1. Mae’n rhaid i’r unigolyn sy’n gyfrifol am dalu am y llogi a threfnu gweithgaredd y digwyddiad lenwi a llofnodi’r ffurflen archebu. Mae’n rhaid i’r unigolyn cyfrifol fod dros 18 mlwydd oed (mae’n rhaid cael gwarantwr ar gyfer unrhyw un sy’n iau na 18). Mae hwn yn gytundeb i gadw at yr amodau llogi.
  2. Yr unigolyn / unigolion neu’r sefydliad y caniateir iddynt logi’r cyfleusterau fydd yn gyfrifol am unrhyw ddifrod a achosir yn ystod y cyfnod llogi. Codir tâl ar y llogwr am gost lawn unrhyw ddifrod i’r eiddo neu gyfarpar.
  3. Sicrhewch eich bod yn gofalu am eich eiddo personol. Ni fyddwn ni (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw eitemau neu offer ac ati sy'n cael eu dwyn neu eu colli ar y safle.
  4. Fel llogwr, mae’n rhaid i chi sicrhau nad ydych yn creu niwsans na helynt yng nghyffiniau’r ganolfan, a’ch bod yn cadw at amodau unrhyw drwyddedau ychwanegol ar gyfer eich gweithgareddau nad ydynt wedi eu cynnwys yn nhrwydded yr eiddo.
  5. Fel llogwr, mae’n rhaid i chi sicrhau bod unrhyw weithgareddau ar gyfer plant yn cydymffurfio â Deddf Plant 1989 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac mai dim ond unigolion cymwys ac addas sy’n cael mynediad at y plant.
  6. Ni ddylid defnyddio’r safle at unrhyw ddiben anghyfreithlon nac ar gyfer unrhyw ddiben a allai dramgwyddo’r cyhoedd. Trefnydd y digwyddiad sy’n gyfrifol am sicrhau y cedwir at ofynion iechyd a diogelwch ac atal unrhyw weithgaredd a allai beryglu diogelwch y cyhoedd, er enghraifft, ymddygiad afreolus a gorlenwi.
  7. Yn rhan o’r amodau llogi, mae’n ofyniad i chi wneud cofrestr o’r rhai sy’n bresennol yn eich digwyddiad. Mae’n rhaid i chi hefyd fod yn gyfarwydd â’r gweithdrefnau diogelwch tân statudol (gan gynnwys lleoliad y larymau tân, allanfeydd mewn argyfwng, offer diogelwch tân a mannau ymgynnull oddi wrth yr adeilad) sydd wedi eu harddangos yn y ganolfan. Mae’n rhaid i chi dderbyn cyfrifoldeb dros hysbysu aelodau eich grŵp am y gweithdrefnau hyn. Peidiwch â rhwystro unrhyw goridorau nac allanfeydd. Sylwer nad oes ffôn cyhoeddus wedi ei leoli yn yr adeilad hwn. Fel llogwr, chi sy’n gyfrifol am ddarparu cymorth cyntaf i’r rhai sy’n bresennol.
  8. Mae’n rhaid cael caniatâd gan staff y ganolfan i ddod ag unrhyw offer trydanol i’r safle. Mae’n rhaid i bob dyfais fod wedi cael ei harchwilio a’i phasio gan drydanwr cymwys i fod yn ddiogel i’w defnyddio, a dylai gydymffurfio â rheoliadau cyfredol (efallai y bydd angen tystiolaeth ysgrifenedig o hyn gyda thystysgrif a gyhoeddwyd yn ystod y 12 mis cyn dyddiad y llogi). Mae’r rheoliad hwn yn berthnasol i unrhyw unigolyn neu grŵp sy’n cymryd rhan yn eich digwyddiad neu yr ydych yn isosod iddynt (megis masnachwyr, arlwywyr, disgos, bandiau).
  9. Fel y llogwr, chi sy’n gyfrifol am drefnu trwyddedau pan fo angen cyfleusterau bar ac am sicrhau y cedwir at y cyfreithiau trwyddedu’n llwyr. Mewn canolfannau lle mae ardal y bar ar wahân i ardal y gegin, gallai fod angen taliad ychwanegol am gael defnyddio’r ardal hon.
  10. Fel llogwr, mae’n rhaid i chi sicrhau bod unrhyw fwyd a baratowyd neu a gymerwyd i’r safle wedi ei baratoi, ei storio a’i weini yn unol â’r canllawiau a geir mewn rheoliadau iechyd a diogelwch. Nid ydym ni (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, gan gynnwys ein swyddogion, gweision ac asiantiaid) yn atebol am farwolaeth neu salwch unrhyw unigolyn sy’n bwyta bwyd ar y safle a achoswyd gan unrhyw reswm heblaw safon ddiffygiol hylendid ardal baratoi bwyd briodol y ganolfan.
  11. Yr ydym ni (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) wedi yswirio’r safle ar gyfer risg arferol, ond dylech chi, fel llogwr, sicrhau bod unrhyw risgiau yswiriant yn gysylltiedig â damweiniau, atebolrwydd personol, yn cael eu cynnwys. Sylwer, caniateir defnyddio’r ganolfan a’r holl offer, cyfleusterau ac amwynderau ar eich menter chi, y llogwr, ac ni fyddwn ni (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) yn atebol am farwolaeth nac anaf personol i unrhyw ddefnyddiwr nac am golled ddilynol, ac eithrio o ganlyniad i gyflwr diffygiol y ganolfan neu’r offer, neu o ganlyniad i esgeulustod y Pwyllgor Rheoli, ei swyddogion, gweision neu asiantiaid.
  12. Y costau llogi cyfredol yw’r rhai a nodwyd ar y ffurflen gais ac mae’r rhain yn cael eu hadolygu’n flynyddol. Mae’r ffi’n daladwy i ni (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) cyn archebu neu pan fyddwn yn derbyn anfoneb ar gyfer grwpiau sydd â chytundeb archeb bloc. Os dilëir yr archeb rhwng 28 niwrnod a 15 niwrnod cyn y digwyddiad, bydd rhaid i chi dalu 50% o’r gost. Os dilëir yr archeb 14 diwrnod neu lai cyn y digwyddiad, bydd rhaid i chi dalu 100% o’r gost.
  13. Cynhelir sesiwn yn y bore, y prynhawn neu gyda’r nos. Mae’r costau llogi fesul sesiwn a bydd pob sesiwn yn para 3 awr. Bydd archebu fesul awr yn cael ei ystyried ac fe geir pris wrth ofyn. Fel llogwr, gellwch ddod i’r ganolfan ar yr amser archebu y cytunwyd arno yn unig, ac mae’n rhaid gadael yn brydlon ar ddiwedd yr amser archebu, pan fo aelod o staff yn cyrraedd. Mae manylion cyswllt mewn argyfwng wedi eu harddangos ar yr hysbysfwrdd yn y ganolfan.
  14. Fel llogwr, mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn gadael yr eiddo mewn cyflwr taclus a boddhaol ar ddiwedd yr amser llogi.
  15. Ni chaniateir ysmygu (na defnyddio sigaréts electronig) yn unrhyw ran o’r adeilad nac ar unrhyw ran o’r safle. Ni fyddwn yn goddef i unrhyw un ddod â chyffuriau at ddibenion hamdden ar y safle, nac yn goddef unrhyw gamddefnyddio sylweddau yn y ganolfan – bydd unrhyw achos o hyn yn arwain at ddiddymu’r archeb, gwrthod derbyn archebion yn y dyfodol, ac erlyniad.