Mae’r ymgynghoriad isod ar y cynigion i gynyddu capasiti disgyblion yn Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru, Y Santes Fair, Brymbo, bellach ar gau.

Ymgynghoriad ar y cynigion i gynyddu capasiti disgyblion yn Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru, Y Santes Fair, Brymbo.

Mae’r Ymgynghoriad hwn yn gyfle i’r gymuned leol a’r gymuned yn ehangach i ddysgu am y cynnig i gynyddu capasiti yn barhaol yn Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru Y Santes Fair, Brymbo.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn dymuno ceisio safbwyntiau’r partïon â diddordeb mewn perthynas â'r cynnig i gynyddu capasiti disgyblion yn Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru Y Santes Fair, Brymbo. Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn nodi gwybodaeth y bydd angen i ymgyngoreion ei hystyried i gymryd rhan lawn yn y broses ymgynghori. Mae'r broses yn dilyn canllawiau rheoleiddio fel y nodir yng Nghod Trefniadaeth Ysgolion 2018.

Yn dilyn adborth drwy’r ymgynghoriad cyhoeddus hyd yma a thrafodaethau pellach gyda Chomisiynydd y Gymraeg, rydym wedi adolygu elfennau o ddogfen waith yr asesiad o effaith ar y Gymraeg sy’n sail i’r rhan yma o’r ymgynghoriad.

Mae’r dogfennau diwygiedig ar gael isod.  Mae copïau caled ar gael ar gais.  

Mae’r cyfnod ymgynghori yn cychwyn ar 23 Hydref 2023 ac mae’n dod i ben ar 12 Ionawr 2024. 

Yr Ymgynghoriad

Mae’r Cyngor yn dymuno derbyn barn yr holl rai sy’n debygol o fod â chysylltiad â’r cynnig.  Mae'n bwysig y gellir rhoi ystyriaeth i bob safbwynt cyn i benderfyniad gael ei wneud. 

Mae croeso i chi ofyn unrhyw gwestiwn a rhoi gwybod i ni beth yw’ch barn drwy e-bostio StMarysBrymboConsultation@wrexham.gov.uk.

Cwestiynau Cyffredin 

A allaf rannu’r ymgynghoriad ar fy nghyfryngau cymdeithasol ac os allaf, beth allaf ei rannu?

Gallwch, gellir rhannu’r ymgynghoriad ar y cyfryngau cymdeithasol. Pe baech yn dymuno gwneud hynny, anfonwch e-bost at; StMarysBrymboConsultation@wrexham.gov.uk a darperir y dolenni i rannu’r ffurflen ymgynghoriad ar-lein ar EichLlais.

A fydd yr ysgol newydd yn cael ei huno gydag Ysgol Tanyfron?

Nid oes bwriad i uno’r ysgol newydd gydag Ysgol Tanyfron o ganlyniad i’r ymgynghoriad hwn.

Pam fo ysgol newydd yn cael ei hadeiladu pan fo gan ysgolion eraill yn yr ardal leol/gyfagos leoedd gwag?

Nid yw’r ysgol bresennol yn addas, o ran y posibilrwydd ar gyfer estyniad ac o ran cynnig y cyfleusterau gofynnol i ddarparu’r cwricwlwm modern yn llwyddiannus.   Mae hi ar allt serth ar hyn o bryd gyda lle parcio cyfyngedig, mynediad gwael i gerbydau a dim llawer o le chwarae y tu allan.   Mae’r ysgol yn defnyddio cae chwarae sydd 1 cilomedr i ffwrdd o’r adeilad gyda’r disgyblion yn gorfod croesi ffordd brysur i fynd yno.   Mae’r cae yn dueddol o gael llifogydd sydd weithiau yn golygu nad yw’n addas ar gyfer chwaraeon a gweithgareddau hamdden. Y rhesymeg dros y prosiect hwn, yn ogystal â chynyddu capasiti, yw creu amgylchedd dysgu o ansawdd uchel ar safle mwy i fodloni’r galw a ragwelir yn y dyfodol am leoedd ysgol yn yr ardal unwaith y bydd y datblygiad tai arfaethedig wedi’i gwblhau.

4. Sut fydd yr ysgol yn derbyn disgyblion ychwanegol? (ysgol newydd neu estyniad?)

Bydd adeilad yr ysgol newydd yn cael ei ddylunio mewn modd a fydd yn caniatáu ehangu’n hawdd yn y dyfodol os gwireddir yr angen i gynyddu niferoedd i 315. Mae’r cynnydd mewn capasiti yn amodol ar gael caniatâd cynllunio ar safle newydd yr hen Waith Dur Brymbo, LL11 5FS.

Sut fyddwch yn sicrhau nad yw’r ysgol newydd yn cael effaith negyddol ar ysgolion eraill yn yr ardal? (e.e. toriadau cyllideb posib, pobl yn peidio â dewis ysgolion lleol eraill gan nad yw’r cyfleusterau mor fodern)

Mae'r Cyngor yn credu bod manteision tymor hir y cynnig, megis cynnydd mewn lleoedd disgyblion mewn ardal o alw cynyddol, yn gorbwyso unrhyw anfanteision neu risgiau. Mae’r ymgynghoriad ar gynyddu’r capasiti wedi ei gadw fel isafswm yn seiliedig ar nifer y disgyblion o ganlyniad i’r datblygiad newydd arfaethedig. Mae hyn er mwyn lleihau unrhyw effaith negyddol posib ar ysgolion eraill yn yr ardal. Mae’r Cyngor yn gweithredu ar sail dewis rhieni ar gyfer derbyniadau i ysgolion, fel yr amlinellir yn y Canllaw i Rieni ar Wasanaethau Addysg.

Sut fyddwch yn sicrhau fod adeilad yr ysgol newydd yn ecogyfeillgar?

Fel rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i ddod yn di-garbon erbyn 2030, bydd yr adeilad ysgol newydd yn cynnwys nodweddion carbon isel, effeithlon o ran ynni ac arloesol. Bydd y dyluniad yn anelu i gynnwys cynefinoedd priodol ar gyfer rhywogaethau naturiol ac yn anelu i ddod â’r amgylchedd naturiol i’r gofod dysgu drwy gyflwyno nodweddion bioffilig e.e. waliau byw. Rhagwelir hefyd y bydd y dyluniad modern ac arloesol yn caniatáu i gymuned ehangach Brymbo gael defnydd o ofod ecogyfeillgar ac ynni effeithlon y tu allan i’r oriau ysgol.   Bydd yr adeilad ysgol newydd yn cael ei ddylunio a’i adeiladu i safonau rhagoriaeth BREEAM a bydd yn diwallu gofynion Llywodraeth Cymru ar gyfer Sero Net o ran gweithrediad.

Sut y bydd teithio llesol i’r ysgol yn cael ei annog?

Rydym yn anelu i hyrwyddo dulliau teithio mwy diogel a chynaliadwy, i ostwng y ddibyniaeth ar siwrneiau ceir sy’n creu llygredd a thagfeydd, wrth wella lles corfforol a meddyliol disgyblion, trwy annog mwy o gerdded, beicio a mynd ar sgwter.

Pryd y disgwylir i’r ysgol newydd fod yn barod ar gyfer derbyniadau?

Ar gyfer yr ysgol newydd rydym wedi amcangyfrif y bydd y drysau yn agor yn neu cyn Medi 2026 (yn amodol ar gael caniatâd cynllunio), fodd bynnag rydym yn bwriadu cynyddu’r rhif derbyn o Fedi 2025.

Nid yw’r ddogfen yn egluro pam fod dau rif derbyn - 210 neu 315?

Rydym yn cynnig cynyddu’r capasiti disgyblion o 154 i 210 o fis Medi 2025, gyda’r potensial i gynyddu ymhellach i 315 os bydd angen o ganlyniad i ddatblygiadau tai yn y dyfodol.   

Nid yw mynediad graddol yn ystyriaeth ymarferol gan y byddai 2 ysgol i’w rhedeg a’u cynnal. Pam adeiladu ysgol di-garbon os yw’r rhan fwyaf o’r disgyblion 3/4 milltir i ffwrdd mewn adeilad sy’n gollwng gwres fel gogr?

Wrth i’r ysgol bresennol symud i’w hadeilad ysgol newydd, rydym ond yn cynnig mynediad graddol i’r meithrin a’r derbyn am gyfnod o 6 mlynedd nes bod yr ysgol yn cyrraedd ei gapasiti bwriedig. Mae carbon sero net yn ofyniad gan Lywodraeth Cymru ym mhob adeilad addysg newydd.

A yw Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg wedi ei gynnal?

Do, mae copi o’r Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg ar ein tudalen we ymgynghoriad ac ar y dudalen we Eich Llais. Mae copïau caled ar gael ar gais. 

Ydych chi’n gallu rhoi sicrwydd fod yr arian ar gyfer y prosiect hwn ar gael?

Bydd y prosiect yn cael ei ddarparu ar sail yr arian cyfatebol canlynol sydd wedi cael ei sicrhau:

  • 15% Ymddiriedolaeth Blwyfol
  • 85% Llywodraeth Cymru 

Pe byddai’r ysgol ar 2 safle, gallai atal newydd ddyfodiaid i’r pentref rhag dewis ysgol Brymbo?

Ni fyddwn yn gweithredu dau safle newydd - bydd yr holl ddisgyblion yn cael eu symud i’r ysgol newydd pan fydd yr adeilad yn agor ei ddrysau. 

A oes pryder o ran capasiti oherwydd y datblygiad o dai newydd yn yr ardal, pam ddim ystyried ysgol cyfrwng Cymraeg?

Rydym wedi cael asesiad llawn a manwl o’r effaith ar y Gymraeg ble mae pwyntiau cadarnhaol a negyddol yn cael eu trafod a chamau lliniaru yn cael eu hadnabod. 

Bydd yn cael effaith negyddol ar y niferoedd yn Ysgol Bryn Tabor. Mae ganddynt blant o ardal Brymbo, ond a fyddent yn parhau i fynychu pan fydd ysgol newydd yn cael ei hadeiladu gerllaw, hyd yn oed os yw trwy gyfrwng y Saesneg?

Nid yw tystiolaeth o gynigion ad-drefnu ysgolion blaenorol i gynyddu capasiti mewn ysgolion cyfrwng Saesneg wedi golygu gostyngiad uniongyrchol mewn niferoedd disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

A yw astudiaeth wedi ei chynnal ar y gostyngiad posib yn Ysgol Bryn Tabor?

Rydym wedi cael asesiad llawn a manwl o’r effaith ar y Gymraeg ble mae pwyntiau cadarnhaol a negyddol yn cael eu trafod a chamau lliniaru yn cael eu hadnabod. 

Nid yw’r ysgolion yn yr ardal yn llawn, felly pam fod angen ysgol gyda mwy o le ar hyn o bryd? Gallai’r ysgolion presennol ymdopi gydag unrhyw gynnydd yn y galw o ganlyniad i’r gwaith adeiladu.

Ni fyddai’r ddwy ysgol agosaf yn gallu darparu ar gyfer y cynnydd arfaethedig yn nifer y disgyblion o ganlyniad i’r datblygiad tai newydd arfaethedig.

Uned ADY - pam blaenoriaethu ADY cyfrwng Cymraeg yn y lle cyntaf?

Agorodd Noddfa ym Medi 2023 i ddarparu gwasanaeth cymorth cynhwysfawr ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol ar draws y fwrdeistref sirol. Mae’r gwasanaeth cymorth sydd ar gael gan Noddfa yn hollol ddwyieithog ac felly’n cefnogi Deilliant 6 yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg sy’n anelu i ehangu Darpariaeth ADY trwy gyfrwng y Gymraeg.

Rydym yn cydnabod nad oes gan y tair ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg agosaf ddarpariaeth ADY, fodd bynnag mae hyn yn cael ei drin trwy amcanion Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg fel rhan o Ddeilliant 6. Mae hefyd wedi ei gynnwys fel rhan o Adolygiad ADY y fwrdeistref sirol ehangach a gynhelir ar hyn o bryd.