gwersyllt. Cafodd ei ariannu gan Urban II a Chronfa Adfywio Lleol Llywodraeth y Cynulliad. Mae’n dod â nifer fawr o gyrff at ei gilydd sydd â rhan yn y gwaith o weithredu’r cynigion adnewyddu ar gyfer yr ardal. Mae’r ganolfan yn cynnwys llyfrgell a gwasanaeth gwybodaeth, lle gydag adnoddau arbenigol i blant dan 5 oed a chyfleuster ieuenctid.

Yr Adnoddau sydd ar Gael

Mae’r ganolfan yn darparu adnoddau modern ar gyfer cyfarfodydd a chynadleddau neu weithdai.

Ystafelloedd Cyfarfod

1 ystafell o faint canolig sy'n gallu darparu ar gyfer hyd at 40 o bobl gyda thoiledau penodol ar ei chyfer, teledu a DVD, taflunydd data, uwchdaflunydd a siartiau troi, ac mae llwyfan ar gael ar gyfer darlithoedd os gofynnwch. Hanner neuadd (x2) sy'n gallu darparu ar gyfer hyd at 50 o bobl, gyda gliniadur, taflunydd data, uwchdaflunydd a siartiau troi, a llwyfan ar gyfer darlithoedd os gofynnwch.

Ystafell TG

Ystafell gyfrifiaduron gydag 16 o gyfrifiaduron personol, peiriant argraffu laser, cysylltiad â'r rhyngrwyd am ddim, peiriant sganio, swyddfa a meddalwedd gwneud cyflwyniadau.

Y brif neuadd

Y brif neuadd fawr fodern gyda lle i hyd at 150 o bobl (mewn seddi). Llwyfan ar gyfer darlithoedd a chyngherddau. Mae'r llawr yn bren lled-feddal ac yn addas ar gyfer gweithgareddau hamdden, ffitrwydd a chwaraeon ysgafn. Mae yno liniadur, taflunydd data, uwchdaflunydd a siartiau troi sydd ar gael os gofynnwch.

Cyfleusterau Crèche

Mae meithrinfa annibynnol ar gael sydd â'r holl gyfleusterau i grwpiau wedi'u trefnu o hyd at 16 o blant.

Cegin

Cegin fawr gydag adnoddau arlwyo domestig.