Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Addysg Gynnar i blant 3 oed yn Wrecsam

 

Oes gennych chi blentyn a fydd yn 3 oed rhwng 1af Medi a 31ain Mawrth? Os OES darllenwch ymlaen...

Mae cyllid ar gael nawr i blant 3 oed yn Wrecsam dderbyn addysg gynnar yn y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed. Gall eich plentyn gael lle mewn lleoliad ‘gymeradwy’ ar gyfer naill ai:

a) 5 sesiwn yr wythnos, un y dydd, am 2 awr o hyd

NEU….

b) 4 sesiwn yr wythnos, un y dydd, am ddwy awr a hanner o hyd.

Bydd hyn yn dibynnu ar yr hyn a ddarperir gan eich lleoliad ddewisedig.

Gall lleoliad ‘gymeradwy’ fod yn un o’r canlynol:

  • Cylch chwarae
  • Meithrinfa breifat
  • Dosbarth meithrin neu uned blynyddoedd cynnar  mewn ysgol leol.

Gellwch wneud cais trwy gwblhau ffurflen dderbyniadau yn yr uned.  Gellwch wneud cais am gyllid mewn UN lleoliad yn unig.  Bydd y cyllid yn mynd yn uniongyrchol i’r lleoliad bob hanner tymor.

 I blant sy’n cael eu pen-blwydd yn ystod tymor yr hydref (1af Medi - 31ain Rhagfyr), rhoddir cyllid am 2 dymor - y gwanwyn a’r haf.

I blant sy’n cael eu pen-blwydd yn ystod tymor y gwanwyn (1af Ionawr - 31ain Mawrth) rhoddir cyllid am 1 tymor - yr haf.

Rhaid i’r lleoliad sy’n derbyn cyllid:-

  • gyflogi staff sydd â chymwysterau addas
  • gael archwiliad gan ESTYN
  • ddarparu’r sesiynau a nodir
  • dderbyn cefnogaeth athro/athrawes gymwys yn rheolaidd
  • gwblhau hyfforddiant addysg gynnar a ddarperir gan yr AALl.

Nid yw’r ffaith eich bod yn cael lle mewn lleoliad addysg gynnar cyn ysgol gymeradwy yn golygu y cewch le mewn ysgol feithrin fel mater o drefn.  Rhaid gwneud cais ar wahân am hyn yn defnyddio’r ffurflen dderbyniadau meithrin sydd ar gael ym mhob ysgol neu’r Adran Dderbyniadau yn Nhŷ Henblas.

Nôd Wrecsam yw darparu’r profiadau chwarae gorau i’n plant blynyddoedd cynnar.

Dysgu trwy Chwarae

  • cael hwyl!
  • gwneud pethau!
  • darganfod gwybodaeth!
  • archwilio!
  • cwrdd â ffrindiau!
  • gwneud pethau dros fy hunan!

Am wybodaeth bellach, ffoniwch:
Desg Gymorth Addysg Gynnar: 01978 317666

 
English
 

Cyswllt i

Dyddiadau Tymor
Cysylltiadau Addysg
Addysg
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint